Skip to Main Content

Mae cynllunio yn ymwneud â gofyn am ganiatâd ffurfiol i godi neu newid adeiladau neu ddatblygiad tebyg, yn cynnwys newid defnydd tir. Dylid cael caniatâd cyn dechrau ar y gwaith.

Mae Rheoli Adeiladu yn ymwneud â chynnal safonau adeiladu o fewn y diwydiant adeiladu i gyflawni’r Rheoliadau Adeiladu cyfredol ar gyfer y broses datblygu ac adeiladu. Fel arfer caiff cais Rheoliadau Adeiladu ei gyflwyno ar ôl i chi dderbyn caniatâd cynllunio ond cyn i chi ddechrau ar y gwaith.

Bydd peth gwaith angen caniatâd cynllunio ond efallai nad yw angen Rheoliadau Adeiladu (er enghraifft, hysbysebion) a bydd gwaith arall angen Rheoliadau Adeiladu ac efallai nad oes angen caniatâd cynllunio (er enghraifft, rai newidiadau strwythurol mewnol).

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Hysbysiad Adeiladu a chais Cynlluniau Llawn?

Mae Hysbysiad Adeiladu yn gais addas ar gyfer gwaith llai, er enghraifft waith draenio, agoriadau strwythurol, estyniadau bach a syml. Nid oes cymeradwyaeth ffurfiol fodd bynnag byddwch yn cael llythyr derbyn. Caiff manylion y gwaith eu trafod ar y safle wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Cais Cynlluniau Llawn yw ble cyflwynir cynlluniau manwl a manylebion ac yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu cyn i’r gwaith ddechrau (e.e. caiff manylebion eu cymeradwyo cyn adeiladu). Rhoddir hysbysiad penderfyniad a all fod ar wedd cymeradwyaeth, cymeradwyaeth amodol neu wrthwynebiad. Gallwn ofyn am newidiadau cyn gwneud penderfyniad.

Pa mor hir mae’n ei gymryd i brosesu fy nghais Cynlluniau Llawn?

Ar hyn o bryd mae eich cais Cynlluniau Llawn yn cymryd 4 diwrnod ar gyfartaledd i ddod i benderfyniad.

Pa mor hir mae’n ei gymryd i brosesu fy Hysbysiad Adeiladu?

Ar hyn o bryd mae eich cais Hysbysiad Adeiladu yn cymryd 2 ddiwrnod ar gyfartaledd i gael llythyr derbyn.

Ar ba gamau mae angen archwilio fy ngwaith?

Unwaith y gwnaethoch gais Rheoliadau Adeiladu, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn eich llythyr derbyn Hysbysiad Adeiladu neu lythyr penderfyniad Cynlluniau Llawn (yn dibynnu ar eich math o gais) ar pryd mae angen i ni ymweld â safle. Er enghraifft, adeg dechrau gwaith, adeg gosod sylfeini, ar lefel to, gwaith draeniad cysylltiedig ac ati.

Pa mor gyflym fyddwch chi’n dod i’r safle?

Fel arfer yr un diwrnod neu’r trannoeth.

Pa mor hir mae’n ei gymryd i gael fy Nhystysgrif Cwblhau?

Dylech gael eich Tystysgrif Cwblhau yr un diwrnod neu’r trannoeth eich archwiliad terfynol (os yw popeth yn foddhaol).

Gallaf fod yn adeiladu yn agos at neu dros bibell draeniad a gorchudd twll gwaith. Oes angen i mi gysylltu â Dŵr Cymru?

Os ydych yn bwriadu ymestyn eich eiddo neu adeiladu un newydd, bydd angen i chi wneud yn siŵr os gwyddoch os unrhyw garthffosydd cyhoeddus neu ddraeniau ar eich tir. Os oes pibelli, gallai effeithio ar y gwaith adeiladu felly mae’n syniad da canfod cyn i chi ddechrau. Os ydych yn bwriadu adeiladu dros, neu o fewn 3 metr o un o bibelli carthffos neu ddraeniau Dŵr Cymru, bydd angen i chi gael caniatâd Dŵr Cymru 
Ar 1 Hydref 2011, trosglwyddodd perchnogaeth draeniau a gaiff eu rhannu a chysylltiadau sy’n ymestyn tu hwnt i ffin eiddo i’r awdurdod dŵr lleol. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma

Beth yw’r Cynllun Personau Cymwys (CPS)?

Cafodd y Cynllun Personau Cymwys ei gyflwyno gan y Llywodraeth ac mae’n gosodwr crefftwr/gosodwr i hunanardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma. Mae rhai o’r cyrff cymeradwy yn cynnwys:

Gas Safe – ar gyfer cyfarpar nwy
Oftec – ar gyfer cyfarpar olew
HETAS – ar gyfer cyfarpar tanwydd soled
Elecsa – gwaith trydanol
NICEIC– gwaith trydanol
FENSA – gosodwyr gwydr
CERTASS – gosodwyr gwydr

Sut allaf wirio os yw crefftwr/gosodwr yn rhan o Gynllun Personau Cymwys y Llywodraeth?

Gallwch wirio yma os yw crefftwr wedi cofrestru ac i ddod o hyd i drydanydd sydd wedi cofrestru, cliciwch yma.