Skip to Main Content

Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn yn byw mewn eiddo; fodd bynnag, mae rhai trigolion wedi’u heithrio rhag hyn.

Os mai chi yw’r unig berson sy’n byw mewn eiddo, gallwch wneud cais am ostyngiad i berson sengl.

Nid yw’r grwpiau canlynol o bobl yn cael eu cyfrif yn nifer yr oedolion sy’n byw mewn eiddo:

Mae’r canlynol hefyd yn cael eu diystyru:

  • Pobl sy’n gadael gofal
  • Hyfforddeion ar gyrsiau hyfforddeion ifainc
  • Cleifion mewn ysbytai neu gartrefi gofal
  • Aelodau o gymunedau crefyddol (ee mynachod a lleianod)
  • Pobl dros 18 oed ac sydd yn gallu hawlio budd-dal plant
  • Aelodau o luoedd arfog tramor a’u dibynyddion
  • Pobl gyda breintiau neu freintryddid diplomyddol
  • Aelodau o bencadlysoedd rhyngwladol a sefydliadau amddiffyn
  • Pobl sy’n byw mewn hostel neu loches nos
  • Pobl sy’n cael eu lletya o dan gynllun Cartrefi i Wcráin

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gymwys, cysylltwch â ni.

Refeniw a Budd-daliadau
Ffôn: 01633 644630
E-bost: 
counciltax@monmouthshire.gov.uk

Mae’r bil Treth Gyngor llawn yn seiliedig ar 2 oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.

Os yw’r eiddo yn gartref i un oedolyn yn unig, mae’r dreth gyngor yn cael ei ostwng 25%. Gelwir hyn yn ostyngiad i berson sengl.

Gwneud cais ar-lein am ostyngiad ar y dreth gyngor – i berson sengl

Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol, trefniadau byw neu sefyllfa ariannol/incwm a allai effeithio ar eich gallu i hawlio. 

Pwy sy’n brentis?

Mae person yn cael ei ystyried yn brentis at ddibenion y dreth gyngor os yw’n:

  • Cael ei gyflogi i ddysgu crefft neu broffesiwn, ac yn
  • Dilyn rhaglen hyfforddi sy’n arwain at gymhwyster a achredir gan gorff a gydnabyddir gan Y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Ofqual) neu Gyngor Addysg Galwedigaethol yr Alban (SVEC), ac yn
  • Derbyn tâl o £195 neu lai’r wythnos, ond disgwylir iddo ennill fwy o lawer unwaith y bydd wedi ennill ei gymhwyster

Pwy sy’n hyfforddai ifanc?

Mae person yn cael ei ystyried yn hyfforddai ifanc os ydyw:

  • Dan 25 oed, ac yn

Hyfforddi drwy drefniadau (dan Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973) cynllun hyfforddi cymeradwy at ddibenion Adran 28, Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?

Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.

Nid yw hyfforddeion ifainc na phrentisiaid yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.

Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn hyfforddai ifanc neu’n brentis, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd hyn yn golygu gostyngiad o 25% ar y bil.

Os yw’r unig un sy’n byw yn yr eiddo yn hyfforddai ifanc neu’n brentis, bydd gostyngiad o 50% ar y bil.

Dogfennau sydd eu hangen

Cyn gwneud cais am ostyngiad ar gyfer hyfforddai ifanc neu brentis, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:

  • I brentisiaid:
    • datganiad o’ch statws Prentisiaeth gan eich cyflogwr.
    • Prawf o’ch enillion
  • I hyfforddeion ifainc:
    • Prawf o’ch statws fel hyfforddai ifanc.

Gwneud cais ar-lein am ostyngiad ar y dreth gyngor – prentisiaid a hyfforddeion ifainces

Pwy sy’n cael ei ystyried yn weithiwr gofal?

Mae person yn cael ei ystyried yn weithiwr gofal at ddibenion y dreth gyngor os yw’n:

  • Cael ei gyflogi i roi gofal a chymorth i berson ar ran naill ai awdurdod lleol neu gorff elusennol, neu’n cael ei gyflogi gan berson i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth ar ôl cael ei gyflwyno trwy awdurdod lleol neu gorff elusennol.
  • Cael ei gyflogi i ddarparu gofal am o leiaf 24 awr yr wythnos.
  • Cael tal sy’n llai na £44 yr wythnos.
  • Byw mewn eiddo a ddarperir naill ai gan yr awdurdod lleol neu gorff elusennol y maent yn cael eu cyflogi ganddynt, neu’r person y maent yn gofalu amdano.

