Skip to Main Content

Gallwch ddarganfod a oes angen caniatâd cynllunio neu reoli adeiladau arnoch ar ein tudalen gyngor.

Ymgeisio am ganiatâd cynllunio

Lawrlwythwch gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru i weld a oes angen caniatâd arnoch ar gyfer unrhyw estyniadau/tai allan arfaethedig gan ddeiliaid tai.

Gellir cyflwyno cais yn electronig i Gyngor Sir Fynwy gan ddefnyddio’r Porth Cynllunio, a gallwch hefyd gael cyngor ar y system gynllunio.

Rydym bellach yn derbyn ceisiadau papur hefyd. Gellir lawrlwytho ffurflenni cais trwy ddilyn y dolenni perthnasol isod.

Gellir cael cyngor ar lenwi’r ffurflenni trwy ffonio’r Swyddog ar Ddyletswydd ar 01633 644831 neu trwy ymweld â’r adran gynllunio.

Rhaid talu ffi ar gyfer mwyafrif y ceisiadau cynllunio. Gallwch bellach dalu am geisiadau cynllunio ar-lein.

Dylid dychwelyd y ffurflenni wedi’u llenwi at:

Yr Adran Gynllunio
Cyngor Sir Fynwy
Blwch Post 106
Cil-y-Coed
NP26 9AN

Ffurflenni

O’r 1af o Fedi 2014 daeth rheoliadau newydd i rym ar gyfer diwygiadau di-faterol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Nodiadau Cyfarwyddyd ar Ddiwygiadau Di-faterol sy’n darparu rhagor o fanylion ond os ydych yn ansicr a yw hyn yn berthnasol i’ch datblygiad, cysylltwch â’r tîm cynllunio ar 01633644831.

Ar gyfer estyniadau / addasiadau neu strwythurau newydd yn ac o amgylch eich tŷ:

Ar gyfer mathau eraill o ddatblygiad gan gynnwys newid yn nefnydd, telegyfathrebu, caniatâd cynllunio amlinellol a phob estyniad ac addasiad arall i adeiladau masnachol:

Cais caniatâd cynllunio
Canllaw ar gais caniatâd cynllunio

Cais caniatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion a gadwyd yn ôl
Canllaw ar gais caniatâd cynllun amlinellol gyda rhai materion a gadwyd yn ôl
Cais caniatâd cynllunio gyda phob mater wedi’i gadw yn ôl
Canllaw ar gais caniatâd cynllunio gyda phob mater wedi’i gadw yn ôl

Cais am Faterion a Gadwyd yn Ôl yn dilyn Cymeradwyaeth Amlinellol
Canllaw ar Gais am Faterion a Gadwyd yn Ôl yn dilyn Cymeradwyaeth Amlinellol
Cais i Dynnu neu Amrywio Amod am Ganiatâd Cymeradwy
Canllaw ar Gais i Dynnu neu Amrywio Amod am Ganiatâd Cymeradwy

Ar gyfer unrhyw addasiadau (mewnol neu allanol) neu ddymchweliad cyfan neu sylweddol o strwythurau adeilad o fewn ardal gadwraeth:

Cais am Ganiatâd Dymchwel mewn Ardal Gadwraeth
Canllaw ar Gais am Ganiatâd Dymchwel mewn Ardal Gadwraeth

Ar gyfer unrhyw addasiadau (mewnol neu allanol) i adeilad rhestredig:

Cais am Ganiatâd i Addasu, Ymestyn neu Ddymchwel Adeilad Rhestredig Canllaw ar Gais i Addasu, Ymestyn neu Ddymchwel Adeilad Rhestredig

Ar gyfer arddangos hysbysebion:

Cais am Ganiatâd i Arddangos Hysbyseb(ion)
Canllaw ar Gais am Ganiatâd i Arddangos Hysbyseb(ion)

Ar gyfer gwaith amaethyddol a gwrychoedd:

Hysbysiad Amaethyddol am Adeilad Arfaethedig
Canllaw ar Hysbysiad Amaethyddol am Adeilad Arfaethedig
Hysbysiad Amaethyddol am Ffordd Arfaethedig
Canllaw ar Hysbysiad Amaethyddol am Ffordd Arfaethedig

