Skip to Main Content

Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o drwyddedau safle a gyhoeddwyd yn eu hardal.

Mae’r dilynol yn rhestr o’r safleoedd trwyddedig yn Sir Fynwy (nid yw’r gofrestr yma’n cynnwys trwyddedau a roddwyd i garafanau preswyl sengl a ddefnyddir fel anheddau preifat).

Teithiol

  • Safle Carafanau Church Cottage, Llanwytherin, Y Fenni, NP7 8RG
  • Parc Carafanau Pont Kemys, Fferm Pont Kemys, Chainbridge, Brynbuga, NP15 9DS
  • The Chainbridge, Kemys Commander, Brynbuga, NP15 1PP
  • Safle Carafanau Wernddu, Fferm Wernddu, Y Fenni, NP7 8NG
  • Safle Carafanau Pyscodlyn, Fferm Pyscodlyn, Llanwenarth Citra, Y Fenni, NP7 7ER
  • Parc Carafanau St Pierre, Ifton Hill, Porthysgewin, NP16 4TT
  • Parc Carafanau Pen-y-Dre, Fferm Pen-y-Dre, Llanfihangel Crucornau, Y Fenni, NP7 8DH
  • Parc Carafanau Trefynwy, Heol Rockfield, Trefynwy, NP25 3BA
  • Parc Carafanau a Gwersylla Glentrothy, Llanfihangel Troddi, NP25 4BD
  • Parc Carafanau a Gwersylla Bridge, Llanddingad, Trefynwy, NP25 4DY
  • Safle Carafanau Fferm Tump, Gwenffrwd, Trefynwy, NP25 4TT

Sefydlog:

  • Clwb Gwersylla Western Sunfolk, The Brakes, Fferm Croes Roberts, Trellech, Trefynwy
  • Parc Pen-y-Van, The Narth, Trefynwy
  • Kings Orchard, Withy Lane, Trefynwy, NP25 5LF
  • Safle Carafanau, Fferm Cwrt, Llandeilo Gresynni, ger y Fenni, NP7 8SU
  • Safle Carafanau Monnow Bridge, Stryd Drybridge, Trefynwy, NP25 5AD

Preswyl:

  • Parc Carafanau Riverside, Hen Heol Hadnock, Trefynwy, NP25 3LT
  • Mr L Pritchard, The Beeches, Gwndy, ger Cil-y-coed
Crynodeb o’r drwydded Cyn i chi wneud cais mae’n rhaid i chi sicrhau fod gan eich safle ganiatâd cynllunio. Byddwch angen trwydded gan yr awdurdod lleol i redeg safle carafanau a gwersylla. Gellir rhoi amodau ar drwydded i gynnwys unrhyw un o’r dilynol:

  • cyfyngu lle gall carafanau fod ar y safle i’w defnyddio gan bobl neu gyfyngu nifer y carafanau a all fod ar y safle ar unrhyw un amser
  • rheoli’r mathau o garafanau ar y safle
  • rheoli safle’r carafanau neu reoleiddio defnydd strwythurau a cherbydau eraill yn cynnwys pebyll
  • sicrhau y cymerir camau i wella’r tir, yn cynnwys plannu/ailblannu perthi a choed
  • diogelwch tân a mesurau ymladd tân
  • sicrhau y caiff cyfleusterau gwasanaethau ac offer glanweithiol eu cyflenwi a’u cynnal a chadw
Meini prawf cymhwyster Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod â hawl i ddefnyddio’r tir fel safle carafanau. Ni roddir trwyddedau i ymgeiswyr a gafodd drwydded safle wedi’i diddymu o fewn tair blynedd o’r cais presennol.
Crynodeb rheoleiddio Crynodeb o’r meini prawf cymhwyster ar gyfer y drwydded yma.
Proses gwerthuso cais Caiff ceisiadau am drwyddedau safle eu gwneud i’r awdurdod lleol lle mae’r tir. Mae’n rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig, dylent roi manylion y mae’r tir yn cyfeirio ato ac unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod lleol ei angen..
A fydd caniatâd dealledig yn weithredol? Bydd. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi ei roi os na chlywsoch gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.
Gwneud cais ar-lein Gwneud cais i redeg safle carafanau neu safle gwersylla
Gwneud iawn am gais sy’n methu Fe’ch cynghorir i godi unrhyw fater gyda’r awdurdod lleol yn gyntaf. Gall deiliad trwydded apelio i’r llys ynadon lleol os gwrthodir cais i newid amod. Mae’n rhaid gwneud yr apêl o fewn 28 diwrnod o’r hysbysiad ysgrifenedig o’r gwrthodiad ac mae’n rhaid cyflwyno hysbysiad apêl i’ch cyngor dosbarth lleol.
Gwneud iawn i ddeiliad trwydded Fe’ch cynghorir i godi unrhyw fater gyda’r awdurdod lleol yn gyntaf. Gall deiliad trwydded apelio i’r llys ynadon lleol, neu i’r Siryf os yn yr Alban, os yw’n dymuno apelio yn erbyn amod a osodir ar drwydded. Mae’n rhaid gwneud yr apêl o fewn 28 diwrnod o gyhoeddi’r drwydded. Gall y cyngor dosbarth lleol amrywio amodau ar unrhyw amser ond mae’n rhaid iddynt roi cyfle i ddeiliaid trwydded roi sylwadau am y newidiadau arfaethedig. Os yw deiliad trwydded yn anghytuno gyda’r newidiadau gallant apelio i’r llys ynadon lleol. Mae’n rhaid gwneud yr apêl o fewn 28 diwrnod o’r hysbysiad ysgrifenedig o’r amrywiad ac mae’n rhaid cyflwyno hysbysiad apêl i’r cyngor dosbarth lleol.
Cwyn defnyddwyr Byddem bob amser yn cynghori os oes cwyn bod y cyswllt cyntaf gyda’r masnachwr yn cael ei wneud gennych chi – os oes modd ar ffurf llythyr (gyda thystiolaeth iddo gael ei dderbyn). Os nad yw hyn wedi gweithio, os ydych yn y Deyrnas Unedig, gall Consumer Direct roi cyngor i chi. Dylech gysylltu â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Achosion eraill gwneud iawn E.e. am sŵn, llygredd ac ati hefyd os yw un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.
Cymdeithasau

masnach

ACCEO (Cymdeithas Sefydliadau Eithriedig Carafanau a Gwersylla)

BHHPA (Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartref Prydeinig)

Cymdeithas  Mannau Gwyliau a Chyrchfannau Prydeinig

CITO (Hyfforddiant Diwydiant Carafanau)

FTO (Ffederasiwn Gweithredwyr Teithiau)

GTOA (Cymdeithas Trefnwyr Teithio Grŵp)

Cymdeithas Marchnata Gwestai

Cyngor Carafanau Cenedlaethol (NCC)

Deddf Berthnasol Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

 

Eich Sylwadau

Mewngofnodwch i roi eich sylwadau.