Skip to Main Content

Cynllun datblygu lleol * Polisi a chyngor a nodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym Mholisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol 

Ystyriaethau materol eraill, megis: – Polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol perthnasol – Golwg a chymeriad y datblygiad, gosodiad a dwysedd – Cynyddu traffig, diogelwch priffyrdd a pharcio / gwasanaethu – Cysgodi, edrych drosodd, aflonyddwch sŵn, arogleuon neu golli amwynder arall 

Gall ceisiadau cynllunio gael eu penderfynu naill ai gan swyddogion dan bwerau dirprwyedig neu gan y Pwyllgor Cynllunio. Mae gan Gyngor Sir Fynwy Gynllun Dirprwyo a gellir dod o hyd i siart llif o’r cynllun dirprwyo yma ………. (dolen).


Caiff y rhan fwyaf o benderfyniadau eu dirprwyo i swyddogion i gyflymu’r broses. Nid oes rhaid i’r ceisiadau hyn fynd i’r Pwyllgor Cynllunio. Mae swyddogion yn ysgrifennu adroddiad ac yn gwneud argymhelliad cyn i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud.

Ar rai ceisiadau, mae swyddogion yn ymgynghori â’r Panel Dirprwyo, sy’n cynnwys y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Wrthblaid. Mae’r Panel Dirprwyo yn adolygu adroddiad y swyddogion a’r cynlluniau a gyflwynwyd ac yn ceisio mynychu’r safle (os oes angen) i adolygu’r datblygiad arfaethedig ac i adolygu’r pryderon a wnaed gyda’r datblygiad. Mae’r ymweliad safle hwn er mwyn i aelodau’r Panel adolygu manylion y safle, gall aelodau’r cyhoedd a’r cyngor cymuned fynychu’r cyfarfodydd a chodi eu pryderon yn anffurfiol gyda’r aelodau. Os ystyrir mai hwn yw’r cam gweithredu priodol, gall y Panel gyfarwyddo bod y Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu’r cais.