Sylwch bod strwythur prisio newydd ar gyfer trwyddedau sgip wedi dod i rym o 15 Ebrill 2019. Bydd y taliadau newydd yn £93 y mis, gyda phob wythnos ychwanegol yn cael ei phro-rata am £25.25 yr wythnos.
Ffurflenni cais
Cliciwch yma ar gyfer y ddogfen Canllawiau Sgaffaldio
| Crynodeb trwydded | I osod sgip adeiladwr ar ffordd gyhoeddus, mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol. |
|---|---|
| Meini prawf cymhwysedd | Dim darpariaeth benodol yn y ddeddfwriaeth. |
| Crynodeb o’r rheoliadau | Crynodeb o’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon. |
| Proses gwerthuso’r cais | Gellir rhoi caniatâd yn amodol ar amodau sy’n ymwneud â’r canlynol: – lleoli’r sgip – dimensiynau’r sgip – gwneud y sgipiau’n weladwy i draffig – gofalu am gynnwys y sgip a’i waredu – goleuo a gwarchod y sgipiau – tynnu’r sgip |
| A yw caniatâd trwy ddiffyg (tacit consent) yn berthnasol? | Na. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â hwy. Gallwch wneud hyn ar-lein yma os gwnaethoch wneud cais drwy’r gwasanaeth UK Welcomes, neu ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. |
| Gwneud cais ar-lein | (Sylwch bod ymgeiswyr yn derbyn telerau ac amodau Cyngor Sir Fynwy wrth wneud cais ffurfiol am drwydded sgip. Gall methu â gwneud hynny achosi i geisiadau gael eu gwrthod neu eu tynnu’n ôl.) |
| Adferiad cais wedi methu | Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn y lle cyntaf. |
| Adferiad deiliad trwydded | Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn y lle cyntaf. |
| Cwynion gan ddefnyddwyr | Rydym bob amser yn argymell, os oes cwyn, mai’r cam cyntaf yw cysylltu â’r masnachwr – yn ddelfrydol ar ffurf llythyr (gyda phrawf dosbarthu). Os nad yw hynny wedi gweithio, os ydych yn y DU, gall Consumer Direct roi cyngor i chi. O’r tu allan i’r DU, cysylltwch â’r UK European Consumer Centre. |
| Achosion eraill | e.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd os yw un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. |
| Cymdeithasau masnach | Builders Merchants Federation (BMF) |
| National Specialist Contractors Council (NSCC) | |
| National Federation of Demolition Contractors (NFDC) | |
| National Federation of Builders (NFB) |