Pwy sy’n cael ei ystyried yn ofalwr di-dâl?

Mae person yn cael ei ystyried yn ofalwr di-dâl at ddibenion y dreth gyngor os yw’n

  • Byw yn yr un cartref â’r person y mae’n gofalu amdano
  • Darparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos
  • Os nad yw’n berthynas anghymwys hy nid ydynt yn briod neu’n gymar i’r person y maent yn gofalu amdano, ac nid ydynt ychwaith yn rhiant sy’n gofalu am blentyn dan 18 oed.

Rhaid bod y person sy’n derbyn gofal hefyd fod yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans gweini neu,
  • Cyfradd uchaf neu ganol elfen gofal y lwfans byw i’r anabl, neu,
  • Cynnydd yn y gyfradd pensiwn anabledd oherwydd yr angen am weini cyson neu,
  • Cynnydd yn y lwfans gweini cyson.
  • Safon Bersonol neu Elfen Uwch Taliad Byw’n Ddyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) dan Ddeddf Diwygio Lles 2012 a78(3)
  • Taliad annibyniaeth y Lluoedd Arfog o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Arfog Wrth Gefn [Cynllun Iawndal] 2011.

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?

  • Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.
  • Nid yw pobl sy’n weithwyr gofal a gweithwyr di-dâl yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.
  • Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae gan un nam meddyliol difrifol, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd hyn yn golygu gostyngiad o 25% ar y bil.
  • Os yw’r unig un sy’n byw yn yr eiddo yn weithiwr gofal neu ofalwr di-dâl, bydd gostyngiad o 50% ar y bil.

Dogfennau sydd eu hangen

Cyn gwneud cais am ostyngiad ar gyfer gweithiwr gofal, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:

  • Prawf o gyflogaeth a chopi o’ch slip cyflog.

Cyn gwneud cais am ostyngiad ar gyfer gofalwr di-dâl, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:

  • Copi o’r llythyr dyfarnu budd-dal sy’n dangos bod y person sy’n derbyn gofal yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys canlyno:
    • Cyfradd ganol neu uwch elfen gofal y Lwfans Byw i’r Anabl
    • Unrhyw gyfradd o elfen byw’n ddyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol
    • Unrhyw gyfradd o’r Lwfans Gweini
    • Taliad annibyniaeth y Lluoedd Arfog
    • Cyfradd uchaf Y Lwfans Gweini Cyson

Gwneud cais ar-lein am ostyngiad ar y dreth gyngor – gweithwyr gofal a gofalwyr di-dâl

Pwy sy’n cael ei ystyried yn berson yn y ddalfa?

Ystyrir bod person yn y ddalfa at ddibenion y dreth gyngor os yw’n un neu fwy o’r canlynol:

  • Wedi’i gadw yn y carchar, ysbyty neu ryw le arall trwy orchymyn llys
  • Wedi’i gadw hyd nes iddo gael ei allgludo dan Ddeddf Mewnfudo 1971
  • Wedi’i gadw mewn man diogel o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?

  • Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar ddau oedolyn (pobl dros 18), o leiaf, yn byw mewn eiddo.
  • Dydy pobl sydd yn y ddalfa ddim yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.
  • Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn y ddalfa, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Byddai hyn yn golygu gostyngiad o 25% ar y bil.
  • Os yw’r unig berson sy’n byw yn yr eiddo yn y ddalfa, bydd eithriad o 100%.

Gwybodaeth sydd ei hangen i wneud cais

Yn ystod y broses ymgeisio, gofynnir i chi am y manylion canlynol:

  • Enw a chyfeiriad y sefydliad lle cafodd y person ei gadw neu lle mae’n cael ei gadw ar hyn o bryd
  • Rhif gwasanaeth y carchar os yw’r person wedi bod yn y carchar, neu os yw yn y carchar ar hyn o bryd
  • Copi o’r gorchymyn cadw (os yw ar gael)

Gwneud cais ar-lein am ostyngiad ar y dreth gyngor – person yn y ddalfa

Gall unrhyw un sydd wedi’i ardystio’n feddygol fel un ag Amhariad Meddyliol Difrifol (SMI) fod yn gymwys i gael ei eithrio rhag y Dreth Gyngor neu gael gostyngiad. Mae hyn yn golygu y bydd gan y person nam difrifol sy’n effeithio ar ei weithredu deallusol a chymdeithasol, ac ymddengys ei fod yn barhaol.