Datganiad Hysbysiad Amaethyddol
Rhestr Wirio Hysbysiad Amaethyddol

Cais i Gael Gwared ar Wrych
Canllaw ar Gais i Gael Gwared ar Wrych

Cais i Ryddhau Amod

I bennu a yw defnydd, gweithred neu weithgaredd cyfredol yn gyfreithlon:

Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon am Ddefnydd / Weithred / Weithgaredd cyfredol gan gynnwys y Rheini sy’n Torri Amod Cynllunio
Canllaw ar Gais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon am Ddefnydd / Weithred / Weithgaredd cyfredol gan gynnwys y Rheini sy’n Torri Amod Cynllunio

Cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon am Ddefnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig

Canllaw ar Gais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon am Ddefnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig

Hysbysiad i’r Tirfeddiannwr:

Tystysgrif Hysbysiad i Roi Gwybod i’r Tirfeddiannwr am y Cais

Ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd

Pan gaiff cais cynllunio ei gofrestru, rydym yn rhoi gwybod i’r canlynol:

  • Cynghorau tref neu gymuned
  • Cyrff eraill statudol neu berthnasol megis Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Adrannau o fewn y cyngor e.e. priffyrdd, rheoli adeiladau
  • Cymdogion

Mae Safleoedd Safle’n cael eu harddangos fel bo’n briodol a chaiff hysbysiadau’r wasg eu hysbysebu yn The Free Press bob dydd Mercher.

Mae’r sawl a ymgynghorir a hwy fel arfer yn cael 21 niwrnod i ymateb.

Gellir gweld ac olrhain ceisiadau ar-lein. Gallwch wneud sylwadau neu wrthwynebiadau ar unrhyw geisiadau cyfredol. Nodwch bydd angen cyfeirnod y cais i wneud sylw neu wrthwynebiad. Bydd eich sylwadau’n cael eu hadolygu gan swyddog cynllunio a byddant yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses gyffredinol o benderfynu. Am unrhyw gymorth, cysylltwch â planning@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644 880

Mae cyfleuster Fy Sir Fynwy yn galluogi i bartïon â diddordeb gael gwybod am geisiadau yn ardal eu cartref/cod post.

Gellir cyflwyno achos ar ôl y dyddiad a roddir os nad yw’r cais wedi cael ei benderfynu ond dylid cytuno ar estyniad amser gyda’r swyddog achos.

Mae’r swyddog achos fel arfer ar gael i ateb ymholiadau yn ymwneud â’r cais. Gellir cysylltu â hwy trwy ffonio’r Llinell Gymorth Cynllunio ar 01633 644880.

Gall unrhyw un gyflwyno achos ar geisiadau cynllunio, naill ai o blaid cais neu’n ei wrthod. Rhaid eu cyflwyno yn ysgrifenedig ar e-bost.

Gall y cyngor gymryd yr ystyriaethau cynllunio canlynol yn unig i ystyriaeth, sef:

  • Yr effaith ar drafnidiaeth neu barcio
  • Golwg y cynnig
  • Edrych dros eiddo neu aflonyddwch
  • Diffyg golau neu breifatrwydd
  • Effaith ar yr awyrgylch lleol
  • Os yw’r defnydd arfaethedig yn addas

Nid yw’r cyngor yn gallu cymryd i ystyriaeth materion megis gwerth eiddo, anghydfodau preifat rhwng cymdogion, materion yr ymdrinnir â hwy mewn prydlesi neu gyfamodau a chystadlaethau rhwng cwmnïau.

Gwybodaeth bwysig ar gyflwyno achosion

Byddwch yn ymwybodol y bydd achosion ar gael yn gyhoeddus ar y wefan. Sicrhewch na fod unrhyw sylwadau difenwol neu sarhaus. Mae’r cyngor yn cadw’r hawl i dynnu unrhyw sylwadau mae’n credu sy’n ddifenwol, sarhaus neu bersonol o’r wefan. Nid yw llofnodion a rhifau cyswllt yn angenrheidiol ond nid fyddant yn cael eu cyhoeddi os cânt eu darparu.

