Yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth bydd Addysg Gymunedol Sir Fynwy yn dechrau ailagor ar 12 Ebrill. Byddwn yn ailagor ein canolfannau gyda darpariaeth gyfyngedig er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i weithredu mesurau diogelwch ar gyfer iechyd a diogelwch ein dysgwyr a’n staff (pellter cymdeithasol, golchi dwylo a gwisgo gorchudd wyneb yn holl rannau cyhoeddus y canolfannau). Caiff y mesurau hyn eu rhoi ar waith i sicrhau diogelwch ac iechyd da staff a dysgwyr y canolfannau – disgwylir i bob dysgwr gydymffurfio gyda’r mesurau.
Bydd y dosbarthiadau sy’n rhedeg ar-lein ar hyn o bryd yn parhau ar-lein. Caiff y trefniant hwn ei adolygu ar ddiwedd y cwrs.
Caiff ein gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth am ddosbarthiadau neu gallwch anfon unrhyw gwestiynau drwy e-bost at communityed@monmouthshire.gov.uk .
Rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus ac yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl.
Mae canolfannau Dysgu yn y Gymuned Sir Fynwy yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ac adeiladu
ar sgiliau presennol. Mae pump canolfan Addysg yn y Gymuned yn Sir Fynwy lle cynhaliwn amrywiaeth eang ogyrsiau yn
cynnwys Cyfrifiaduron, Ieithoedd, Saesneg a Mathemateg, Celf a Chrefft, Gwaith Blodau, Saesneg i
Siaradwyr Ieithoedd Eraill a llawer arall.
Mae ein myfyrwyr/defnyddwyr gwasanaeth wrth galon ein sefydliad, a chynigiwn gyrsiau sy’n addas i’r gymuned gyfan.
Felly p’un ai ydych yn ddysgwr newydd neu’n ddysgwyr sy’n dychwelyd, rydym yn siŵr y cewch eich amser gyda ni
yn brofiad cyffrous, heriol a gwreth chweil.
Edrychwch beth sydd ar gael o’r gwahanol ganolfannau a chofiwch gysylltu â ni os ydych angen mwy o wybodaeth.