Skip to Main Content

Beth i’w wneud os oes gennych bryder penodol am goeden sy’n bodoli eisoes

Cyn adrodd

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud y canlynol cyn adrodd i ni am bryderon coed:

  • Darllenwch ein Polisi Coed
  • Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin ar ein Polisi Coed
  • Darllenwch y dudalen hon yn llawn

Adnabod perchnogaeth goed

Mae’n rhaid i chi adnabod perchennog coeden cyn adrodd er mwyn sicrhau eich bod yn adrodd i’r tîm neu’r person cywir. Gall adrodd i’r tîm neu’r person anghywir arafu eich ymchwiliad.  Efallai ei bod hi’n bosib i chi adnabod y corff sy’n gyfrifol am goeden drwy ddefnyddio adran mapiau gwybodaeth leol FySirFynwy . Os na allwch adnabod perchnogaeth eich hun, gallwch gysylltu â’r cyngor i gael arweiniad: Ffoniwch y Ganolfan ar 01633 644644 neu e-bostiwch contact@monmouthshire.gov.uk

Coed ar Dir Cyngor

Ar gyfer holl bryderon coed, gan gynnwys y rhai ar briffyrdd, cwblhewch y ffurflen adrodd coed ar FySirFynwy. Byddwch mor gywir â phosibl wrth ddisgrifio’r mater.  Gallwch hefyd roi gwybod amdano dros y ffôn ar 01633 644644 neu drwy e-bost: contact@monmouthshire.gov.uk

Coed ar Hawl Tramwy Cyhoeddus

Nid yw Cyngor Sir Fynwy yn berchen ar goed gerllaw hawliau tramwy cyhoeddus ac, o’r herwydd, nid ydynt mewn sefyllfa i’w rheoli mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag, os yw coeden neu gangen yn syrthio ar draws hawl tramwy cyhoeddus gan flocio neu’n amharu ar fynediad, mae dyletswydd ar y cyngor sir i’w glirio.

Defnyddio ein map rhyngweithiol i roi gwybod am faterion hawliau tramwy. Fel arall, gallwch e-bostio countryside@monmouthshire.gov.uk

Coed ar Dir Preifat

Nid oes gan y cyngor yr awdurdod i weithredu ar dir preifat, bydd angen trafod yr holl bryderon ynghylch coed ar dir preifat gyda pherchennog y tir. Byddwch yn ymwybodol y gall fod Gorchymyn Diogelu Coed ar waith. Os ydych yn cael problemau gyda’r tirfeddiannwr, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin ar ein Polisi Coed

Pan nodir bod coeden sy’n eiddo preifat yn peri risg i ddefnyddwyr cyhoeddus priffyrdd a mannau agored, neu mae’n amharu ar fynediad at hawl tramwy neu briffordd gyhoeddus, gall y cyngor sir gyflwyno hysbysiad ar y tirfeddiannwr i wneud gwaith coed, i wneud y goeden yn ddiogel neu i glirio’r mynediad.

Coed ar Dir Ysgol

Cyfrifoldeb Pennaeth a Llywodraethwyr yr ysgol yw coed ar dir yr ysgol.  Os oes gennych broblem gyda choeden neu wrych, yna dylech yn y lle cyntaf gysylltu â’r ysgol.

Gwrychoedd

Ychydig iawn o wrychoedd sy’n berchen i Gyngor Sir Fynwy.  Mae’r rhan fwyaf o’r ymholiadau i’r cyngor sir am wrychoedd yn ymwneud â gwrychoedd ar ymyl y ffordd. Nid Cyngor Sir Fynwy sy’n berchen ar y rhan fwyaf o wrychoedd a choed gwrychoedd ymyl y ffordd, y tirfeddiannwr cyfagos yw’r perchnogion. Darllenwch ein tudalen Gwrychoedd am fwy o wybodaeth.