Skip to Main Content

Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Fynwy

Telerau ac Amodau Dysgu Cymunedol Sir Fynwy

Nod Dysgu Cymunedol Sir Fynwy yw darparu’r holl gyrsiau a hysbysebir fodd bynnag ni fedrwn roi unrhyw warant. Mae darpariaeth cyrsiau yn dibynnu ar sicrhau isafswm mewn dosbarth. Caiff dosbarth ei ganslo neu ei ohirio os nad yw’n cyrraedd yr isafswm.

Mae gennym hawl i newid, canslo neu addasu cyrsiau, fodd bynnag os felly byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag sydd modd i ddysgwyr.

Caiff rhai cyrsiau eu cynnal ar-lein lle bydd angen i ddysgwyr gael cysylltiad rhyngrwyd a dyfais ddigidol gyda microffon a chamera – mae gennym nifer gyfyngedig o ddyfeisiau ar gael i’w benthyg ar gyfer cyfnod y cwrs.

Gofynnir i chi nodi y caiff ein holl ddosbarthiadau eu hanelu at oedolion. Oherwydd telerau ac amodau ein cyllid grant (a geir gan Lywodraeth Cymru a Choleg Gwent), mae angen i bob dysgwr sy’n mynychu dosbarth dysgu oedolion yn y gymuned fod dros 19* oed a heb fod mewn addysg lawn-amser.

*Ac eithrio Gweithdai Plant ac Oedolion

Archebion, Ad-daliadau a Gwybodaeth am Breifatrwydd

Nifer gyfyngedig o leoedd sydd mewn cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac maent yn golygu  costau cyflenwi ymlaen llaw. Mae archebu cwrs yn cadw lle ar gyfer y dysgwr hynny yn unig ac yn gweithredu mewn ffordd debyg i brynu tocyn ar gyfer digwyddiad diwylliannol neu addysgiadol. Mae angen talu adeg archebu er mwyn sicrhau tegwch i bob dysgwr a chefnogi cynllunio effeithlon ar wasanaethau a gyllidir yn gyhoeddus. Fel arfer ni roddir ad-daliad am archebion ac ni fedrir eu trosglwyddo, gyda chyfnod newid meddwl o 14 diwrnod, amgylchiadau eithriadol fel y nodir isod a’r atebion sydd ar gael i ddysgwyr lle mae’r cyngor yn methu darparu’r cwrs yn unol â’r contract. Bydd y Cyngor yn rhoi ad-daliad i geisiadau yn unol â’r telerau ac amodau hyn.

Archebu a Thalu

  • Mae’n rhaid archebu pob lle ymlaen llaw.
  • Mae angen taliad llawn adeg archebu os nad yw’r Cyngor yn cytuno fel arall.
  • Dim ond ar ôl cael taliad y caiff archeb ei chadarnhau.

Canslo, Ad-dalu a Throsglwyddo

  • Ni roddir ad-daliad os yw dysgwyr yn canslo os nad oes amgylchiadau eithriadol.
  • Ni roddir ad-daliad am sesiynau a gollir, gostyngiadau ffioedd neu ddosbarthiadau yn lle.
  • Mae lleoedd cwrs yn bersonol i’r dysgwr a ni chaniateir eu trosglwyddo i berson arall.
  • Gellir ystyried ceisiadau i drosglwyddo i gwrs arall ar ddisgresiwn y Cyngor, yn amodol ar argaeledd ac ystyriaethau gweinyddol.

Cansladau gan y Cyngor

Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wneud newidiadau rhesymol i leoliadau, tiwtoriaid, amserlenni neu ddulliau cyflwyno cyrsiau lle bo angen. Bydd y Cyngor yn hysbysu dysgwyr am newidiadau sylweddol cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

Lle mae’r Cyngor yn canslo cwrs cyn iddo ddechrau, bydd dysgwyr yn derbyn ad-daliad llawn o’r ffi a dalwyd am y cwrs. Pan gaiff cwrs ei ganslo ar ôl iddo ddechrau, neu y gwneir newid sylweddol sy’n effeithio’n sylweddol ar y cwrs, bydd y Cyngor yn hysbysu’r dysgwyr yr effeithiwyd arnynt am yr opsiynau sydd ar gael, a all gynnwys cwrs arall, trefniant arall ar gyfer cyflenwi neu ad-daliad priodol.

