Skip to Main Content
infuse logo
llawlyfr infuse
astudiaethau achos
rhwydwaith alumni
newyddion a chyfryngau

Roedd Infuse – Gwasanaethau Arloesol y Dyfodol yn rhaglen arloesi ac ymchwil a gynlluniwyd i feithrin sgiliau a gallu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus arloesol yn y dyfodol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC).

Roedd y rhaglen yn cefnogi gweithwyr awdurdodau lleol, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i fynd i’r afael ar y cyd â rhai o’r materion mwyaf a wynebir gan y rhanbarth. Fel rhan o’u hamser ar y rhaglen, buont yn archwilio’r meddylfryd a’r amodau sefydliadol sy’n ofynnol ar gyfer arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus, a defnyddio offer a dulliau newydd i brofi syniadau arloesol i fynd i’r afael â heriau sy’n ymwneud â dwy thema; Cyflymu Datgarboneiddio a Chymunedau Cefnogol.

Mae’r gwersi o’r rhaglen, ynghyd ag offer a dulliau allweddol, i’w gweld yn y Llawlyfr Infuse.

Gweithiodd y rhaglen gyda phedwar cohort yn olynol, sydd bellach yn ffurfio Rhwydwaith Alumni Infuse. Mae’r rhwydwaith wedi cymryd yr awenau oddi wrth y tîm cyflawni i hyrwyddo a helpu i ledaenu dull Infuse ar draws PRC.

Cefnogwyd Infuse gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac roedd yn gynllun ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Y Lab, Nesta, PRC a’r deg awdurdod lleol sy’n ffurfio’r rhanbarth, dan arweiniad Cyngor Sir Fynwy.

Newyddlen Infuse >

infuse logos