Skip to Main Content

Mae parthau peilot 20mya y Fenni a Glannau Hafren bellach yn fyw. Archebwyd Dyfeisiau Dangos Cyflymder a chânt eu gosod yn eu lle yn y dyfodol agos i atgoffa gyrwyr am y terfynau cyflymder newydd. Disgwylir y caiff y parthau 20mya yn Drenewydd Gellifarch, Mynyddbach a Devauden eu cwblhau erbyn diwedd mis Mai. Disgwylir y caiff y rhai ym Mathern, Trefynwy a Wyesham, Canol Tref Cas-gwent ac ardal y Stryd Gymreig eu cwblhau erbyn diwedd mis Mehefin.

Byddwn yn rhoi gwybodaeth bellach yma fel sydd angen.

Dylai strydoedd Sir Fynwy ddod hyd yn oed yn fwy diogel wrth i barthau 20mya gael eu cyflwyno gan Gyngor Sir Fynwy. Mae’r cyntaf o’r prosiectau hyn wedi gweld y Fenni, Llan-ffwyst, Magwyr, Gwndy, Rogiet, Cil-y-coed, Porthysgewin a Chaerwent i gyd wedi gostwng o 30mya fel rhan o ddau brosiect peilot a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru yn 2019 y dylai 20mya fod y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer pob ffordd breswyl yng Nghymru, gyda chynnig deddfwriaeth i gyflwyno’r newid hwnnw ledled Cymru yn 2023.

Cafodd yr ail brosiect ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Seilwaith ar 9 Mawrth 2022 a bydd yn gweld parthau 20mya yn cynnwys Trefynwy a Wyesham, Mathern, Devauden, Drenewydd/Gellifarch a rhannau o Gas-gwent. Mae parth treialu 20mya Bulwark/Thornwell yn barhaol erbyn hyn. Yn ychwanegol, cafodd parthau 20mya Tyndyrn a Rhaglan eu hymestyn am gyfnod pellach o hyd at 18 mis, a rhoddir ystyriaeth cyn diwedd y cyfnod hwnnw i’w gwneud yn barhaol.

Mae’r cynigion yn ffurfio rhan allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelwch ffyrdd a theithio llesol ledled Cymru drwy anelu i greu diwylliant ar gyfer arafu cyflymder, gostwng nifer a difrifoldeb damweiniau ffordd, cefnogi dulliau teithio amgen tebyg i gerdded a seiclo  drwy wneud y ffyrdd yn llai bygythiol i rai nad ydynt mewn cerbydau modur ac o fudd i lesiant corfforol a meddyliol.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i hyrwyddo manteision y terfynau cyflymder is ar hyd yr ymgyrch, gyda Heddlu Gwent yn parhau i weithredu terfynau cyflymder y sir lle mae angen. Bydd monitro parhaus ledled yr ardaloedd peilot yn parhau, er mwyn i’r cyngor, yr heddlu a Llywodraeth Cymru ddeall lefelau cydymffurfiaeth o fewn y terfynau cyflymder newydd.

Bydd Cyngor Sir Fynwy ym ymgynghori ar fwy o gynigion ar gyfer parthau 20mya yn ddiweddarach yn 2022.

I gael mwy o wybodaeth, gweler: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU

Leaflet Cymru