Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o drwyddedau safle a gyhoeddwyd yn eu hardal.
Mae’r dilynol yn rhestr o’r safleoedd trwyddedig yn Sir Fynwy (nid yw’r gofrestr yma’n cynnwys trwyddedau a roddwyd i garafanau preswyl sengl a ddefnyddir fel anheddau preifat).
Teithiol:
- Church Cottage Caravan Site, Llanvetherine, Abergavenny, NP7 8RG
- Pont Kemys Caravan Park , Pont Kemys Farm, Chainbridge, Usk, NP15 9DS
- The Chainbridge, Kemys Commander, Usk, NP15 1PP
- Wernddu Caravan Site, Wernddu Farm, Abergavenny, NP7 8NG
- Pyscodlyn Caravan Site, Pyscodlyn Farm, Llanwenarth Citra, Abergavenny, NP7 7ER
- Pen-y-Dre Caravan Park, Pen-y-Dre Farm, Llanvihangel Crucorney, Abergavenny, NP7 8DH
- Monmouth Caravan Park, Rockfield Road, Monmouth, NP25 3BA
- Glentrothy Caravan and Camping Park, Mitchell Troy, Monmouth, NP25 4BD
- Bridge Caravan and Camping Site, Dingestow, Monmouth, NP25 4DY (touring and static)
- Tump Farm Caravan Site, Whitebrook, Monmouth, NP25 4TT
- Western Sunfolk Camping Club, The Brakes, Croes Roberts Farm, Trellech, Monmouth
- Blossom Park Caravan & Camping Site, Tredilion Llantilo, Pertholey, Abergavenny, NP7 8BG
- The Caravan Site, Court Farm, Llantilio Crossenny, Near Abergavenny, NP7 8SU
- Clydach Gorge Caravan & Camp Site, Station Road, Gilwern, NP7 0LP
Sefydlog:
- Pen-y-Van Park, The Narth, Monmouth, NP25 5LF
- Kings Orchard, Withy Lane, Monmouth, NP25 5LF
- Monnow Bridge Caravan Site, Drybridge Street, Monmouth, NP25 5AD
- St Pierre Caravan Park, Ifton Hill, Portskewett, NP16 4TT
Preswyl:
- Riverside Caravan Park, Old Hadnock Road, Monmouth, NP25 3LT
- The Beeches, Magor, Caldicot, Gwent, NP26 3HG
Crynodeb o’r drwydded | Cyn i chi wneud cais mae’n rhaid i chi sicrhau fod gan eich safle ganiatâd cynllunio. Byddwch angen trwydded gan yr awdurdod lleol i redeg safle carafanau a gwersylla. Gellir rhoi amodau ar drwydded i gynnwys unrhyw un o’r dilynol:
|
Meini prawf cymhwyster | Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod â hawl i ddefnyddio’r tir fel safle carafanau. Ni roddir trwyddedau i ymgeiswyr a gafodd drwydded safle wedi’i diddymu o fewn tair blynedd o’r cais presennol. |
Crynodeb rheoleiddio | Crynodeb o’r meini prawf cymhwyster ar gyfer y drwydded yma. |
Proses gwerthuso cais | Caiff ceisiadau am drwyddedau safle eu gwneud i’r awdurdod lleol lle mae’r tir. Mae’n rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig, dylent roi manylion y mae’r tir yn cyfeirio ato ac unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod lleol ei angen.. |
A fydd caniatâd dealledig yn weithredol? | Bydd. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi ei roi os na chlywsoch gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed. |
Gwneud cais ar-lein | Gwneud cais i redeg safle carafanau neu safle gwersylla |
Gwneud iawn am gais sy’n methu | Fe’ch cynghorir i godi unrhyw fater gyda’r awdurdod lleol yn gyntaf. Gall deiliad trwydded apelio i’r llys ynadon lleol os gwrthodir cais i newid amod. Mae’n rhaid gwneud yr apêl o fewn 28 diwrnod o’r hysbysiad ysgrifenedig o’r gwrthodiad ac mae’n rhaid cyflwyno hysbysiad apêl i’ch cyngor dosbarth lleol. |
Gwneud iawn i ddeiliad trwydded | Fe’ch cynghorir i godi unrhyw fater gyda’r awdurdod lleol yn gyntaf. Gall deiliad trwydded apelio i’r llys ynadon lleol, neu i’r Siryf os yn yr Alban, os yw’n dymuno apelio yn erbyn amod a osodir ar drwydded. Mae’n rhaid gwneud yr apêl o fewn 28 diwrnod o gyhoeddi’r drwydded. Gall y cyngor dosbarth lleol amrywio amodau ar unrhyw amser ond mae’n rhaid iddynt roi cyfle i ddeiliaid trwydded roi sylwadau am y newidiadau arfaethedig. Os yw deiliad trwydded yn anghytuno gyda’r newidiadau gallant apelio i’r llys ynadon lleol. Mae’n rhaid gwneud yr apêl o fewn 28 diwrnod o’r hysbysiad ysgrifenedig o’r amrywiad ac mae’n rhaid cyflwyno hysbysiad apêl i’r cyngor dosbarth lleol. |
Cwyn defnyddwyr | Byddem bob amser yn cynghori os oes cwyn bod y cyswllt cyntaf gyda’r masnachwr yn cael ei wneud gennych chi – os oes modd ar ffurf llythyr (gyda thystiolaeth iddo gael ei dderbyn). Os nad yw hyn wedi gweithio, os ydych yn y Deyrnas Unedig, gall Consumer Direct roi cyngor i chi. Dylech gysylltu â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig. |
Achosion eraill gwneud iawn | E.e. am sŵn, llygredd ac ati hefyd os yw un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. |
Cymdeithasau
masnach | ACCEO (Cymdeithas Sefydliadau Eithriedig Carafanau a Gwersylla)
BHHPA (Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartref Prydeinig) Cymdeithas Mannau Gwyliau a Chyrchfannau Prydeinig CITO (Hyfforddiant Diwydiant Carafanau) FTO (Ffederasiwn Gweithredwyr Teithiau) GTOA (Cymdeithas Trefnwyr Teithio Grŵp) Cymdeithas Marchnata Gwestai Cyngor Carafanau Cenedlaethol (NCC) |
Deddf Berthnasol | Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 |
Eich Sylwadau
Mewngofnodwch i roi eich sylwadau.