Ffioedd cynllunio

Does dim tâl am archwilio ffeiliau cynllunio os ydynt yn rhai cyfredol neu wedi’u penderfynu.

Codir y costau ychwanegol am wybodaeth:

  • Hysbysiad Penderfynu – am ddim, dylai pob cais fod ar ffurf ysgrifenedig gan ddyfynnu cyfeirnodau
  • Llungopïo: hyd at 9 copi – am ddim 10 neu ragor – 10c fesul dalen Cynlluniau A0, A1 a A2 – £5 fesul dalen
  • Hanes Safle – £30 yr awr (neu ran o awr)

Mae atodlen prisio wahanol ar gyfer ffioedd ceisiadau cynllunioGallwch dalu am geisiadau cynllunio ar-lein.

Gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio

Wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau, ystyrir y canlynol:

  • Cynllun datblygu lleol
  • Polisi a chyngor a amlinellir gan Lywodraeth Cymru ym Mholisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol
  • Ystyriaethau materol eraill, megis: – Polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol perthnasol – Golwg a chymeriad y datblygiad, cynllun a dwysedd – Cynhyrchiad traffig, diogelwch ar y priffyrdd a pharcio/gwasanaethu – Cysgodi, edrych dros eiddo, aflonyddwch sŵn, arogleuon neu golled o adnodd arall

Mae ceisiadau cynllunio’n gallu cael eu penderfynu naill ai gan swyddogion o dan bwerau dirprwyedig neu gan Bwyllgor Cynllunio.

Mae gan Gyngor Sir Fynwy Gynllun Dirprwyo. Bydd mwyafrif y penderfyniadau’n cael eu dirprwyo i swyddogion i gyflymu’r broses. Nid oes rhaid i’r ceisiadau hyn fynd i’r Pwyllgor Cynllunio. Mae swyddogion yn ysgrifennu adroddiad ac yn gwneud argymhelliad. Ar rai ceisiadau, mae swyddogion yn ymgynghori â Phanel Dirprwyo sy’n cynnwys Cadeirydd, Is-Gadeirydd a Gwrthwynebiad. Os caiff ei ystyried fel y ffordd gywir o weithredu, gall yr aelodau etholedig hynny gyfarwyddo’r Pwyllgor i benderfynu ar y cais.

Pan mae angen i geisiadau fynd i’r Pwyllgor Cynllunio, mae swyddogion yn ysgrifennu adroddiad ac argymhelliad sy’n cael ei gyflwyno i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. Rhaid gwneud unrhyw siarad cyhoeddus yn y Panel Cynllunio yn unol â rheolau llym y Protocol a gytunwyd

Mae hysbysiadau penderfynu fel arfer yn cael eu cyhoeddi o fewn 3 niwrnod gwaith o wneud y penderfyniad. Pan wrthodir cais, fe roddir rhesymau pendant pam nad yw’n dderbyniol. Fe dalir y ffi ymgeisio i brosesu’r cais a ni chaiff ei ad-dalu os caiff y cais ei wrthod. Bydd y Cyngor yn hapus i drafod unrhyw newidiadau a allai arwain at benderfyniad ffafriol ar gais diwygiedig. Mae’r hysbysiad penderfynu’n rhoi cyngor ar sut i apelio. Dim ond yr ymgeisydd sydd â’r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad neu amodau a osodwyd.

Unwaith bod penderfyniad wedi cael ei gyhoeddi i’r ymgeisydd, bydd yr hysbysiad penderfynu yn cael ei bostio ar wefan UkPlanning.

Mae rhestr o’r penderfyniadau a wnaethpwyd yn cael ei chyhoeddi bob wythnos ac ar gael ar y wefan hon.

Gellir gweld ceisiadau cynllunio ar-lein. Cyn cychwyn unrhyw waith ar safle, mae’n bosib bod angen dogfennau caniatâd eraill hefyd.

Gorfodaeth

Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.

