Skip to Main Content

Yn Cyflwyno’r Teclynwyr,

Her Ddarllen Haf

2022

Mae gwyddoniaeth o’ch

cwmpas chi ym

mhob man!

Mae Her Ddarllen yr Haf eleni, y Teclynwyr, yn ymwneud gyda gwyddoniaeth ac arloesi, llyfrau anhygoel a gwobrau hyfryd. 

Mae’r Teclynwyr yn cynllunio parti haf EPIG! Drwy ddarllen llyfrau a chasglu sticeri, mae’r sawl sy’n cymryd rhan yn yr Her yn medru helpu’r Teclynwyr i ddefnyddio eu sgiliau arbennig er mwyn paratoi pob dim.   

Mae Teclynwyr, Her Ddarllen Haf 2022 yn dechrau ar ddydd Sadwrn 9fed Gorffennaf ac yn gorffen ar ddydd Sadwrn 17eg Medi.

Mae’n HWYL!    Mae AM DDIM!    Mae’n LLEOL!

Mae Her Ddarllen yr Haf ar gyfer pob plentyn rhwng 4 ac 11 mlwydd oed. Mae’n hawdd cymryd rhan ac mae am ddim:

  • Mae plant yn cofrestru yn y llyfrgell leol, yn derbyn poster Teclynwyr a’u set gyntaf o sticeri.  
  • Mae plant yn benthyg ac yn darllen o leiaf pedwar llyfr llyfrgell y maent wedi dewis yn ystod yr haf, gan gasglu mwy o sticeri arbennig er mwyn dod yn Declynnwyr     
  • Mae plant sydd yn cwblhau Her Ddarllen yr Haf yn derbyn tystysgrif, medal a bag nwyddau Teclynwr!

Mae gwefan Her Ddarllen yr Haf yn cynnig gwobrwyon digidol, fideos gan awduron, gemau a llawer iawn mwy i’r plant fel eu bod yn medru mwynhau dros yr haf: summerreadingchallenge.org.uk/

Gyda digon o lyfrau gwych i fwynhau, yr Her yw’r gweithgaredd perffaith dros yr haf er mwyn gwella sgiliau a hyder darllenwyr ifanc yn ystod y seibiant hir o’r ysgol.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’ch Hyb Cymunedol lleol https://www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-and-libraries/community-hubs-opening-hours/

Mae Her Ddarllen yr Haf yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Ddarllen a’i ddarparu mewn partneriaeth gyda llyfrgelloedd. Eleni, mae’r  Asiantaeth Ddarllen wedi gweithio gyda’r Grŵp Amgueddfa Wyddoniaeth er mwyn creu “Teclynwyr”, gan ysbrydoli plant i ddefnyddio eu cywreinrwydd a’u creadigrwydd i ddarganfod y wyddoniaeth sydd y tu nôl i bethau bob dydd tra’n dathlu rôl y dychymyg o ran darllen a’r gwyddorau.