Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Amserlen ar gyfer Derbyniadau Meithrin:

Ionawr a Medi 2027

Gwneud Cais O: 3 Gorffennaf 2026

Dyddiad Cau: 11 Medi 2026 am 4pm

Hysbysir Rhieni Erbyn: 21 Tachwedd 2026

Ebrill 2027

Gwneud Cais O: 3 Gorffennaf 2026

Dyddiad Cau: 11 Medi 2026 am 4pm

Hysbysir Rhieni Erbyn: 5 Mawrth 2027

Mae’n bosibl y bydd plant a anwyd rhwng 1 Medi 2023 a 31 Mawrth

2024 yn cael eu cynnig yn gynnar yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed, ymdrinnir â hyn trwy’r un broses gan ddefnyddio’r un ffurflen gais, ond ni fydd rhieni’n cael gwybod am ddechrau cynnar ym mis Ebrill tan 5 Mawrth 2027.

Caiff plant eu derbyn o’r tymor cyntaf yn dilyn eu pen-blwydd yn dair

oed. Nodir yr amserlenni gofynnol ar gyfer derbyn i unedau meithrin

uchod. Ar ôl derbyn yr holl geisiadau o fewn yr amserlen, gweithredir y meini prawf dilynol yn nhrefn blaenoriaeth os oes mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael.

Plant sydd â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (gofyniad

statudol ar gyfer derbyn)

1. Caiff plant sy’n derbyn gofal neu sydd yn flaenorol wedi derbyn gofal h.y. plant sydd yng ngofal neu a fu’n flaenorol yng ngofal awdurdod lleol flaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 2-4 islaw.

2. Rhoddir blaenoriaeth i seiliau meddygol neu gymdeithasol a amlygirgan asiantaethau priodol dros y rhai’n cyflawni pwyntiau 3-4 islaw.

3. Rhoddir blaenoriaeth i blant sydd â sibling perthnasol yn mynychu’rfeithrinfa a ffafrir (nid y brif ysgol) adeg derbyn flaenoriaeth dros yrhai’n cyflawni pwynt 4 islaw.

4. Ar ôl gweithredu’r categorïau uchod, neu os yw’r ysgol yn parhau

i fod mewn sefyllfa o fwy o geisiadau nag o leoedd ar gael yn

unrhyw un o’r categoriau uchod, bydd blaenoriaeth yn seiliedig

ar agosatrwydd at yr ysgol a ffafrir, a fesurir yn defnyddio’r llwybr

cerdded diogel byrraf.

Mae rhestr o unedau meithrin yr Awdurdod Lleol

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais i wneud cais am le meithrin awdurdod lleol. Gallwch lenwi ffurflen lein ar-gais fydd ar gael ar 3 Gorffennaf 2026 drwy fynd i’r wefan monmouthshire.gov.uk. Os cewch anhawster yn cael mynediad i’r cais, cysylltwch os gwelwch yn ddâ â’r Uned Derbyn ar 01633 644508 neu anfon e-bost ar: accesstolearning@monmouthshire.gov.uk

Wrth gyflwyno cais, gofynnir i chi ddarparu dogfennaeth briodol yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i wirio’r cyfeiriad cartref. Ar gyfer unrhyw leoedd meithrin a gynigir, efallai y bydd angen i chi gyflwyno tystysgrif geni eich plentyn wrth gofrestru i’r feithrinfa berthnasol.

Os gwrthodir lle i blentyn mewn uned feithrin, nid oes gan y rhieni hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gan nad yw addysg feithrin ynstatudol.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw derbyn i ddosbarth meithrin yn gwarantu lle yn yr ysgol fwydo gan fod angen cais ar wahân.

Mae gan y Bartneriaeth Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant gyfrifoldeb am sicrhau fod lle rhan-amser ansawdd da mewn addysg gynnar ar gael ar gyfer y rhieni sy’n dewis hynny ar gyfer eu plant o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed.

Yn ogystal ag unedau meithrin yr Awdurdod Lleol, gall plant hefyd gael mynediad i addysg gynnar yn unrhyw un o’n darparwyr cymeradwy nas cynhelir, sy’n cynnwys cylchoedd chwarae, meithrinfeydd dydd preifat ac ysgolion cyn-baratoi. Mae rhestr lawn, yn cynnwys manylion cyswllt ac oriau agor ar gael yn monchildcare.org.uk