Mae cyflyrau a all arwain at amhariad meddyliol difrifol (AMD) yn cynnwys:

  • Clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia
  • Clefyd Parkinson
  • Anawsterau dysgu difrifol, neu
  • Strôc

Gall llawer o amodau eraill hefyd fod yn berthnasol

I fod yn gymwys, rhaid bod y person wedi cael diagnosis o amhariad meddyliol difrifol (AMD) gan feddyg a rhaid iddo hefyd fod â hawl i fudd-dal cymwys.

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?

Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.

Nid yw pobl sydd wedi’u hardystio fel rhai ag Amhariad Meddyliol Difrifol yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.

Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae gan un amhariad meddyliol difrifol, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd gostyngiad o 25% ar y bil

Os yw’r unig berson sy’n byw yn yr eiddo yn un sydd ag amhariad meddyliol difrifol, mae’r eiddo wedi ei eithrio’n gyfan gwbl rhag y dreth gyngor.

Dogfennau sydd eu hangen i wneud cais

Cyn gwneud cais am ostyngiad i berson ag amhariad meddyliol difrifol, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:

  • tystysgrif feddygol wedi’i llofnodi gan ymarferydd proffesiynol cymwysedig yn cadarnhau’r canlynol:
    • Enw llawn yr ymarferydd meddygol
    • Cyfeiriad llawn yr ymarferydd meddygol
    • Cadarnhad bod yr ymarferydd meddygol yn asesu yn ei farn ef/hi, bod y claf a enwir yn y cais yn dioddef o amhariad meddyliol difrifol sy’n effeithio ar ei weithredu cymdeithasol fel y disgrifir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
    • Y dyddiad y daeth y sefyllfa yn berthnasol.
  • tystiolaeth bod y person sy’n cael ei ystyried fel un ag amhariad meddyliol difrifol, yn derbyn o leiaf un o’r budd-daliadau cymwys a restrir isod, neu wedi bod yn gymwys i gael budd-dal cymwys os ydynt o oedran pensiwn:
    • Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Cymorth Cyflogaeth
    • Lwfans Anabledd Difrifol
    • Atodiad i’r Anghyflogadwy
    • Lwfans i’r Anghyflogadwy
    • Lwfans Gweini
    • Cynnydd yn y gyfradd Pensiwn Anabledd ar gyfer Gweini Cyson
    • Safon Bersonol neu Elfen Uwch Taliad Byw’n Ddyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Gwneud cais ar-lein am ostyngiad ar y dreth gyngor – person ag amhariad meddyliol difrifol

Pwy sy’n cael ei ystyried yn berson sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg?

Ystyrir bod person sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg, at ddibenion gostyngiad treth gyngor os ydynt:

  • Yn 18 neu’n 19 oed
  • Wedi gadael cwrs addysg cymwys rhwng 30 Ebrill a 1 Tachwedd

Beth yw cwrs addysg cymwys?

Gall person wneud cais am ostyngiad treth gyngor os ydynt wedi gadael cwrs addysg sy’n:

  • Parhau am fwy na 3 mis
  • Cwrs y mae angen ei fynychu am o leiaf 12 awr yr wythnos
  • Cwrs sy’n cael ei ddysgu’n bennaf wyneb yn wyneb neu ar-lein
  • Cwrs nad yw’n cael ei ddilyn drwy’r gwaith neu swydd arall
  • Cwrs sydd fel arfer yn cael ei gynnal rhwng 8:00am a 5:30pm

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?

Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.

Nid yw pobl sy’n gadael ysgol neu goleg yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.

Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn berson sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd gostyngiad o 25% ar y bil.

Os yw’r unig berson sy’n byw yn yr eiddo yn un sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg, bydd gostyngiad o 50% ar y bil.

Gwybodaeth sydd ei hangen

Cyn gwneud cais am ostyngiad ar gyfer person sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg, bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Teitl y cwrs
  • ID y Myfyriwr
  • Enw a chyfeiriad yr ysgol neu’r coleg.

Gwneud cais ar-lein am ostyngiad ar y dreth gyngor –  pobl sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg avers 

Pwy sy’n cael ei ystyried yn fyfyriwr?

Mae person yn cael ei ystyried yn fyfyriwr os yw’n dilyn cwrs addysg llawn amser mewn sefydliad addysgol perthnasol.