Amgylchiadau Eithriadol

Caiff ceisiadau am ad-daliadau oherwydd amgylchiadau eithriadol eu hystyried yn unigol, gan roi ystyriaeth i’r amgylchiadau, y gyfran o’r cwrs a gyflwynwyd, unrhyw sesiynau a fynychwyd ac unrhyw gostau perthnasol yr aeth y Cyngor iddynt yn rhesymol. Gall y cyngor ofyn am dystiolaeth resymol i gefnogi lle’n briodol.

Rhai enghreifftiau o lle na all dysgwr barhau oherwydd amgylchiadau tu hwnt i’w reolaeth resymol yw:

  • Salwch neu anaf difrifol neu fod yn yr ysbyty;
  • Profedigaeth;
  • Cyfrifoldebau gofalu annisgwyl;
  • Argyfyngau personol neu deuluol sylweddol;
  • Ac unrhyw sefyllfaoedd eithriadol eraill a gefnogir gan dystiolaeth briodol.

Ni chaiff ad-daliadau eu rhoi fel arfer ar gyfer:

  • Newid meddwl;
  • Gwyliau neu drefniadau teithio;
  • Ymrwymiadau gwaith oedd yn hysbys adeg archebu;
  • Diffyg mynychu;
  • Ac unrhyw anfodlonrwydd lle cafodd y cwrs ei gyflwyno gan y Cyngor yn unol â’r contract.

Bydd y Cyngor yn hysbysu’r dysgwr am ei benderfyniad a, lle cymeradwyir ad-daliad, y swm a’r sail dros yr ad-daliad. Fel arfer caiff ceisiadau eu cydnabod o fewn 5 diwrnod gwaith a’u penderfynu o fewn 10 diwrnod gwaith wedyn. Gall dysgwyr sy’n parhau’n anfodlon gyda chanlyniad gydag unrhyw gais am ad-daliad ddefnyddio gweithdrefn gwynion y Cyngor yn:

https://www.monmouthshire.gov.uk/feedback/

 

Rhestri Aros

Gall dysgwyr ymuno â rhestr aros lle mae cyrsiau yn llawn. Y Cyngor sydd yng ngofal rhestri aros a chaiff lleoedd eu cynnig yn ôl argaeledd. Nid yw ymuno â rhestr wirio yn gwarantu lle.

Preifatrwydd a Diogelu Data

Mae Cyngor Sir Fynwy yn prosesu gwybodaeth bersonol dysgwyr yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ar ddiogelu data. Defnyddir gwybodaeth i weinyddu cyrsiau, cyfathrebu gyda dysgwyr, cadw cofnodion presenoldeb a chyflawniad, ateb gofynion cyfreithiol a chyllid perthnasol, a gwella gwasanaethau.

Gellir rhannu gwybodaeth bersonol gyda chyrff dyfarnu perthnasol, sefydliadau cyllido, partneriaid cyflenwi a derbynwyr eraill lle bo hynny yn angenrheidiol a chyfreithlon. Ni fydd y Cyngor yn gwerthu gwybodaeth bersonol a bydd yn cymryd mesurau priodol i ddiogelu hynny.

Mae gwybodaeth bellach am sut mae’r Cyngor yn prosesu data personol ar gael yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Fynwy:  https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2025/05/MCC-GPDR-Policy-2024.docx

Derbyn

Drwy gwblhau archeb, mae dysgwr yn cadarnhau ei bod/fod wedi darllen, deall a chytuno i dderbyn y Telerau ac Amodau Archebu yma. Os ydych yn archebu ar ran dysgwr, rydych yn cadarnhau eu bod wedi eich awdurdodi i dderbyn y telerau hyn ar eu rhan.

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Fynwy yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch, cynhwysol ac ansawdd uchel gan sicrhau defnydd teg a rhesymol o adnoddau cyhoeddus.