Ni chaiff pob cau ffordd dros dro eu gwneud yn defnyddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro. Pan mae angen cau ffordd yn benodol i gefnogi digwyddiad, mae’r Cyngor yn defnyddio pwerau cyfreithiol ar wahân a gynlluniwyd ar gyfer y diben hwn.
Adran 16A – Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
Mae Adran 16A yn caniatáu’r Cyngor i gau neu gyfyngu ffyrdd dros dro i alluogi cynnal digwyddiadau penodol yn ddiogel.
Fel arfer defnyddir y pŵer yma ar gyfer:
- Digwyddiadau chwaraeon (e.e. rasys, digwyddiadau seiclo)
- Digwyddiadau cymunedol (e.e. partïon stryd, gwyliau)
- Dathliadau cyhoeddus a chasgliadau mawr o bobl
Fel arfer mae’r mathau hyn o gau ffyrdd am dymor byr (yn aml am ychydig oriau neu ddyddiau) a chânt eu bwriadu yn benodol i gefnogi digwyddiadau, yn hytrach nag ar gyfer gwaith ffordd neu ddiogelwch priffyrdd. Y nod yw cydbwyso cynnal y digwyddiad yn ddiogel gyda lleihau tarfu ar y rhwydwaith ffyrdd yn ehangach.
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol (Adran 21)
Mae Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol yn ddull mwy hyblyg o reoli cau ffyrdd dros dro sy’n gysylltiedig gyda digwyddiadau llai o faint neu fyrrach.
Caiff y pŵer hwn ei ddefnyddio yn aml ar gyfer
- Gorymdeithiau lleol
- Digwyddiadau cymunedol bach
- Digwyddiadau stryd am gyfnod byr
Caiff ei ystyried fel arfer pan fyddai gorchymyn llawn Adran 16A yn anghymesur. Fodd bynnag, mae’n ddull llai ffurfiol ac efallai nad yw’n addas ar gyfer digwyddiadau mawr neu fwy cymhleth sydd angen rheoli traffig manwl.
Dewis y Dull Cywir
Bydd y Cyngor yn asesu pob cais ac yn defnyddio’r pŵer cyfreithiol mwyaf addas yn seiliedig ar:
- Maint a natur y digwyddiad
- Cyfnod cau’r ffordd
- Cymhlethdod y rheoli traffig fydd ei angen
Mae Adran 16a a hefyd Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol yn galluogi’r Cyngor i gefnogi digwyddiadau cymunedol a diwylliannol tra’n sicrhau diogelwch a chadw gweithrediad effeithol y rhwydwaith priffyrdd.
Disgwylir i drefnwyr digwyddiadau ddilyn arfer gorau drwy gysylltu gyda’u cymuned leol a/neu gynghorau Tref a Chymuned lleol ynghylch y digwyddiad, a rhoi ystyriaeth i unrhyw bryderon a godwyd cyn cyflwyno cais am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro.
Os dymunwch wneud cais i gau ffordd ar gyfer digwyddiad, gofynnir i chi ddefnyddio proses arferol cais am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro a nodi’n glir fod y cau ffordd ar gyfer digwyddiad.
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn adolygu eich cais ac yn defnyddio’r dull cyfreithiol priodol (Adran 16A neu’r Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol) fel sydd angen.