Er mwyn cael ei ystyried yn fyfyriwr at ddibenion y dreth gyngor, rhaid bod y cwrs:

  • yn gwrs blwyddyn academaidd neu flwyddyn galendr, o leiaf
  • rhaid mynychu’r cwrs am o leiaf 24 wythnos ym mhob blwyddyn academaidd neu flwyddyn calendr
  • rhaid bod y cyfnod astudio yn o leiaf 21 awr yr wythnos, (gyda’r pwyslais ar astudio, nid profiad gwaith)

Os ydych o dan 20 oed ac yn astudio ar gyfer cymhwyster hyd at Safon Uwch, rhaid i’ch cwrs:

  • barhau am o leiaf 3 mis
  • rhaid eich bod yn astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos

Rhaid i’r cwrs astudio a’r cymhwyster fod ar lefel Addysg Bellach neu Addysg Uwch.

Rhaid i unrhyw gyfnod o brofiad gwaith, beidio â bod yn fwy na 50% o’r holl amser yr ydych yn treulio ar eich cwrs. Mae profiad gwaith yn cynnwys unrhyw amser sy’n cael ei dreulio yn eich man cyflogaeth os ydych chi yno fel rhan o’ch cwrs; neu os ydych chi yno i ennill profiad o’r grefft neu’r proffesiwn hwnnw.

Ni fydd pob cwrs yn cael ei ystyried yn gwrs llawn amser at ddibenion y dreth gyngor. Er enghraifft, efallai na fydd cyrsiau dysgu o bell neu ddosbarthiadau nos yn cael eu hystyried yn gyrsiau amser llawn. Hefyd, ni fydd unrhyw gyrsiau yr ydych chi’n eu dilyn fel rhan o’ch swydd yn cyfrif ee cael eich rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod.

Myfyriwr sydd â phriod neu ddibynnydd nad yw’n Brydeinig

  • Os oes gennych briod neu ddibynnydd nad yw’n Brydeinig yn byw gyda chi, ac nad ydynt yn fyfyriwr, gallai eich disgownt/eithriad fel myfyriwr dal i fod yn berthnasol.
  • Rhaid bod ganddynt fisa sy’n eu hatal rhag gweithio am dâl neu hawlio budd-daliadau.

Pwy sy’n cael ei ystyried yn nyrs dan hyfforddiant?

  • Mae person yn cael ei ystyried yn nyrs dan hyfforddiant os yw ar gwrs sy’n arwain at gofrestru ar unrhyw un o rannau 1 i 6 neu 8 o’r Gofrestr a gynhelir dan adran 10, Deddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979.
  • Dim ond y rhai sy’n astudio i gael eu cynnwys ar y Gofrestr am y tro cyntaf fydd â hawl i ostyngiad.
  • Bydd myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau academaidd yn y brifysgol yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr at ddibenion y dreth gyngor.

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?

  • Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.
  • Nid yw myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.
  • Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn fyfyriwr neu nyrs dan hyfforddiant, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd gostyngiad o 25% ar y bil.
  • Os yw’r unig bobl sy’n byw yn yr eiddo yn fyfyrwyr, mae’r eiddo wedi ei eithrio rhag y dreth gyngor.

Dogfennau sydd eu hangen i wneud cais

Cyn gwneud cais am ostyngiad i fyfyrwyr neu nyrsys dan hyfforddiant, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:

  • I fyfyrwyr: tystysgrif myfyriwr. Gallwch gael tystysgrif gan Swyddog Cofrestru eich coleg neu brifysgol
  • I nyrsys dan hyfforddiant: llythyr neu gadarnhad gan eich cyflogwr

Gwneud cais ar-lein am ostyngiad ar y dreth gyngor – myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant

Gall eiddo fod wedi’i eithrio rhag y dreth gyngor os yw un o’r canlynol yn berthnasol. 

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gymwys ar gyfer un o’r eithriadau hyn, cysylltwch â ni.

Os yw eiddo yn wag a heb ddodrefn, bydd yn cael ei eithrio rhag y dreth gyngor am y 6 mis cyntaf o’r dyddiad y cafodd ei wagio (dim dodrefn).

Gallai hyn fod y dyddiad cyn i chi gymryd yr eiddo. Byddai hyn yn golygu y byddech yn cael eich eithrio am y rhan hynny o’r cyfnod 6 mis sy’n berthnasol i chi, a hynny’n unig.                 

Cysylltwch â ni i weld a yw’r eiddo dal i fod yn gymwys i gael ei eithrio.