Pan Mae Gwaith yn Digwydd heb Ganiatâd

Gellir rhoi gwybod am doriadau mewn rheoli cynllunio naill ai yn ysgrifenedig, ar y ffôn neu mewn siop un stop. Wrth roi gwybod am y toriad, dylai’r unigolyn ddarparu ei enw a chyfeiriad a chymaint o fanylion â phosib am y gweithgaredd a’i leoliad. Bydd y mater yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.

Gall fod yn anodd ymdrin â chwynion dienw a byddwn ond yn ymateb i’r rhain os yw’n ymddangos fel toriad difrifol yn rheoli cynllunio.

Mae toriad o reoli cynllunio yn cynnwys:

  • Cynnal gwaith adeiladu neu newid defnydd adeilad heb ganiatâd cynllunio
  • Adeiladu heb gydymffurfio â’r cynllun cymeradwy neu beidio â chydymffurfio ag amodau neu ganiatâd cynllunio
  • Cynnal gwaith ar adeilad rhestredig neu ei dymchwel heb Ganiatâd Adeilad Rhestredig
  • Gwaith dymchwel penodol mewn ardal gadwraeth
  • Arddangos arwyddion neu hysbysebion penodol heb ganiatâd
  • Torri coeden i lawr neu gynnal gwaith ar goeden sydd wedi’i amddiffyn gan Orchymyn Cadw Coed

Mae nifer o weithgareddau a gwaith sydd ddim angen caniatâd cynllunio, gan gynnwys amrywiol fathau o fân waith adeiladu, sy’n “ddatblygiad a ganiateir” a newidiadau i ddefnydd nad sy’n faterol.

Mae gan y Cyngor yr hawl i benderfynu a oes angen cychwyn gweithredu’n ffurfiol ai peidio. Fel arfer, bydd ond yn gwneud hynny pan mae niwed sylweddol i amwynderau cyhoeddus. Ni fyddwn yn gweithredu yn syml oherwydd bod toriad wedi bod.

Mae’r Cyngor yn parchu’r cyfarwyddyd a baratowyd gan Lywodraeth Cymru yn Nodyn Gyfarwyddyd Technegol 9 – Gorfodi Rheoli Cynllunio.

Mae’n bosib bydd y Cyngor yn gofyn am wybodaeth trwy gyflwyno dogfen o’r enw Hysbysiad Tramgwyddo Cynllunio.

Bydd gweithrediad ffurfiol fel arfer yn cynnwys cyflwyno Hysbysiad Gorfodi neu Dorri Amod.

Gall achosion gorfodi gymryd amser hir i’w datrys. Bydd hyn yn digwydd pan mae achos yn gymhleth neu pan mae’n anodd sefydlu a oes toriad wedi digwydd neu os oes apêl yn erbyn hysbysiad.

Pan mae gwaith adeiladu neu newid o ddefnydd i un cartref wedi cael ei wneud, gan dorri rheoli cynllunio, a gyda dros 4 blynedd wedi mynd heibio, daw’r datblygiad yn gyfreithlon ac yn ddiogel rhag camau gorfodi.

Pan mae newid materol yn nefnydd tir neu unrhyw doriad arall o gynllunio wedi digwydd dros 10 mlynedd yn ôl, daw’r datblygiad hwnnw’n gyfreithlon ac yn ddiogel rhag camau gorfodi.

Gall berson sy’n dymuno pennu a yw defnydd, gweithred neu weithgaredd yn gyfreithlon o ran cynllunio ymgeisio i’r Cyngor am Dystysgrif Defnydd Cyfredol neu Ddatblygiad Cyfredol.

Nid yw ffeiliau sy’n cael eu defnyddio mewn achosion gorfodi byw ar gael am archwiliad cyhoeddus.

Apeliadau

Gall ymgeiswyr sy’n anfodlon gyda phenderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymwneud â chais cynllunio apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rhaid gwneud unrhyw apêl o fewn chwe mis o ddyddiad y penderfyniad gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein sydd ar gael ar y Porth Cynllunio neu o Barc Cathays, Caerdydd CF1 3NQ.

Gellir apelio yn erbyn:

  • Gwrthodiad
  • Diffyg penderfyniad
  • Amod

Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu cyfnod hirach i roi hysbysiad neu apêl. Ni fyddant fel arfer yn barod i ddefnyddio’r pŵer yma oni bai bod amgylchiadau arbennig sy’n esgusodi’r oedi yn hysbysu am yr apêl.

