Skip to Main Content

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro yn cyfyngu neu’n cau ffordd am gyfnod cyfyngedig. Mae’r cyngor yn defnyddio un pan fod angen rheoli ffordd am gyfnod byr, fel arfer ar gyfer gwaith ffordd. Rhai enghreifftiau o’r hyn y gall Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro ei wneud yw;

  • Cau ffordd
  • Gosod terfyn cyflymder dros dro
  • Atal parcio dros dro

Pryd y bydd y cyngor yn defnyddio un

Gall y cyngor wneud gorchymyn dros dro pan gaiff gwaith ei wneud neu ar fin cael ei wneud ar neu’n agos at y ffordd, lle mae tebygrwydd o berygl i’r cyhoedd neu ddifrod difrifol i’r ffordd na chaiff ei achosi gan y gwaith, neu lle mae angen y gorchymyn i ganiatáu clirio sbwriel dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Enghreifftiau nodweddiadol yw:

  • rhoi wyneb newydd a chlytio wyneb ffordd
  • gwaith cyfleustodau ar gyfer dŵr, nwy, trydan neu delathrebu
  • trwsio pont, draeniad neu waith trwsio strwythurol arall
  • gwaith adeiladu wrth ymyl y ffordd

Caiff ffyrdd eu cau ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, cymdeithasol neu adloniant dan ddeddfwriaeth ar wahân, tebyg i Adran 16A Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 neu Ddeddf Cyfrifoldebau Heddlu Trefol 1849. Mae gwybodaeth ychwanegol ar y mathau hyn o orchmynion ar gael yma.

Pa mor hir y mae’n parhau

Gall gorchymyn dros dro barhau am hyd at 18 mis ar ffordd neu hyd at 6 mis ar lwybr ffordd, llwybr ceffyl, trac seiclo neu gilffordd. Lle mae’r gorchymyn ar gyfer gwaith fydd yn cymryd mwy na 18 mis, gall redeg nes bydd y gwaith wedi gorffen os yw’r gorchymyn yn nodi hynny, mae’n rhaid i’r cyngor ei ddiweddu unwaith y caiff y gwaith ei gwblhau. Gall y cyngor wneud cais i Lywodraeth Cymru i ymestyn gorchymyn am gyfnod pellach o hyd at chwe mis.

Sut mae’r cyngor yn gwneud gorchymyn dros dro

  1. Cadarnhau’r sail. Mae’r cyngor yn gwirio fod un o’r rhesymau cyfreithiol yn weithredol ac yn ystyried os oes llwybrau eraill addas ar gael.
  2. Hysbysebu ymlaen llaw. Mae’r cyngor yn cyhoeddi hysbysiad o’i fwriad mewn papur newydd lleol o leiaf 7 diwrnod cyn gwneud y gorchymyn.
  3.  Gwneud y gorchymyn a gosod arwyddion ar y ffordd. Mae’r cyngor yn gwneud y gorchymyn, caiff yr arwyddion traffig angenrheidiol eu codi gan bwy bynnag sy’n rheoli’r gwaith sydd hefyd yn hysbysu pobl eraill yr effeithir yn uniongyrchol arnynt.
  4. Cyhoeddi hysbysiad o wneud y gorchymyn. Mae’r cyngor yn cyhoeddi hysbysiad y cafodd y gorchymyn ei wneud, o fewn 14 diwrnod o’r gorchymyn yn dod i rym.

Pwy sy’n gwneud y gorchymyn

Fel gyda gorchmynion parhaol, mae’r cyngor yn gwneud gorchmynion dros dro ar gyfer ffyrdd lle mai ef yw’r awdurdod priffyrdd. Llywodraeth Cymru drwy ei asiant cefnffyrdd sy’n delio gyda gorchmynion dros dro ar gefnffyrdd.


Gwneud cais am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro