Skip to Main Content

Os ydych chi’n dioddef cam-driniaeth neu drais gan aelod o’ch cartref ar hyn o bryd, neu os ydych yn wynebu bygythiad o drais neu gamdriniaeth ar hyn o bryd gallwch gysylltu â’r tîm Opsiynau Tai am gyngor a chymorth.

Cysylltwch â Ni

To contact the Housing Options Team:

Ffoniwch :  01633 644 644

E-Bostiwch : housingoptions@monmouthshire.gov.uk

Gallwch fynd at unrhyw awdurdod lleol am gymorth i ffoi, nid oes rhaid iddo fod yr awdurdod lleol yr ydych yn byw ynddo ar hyn o bryd.

Mae cam-drin yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, drais corfforol neu fygythiadau o drais. Mae cam-drin seicolegol, ariannol, emosiynol a rhywiol i gyd yn cael eu hystyried yn gam-drin domestig.

Unwaith y byddwch wedi cysylltu â ni, bydd Swyddog Opsiynau Tai yn siarad â chi am eich sefyllfa ac yn cwblhau cais digartrefedd ar eich cyfer. Fel rhan o’r broses hon gofynnir i chi a hoffech gael cymorth ychwanegol.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gydag asiantaethau cymorth arbenigol sy’n cefnogi pobl sy’n profi neu’n dianc rhag Cam-drin Domestig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth yma (cliciwch i weld Cymorth Tai).

Gallwch barhau i gael mynediad at y cymorth arbenigol hwn os ydych yn dioddef Cam-drin Domestig ond nad ydych yn teimlo’n barod i adael neu’n teimlo na allwch adael. Gallwch hunangyfeirio neu gael rhywun i wneud hyn ar eich rhan.

Yn ddibynnol ar eich sefyllfa bresennol bydd eich Swyddog Opsiynau Tai naill ai’n eich cyfeirio am lety dros dro, lloches, neu’n cymryd camau i’ch helpu i aros yn ddiogel yn eich cartref.

Cysylltwch â’r Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol

Gallwch ein ffonio, am ddim ac yn gyfrinachol, 24 awr y dydd.

0808 2000 247