Rhaid cyflwyno apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio a rhaid anfon copi i’r Cyngor.

Y Cyngor sy’n gweinyddu’r ymgynghori a chyhoeddusrwydd ar apeliadau ond yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n gyfrifol am bob agwedd arall o’r broses. Mae canllaw cynhwysfawr ar apeliadau ar gael ar y Porth Cynllunio. Penodir Arolygwr i benderfynu ar yr apêl. Bydd rhai achosion yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Penderfyniadau Cynllunio Llywodraeth Cymru.

Mae dewis o 3 weithdrefn apelio. Ym mhob achos, penodir Arolygwr i benderfynu ar yr apêl.

  • Achosion Ysgrifenedig – mae’r ymgeisydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn gwneud datganiadau ysgrifenedig i’w hystyried gan yr Arolygwr
  • Gwrandawiad Anffurfiol – cyflwynir datganiadau ysgrifenedig fel y nodir uchod ond mae pob parti’n ymddangos mewn person gerbron yr Arolygwr
  • Archwiliad Cyhoeddus – mae hon yn weithdrefn ffurfiol, gyda phob parti’n ymddangos gerbron yr Arolygwr, fel arfer gyda chynrychiolaeth gyfreithlon a chroesholi

Mae terfynau amser llym i bob parti wneud eu datganiadau neu achosion ar apeliadau.

Cynnal y gwaith

Cyn i waith adeiladu gychwyn, mae’n bwysig cofio y gallai fod angen caniatâd yn ymwneud ag ardaloedd eraill o ddeddfwriaeth.

  • Rheoliadau Adeiladu
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent
  • Priffyrdd
  • Hawliau Tramwy Cyhoeddus Os oes angen cau neu ailgyfeirio tramwy cyhoeddus i ganiatáu cynnal datblygiad, dylid gwneud cais i Gyngor Sir Fynwy am orchymyn o dan Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Ni ddylid cychwyn ar y gwaith tan i’r gorchymyn gael ei chadarnhau. Mae ffurflenni ar gael o’r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus, Neuadd y Sir, Cwmbrân, NP44 2XH. Ffôn 01633 644861
  • Dwr Cymru/Welsh Water

Mae’n bosib bydd hefyd angen ystyried y canlynol:

Mynediad ar gyfer pobl anabl

Rhaid i adeiladau gyda mynediad i’r cyhoedd a chartrefi newydd (gan gynnwys addasiadau) gydymffurfio â’r canlynol:

  • Rheoliadau Adeiladu (1999) – Mynediad a chyfleusterau ar gyfer pobl anabl, Dogfen Gymeradwy M; a BS 8300: 2001 – Dyluniad adeiladau a’u hymagwedd at fodloni anghenion pobl anabl – Cod Ymarfer.
  • Dylai cartrefi newydd ac wedi’u haddasu cael trothwy gwastad, prif ddrws o leiaf 8000mm llydan a thŷ bach lawr grisiau.

Mae’n bwysig cydymffurfio ag unrhyw amodau a gwybodaeth yn y caniatâd cynllunio a’r cynlluniau cymeradwy. Mae cyngor ar gael yn y nodiadau sy’n cyd-fynd â’r caniatâd cynllunio. Bydd Swyddog Gorfodi Cynllun y Cyngor yn monitro datblygiadau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â dogfennau caniatâd ac amodau; ac i gymryd unrhyw gamau priodol i gywiro toriadau cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.

Mae’n bwysig cofio y gallai fod angen caniatâd yn ymwneud ag ardaloedd eraill o ddeddfwriaeth.

Cymorth Cynllunio Cymru

Elusen annibynnol yw Cymorth Cynllunio Cymru sy’n darparu cyngor a chefnogaeth ar bob agwedd yn ymwneud â chynllunio’r defnydd o dir yng Nghymru.

Ewch i www.planningaidwales.org.uk neu ffoniwch y llinell gymorth gynllunio ar 02920 625 000 am ragor o wybodaeth.