Gallwch ofyn am eithriad i’r dreth gyngor os yw eich eiddo yn: 

  • Cael atgyweiriadau mawr neu newidiadau strwythurol
  • Yn wag ac yn eiddo i elusen
  • Heb ddodrefn sylweddol ac yn wag am lai na chwe mis
  •  yn eiddo i denant sydd yn cael ei gadw yn y carchar, mewn ysbyty neu le arall ar orchmyn y llys
  • Yn eiddo i berson sydd wedi mynd i fyw mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio gofal meddwl, yn cynnwys hostel
  • Yn eiddo i un sy’n talu’r dreth gyngor ond sydd bellach wedi marw
  • Yn cael ei gynnal ar gyfer gweinidog crefyddol
  • Yn eiddo i rywun arall sy’n byw yn rhywle arall i gael gofal neu roi gofal personol
  • yn eiddo sydd wedi cael ei adael yn wag gan fyfyriwr
  • yn rhandy gwag sydd ynghlwm wrth adeilad sy’n cael ei feddiannu
  • yn eiddo sydd wedi ei wahardd rhag cael ei feddiannu yn ôl y gyfraith neu ddeddf seneddol
  • deiliad y morgeisedig mewn meddiant
  • yn eiddo sydd wedi ei adael yn wag gan berson sy’n fethdalwr
  • llain carafán neu angorfa wag

Os ydych chi’n meddwl y gallai fod hawl gennych i gael eich eithrio, cysylltwch â ni.

Gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad ar y dreth gyngor os oes gennych incwm isel, os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, neu’n derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:  

  • Cymhorthdal Incwm 
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm 
  • Yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn
  • Gallwch lenwi ein ffurflen fer i hawlio eich gostyngiad ar y dreth gyngor

Ni fyddwch yn gymwys os oes gennych chi neu gymar gynilion, buddsoddiadau neu eiddo gwerth mwy na £16,000. 

 Gwneud cais ar-lein am ostyngiad ar y dreth gyngor

Gall pobl anabl y mae angen lle ychwanegol arnynt, fod yn gymwys i gael gostyngiad ar y dreth gyngor.      

Os yw eich cartref yn gymwys, bydd eich bil yn cael ei ostwng un band prisio. Os yw eich cartref yn y band isaf (Band A) byddwch yn cael gostyngiad o un rhan o chwech o’r bil.  Gallwch gael gwybod mwy am fandiau prisio ar ein tudalen bandiau Treth Gyngor.

Fydd hyn ddim yn effeithio ar werth eich cartref, na’r band ar y rhestr brisio.  

Pwy all wneud cais? 

Nid oes rhaid bod y person sy’n talu’r dreth gyngor yn anabl, gall fod yn unrhyw aelod o’r aelwyd, gan gynnwys plentyn.   

I dderbyn y gostyngiad, mae person anabl yn ‘sylweddol anabl ac yn anabl yn barhaol’ yn sgil salwch, anaf neu namau cynhwynol neu reswm arall. Mae rhai cyflyrau yn gwaethygu’n raddol, ac, mewn achosion o’r fath, bydd angen gwneud dyfarniad pan fydd anabledd yn datblygu’n sylweddol.  

Amodau’r gostyngiadau

Ystafell a ddefnyddir yn bennaf gan berson anabl ac eithrio ystafell ymolchi, cegin neu doiled

Ni fydd y ffaith bod person anabl yn defnyddio ystafell, yn arwain at ostyngiad. Mae pawb angen rhywle i gysgu, bwyta, byw, ac ati, ond weithiau mae’n rhaid bod ystafell ar gael yn arbennig i ddiwallu anghenion person anabl. Gall yr ystafell naill ai fod yn ystafell sydd eisoes yn bodoli, neu’n ystafell/estyniad ychwanegol, ond rhaid bod cyswllt rhwng anabledd y person a’r defnydd o’r ystafell.

Rhaid i’r ystafell fod o bwys mawr i les y person anabl oherwydd natur ei anabledd. Pe na bai’r ystafell neu’r nodwedd ar gael, a fyddai’n gorfforol amhosibl neu’n anodd iawn byw yn yr eiddo, ac a fyddai eu hiechyd yn dioddef, neu a fyddai’r anabledd yn dod yn fwy difrifol.   

Ystafell ymolchi neu gegin arall ar gyfer y person anabl.    

Ni fydd y ffaith bod gan eiddo ail ystafell ymolchi neu gegin, yn arwain at ostyngiad oni bai ei fod yn hanfodol i ddiwallu anghenion y person anabl. Nid yw ail doiled yn cael ei ystyried yn ystafell ymolchi.  

Angen defnyddio cadair olwyn dan do. 

Ni fydd person sydd fel arfer yn defnyddio cadair olwyn ond na all wneud hynny dan do, yn gymwys. Nid yw storio cadair olwyn dan do yn ddigon i fod yn gymwys.   

Gwneud cais ar-lein am ostyngiad ar y dreth gyngor oherwydd anabledd