Skip to Main Content

Datblygu cynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Fynwy a chyrff cyhoeddus eraill i feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, edrych ar atal problemau a chymryd dull gweithredu mwy cydlynol.

Mae’r ddeddf newydd hon yn golygu fod yn rhaid i ni wneud yr hyn a wnawn mewn modd mwy cynaliadwy. Mae angen i ni wneud yn siŵr pan wnawn benderfyniadau ein bod yn rhoi ystyriaeth i’r effaith y gallem ei gael ar bobl sy’n byw yn Sir Fynwy a thu hwnt yn y dyfodol. Mae angen i ni ddangos sut y cyfrannwn at y saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r saith nod llesiant yn dangos y math o Gymru y dymunwn ei gweld. Gyda’i gilydd maent yn rhoi gweledigaeth a gaiff ei rhannu ar gyfer y cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf i weithio ati:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu animeiddiad byr sy’n esbonio’r effaith gadarnhaol a gaiff Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy gydol bywyd rhywun.

Dan y Ddeddf, mae Sir Fynwy hefyd wedi sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, partneriaeth strategol yn cynnwys y Cyngor, y Bwrdd Iechyd, yr Heddlu, Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, GAVO ac eraill. Mae’n rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy drwy weithio i gyflawni’r nodau llesiant. Mae mwy o wybodaeth am waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yma.

Fel rhan o’r Ddeddf, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynhyrchu Asesiad Llesiant sy’n tynnu canfyddiadau ynghyd o ddata, ymchwil academaidd, tueddiadau’r dyfodol a barn pobl leol. Mae’n ystyried llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy yn ei chyfanrwydd a 5 ardal ddaearyddol. Defnyddir yr Asesiad Llesiant i helpu datblygu Cynllun Llesiant erbyn mis Mai 2018.

ein sir fynwy

Mae’n gyfrifoldeb arnom hefyd i osod a chyhoeddi amcanion llesiant ar gyfer y Cyngor, cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hyn, cyhoeddi datganiad am yr amcanion llesiant a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar gynnydd.

gwella

Ym mis Gorffennaf 2016, mabwysiadodd y Cyngor Bolisi Datblygu Cynaliadwy newydd sy’n seiliedig ar ddeddfwriaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Nod y polisi yw gwneud yn siŵr fod dealltwriaeth glir a chyson o’r hyn mae datblygu cynaliadwy yn ei olygu ar draws yr holl Gyngor. Rydym yn credu fod datblygu cynaliadwy a chenedlaethau’r dyfodol yn agweddau hollbwysig o bopeth a wnawn, a phan fyddwn yn gweithio gyda partneriaid, contractwyr a sefydliadau eraill byddem yn disgwyl iddynt rannu’r gwerthoedd hyn. Mae’r Polisi yma.

Gallwch gael mwy o wybodath am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy lawrlwytho trosolwg Llywodraeth Cymru ‘The Essentials’. http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/150623-guide-to-the-fg-act-en.pdf