Skip to Main Content

Mae llawer o aelwydydd yng Nghymru’n dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol (LPG) i wresogi eu cartrefi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  Mae cynnydd mewn prisiau tanwydd oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi cynyddu’r pwysau ar gyllidebau teuluoedd. 

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £3.8 miliwn i Lywodraeth Cymru i helpu aelwydydd yng Nghymru sy’n dibynnu ar olew gwresogi neu LPG. 

 Mae Taliad untro Olew Gwresogi a LPG o £200 bellach ar gael i aelwydydd incwm isel yn Sir Fynwy sy’n gwresogi eu cartrefi gan ddefnyddio olew gwresogi neu LPG.  Nod y cymorth targedu hwn yw helpu pobl i dalu’r costau cynyddol hyn.

Mae’r dudalen hon yn esbonio’r cymorth sydd ar gael, pwy all ei gael a sut i wneud cais.

Efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn:

  • Defnyddio olew gwresogi neu LPG fel prif danwydd gwresogi, a
  • Rydych yn byw yn y cartref fel eich prif neu unig gartref, a
  • Mae gennych hawl i’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor ar unrhyw adeg rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026
  • Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at aelwydydd a allai fod yn gymwys ar gyfer taliad ac yn eu gwahodd i wneud cais
  • Os nad ydych chi wedi derbyn llythyr ond rydych yn credu y gallech fod yn gymwys i dderbyn taliad, gallwch wneud cais o hyd

Os nad ydych chi’n derbyn cymorth ar hyn o bryd trwy’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am cymhwysedd a gwneud cais yma

Yr hyn fydd angen i chi wneud:                                                                             

  • Cwblhau’r ffurflen ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen a roddir
  • Cadarnhau eich math o danwydd gwresogi a lanlwytho prawf o’ch pryniant olew neu LGP diwethaf, dyddiedig yn ystod y 12 mis diwethaf 
  • Darparu tystiolaeth o’r cyfrif banc yr ydych am i’r taliad gael ei wneud iddo. Bydd angen i ni weld datganiad banc o’r 6 mis diwethaf

Mae gennych tan 30 Medi 2026 i wneud eich cais, ac ar ôl hynny bydd y cynllun yn cau i geisiadau newydd.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich biliau neu wresogi eich cartref, gallwch ddefnyddio ein tudalen Cymorth Costau Byw i weld y cymorth arall sydd ar gael i drigolion yn Sir Fynwy.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help drwy’r Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn.  I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i wefan LLYW.CYMRU

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwasanaethau.  Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn rhoi gwybodaeth i chi am:

  • y data rydym yn ei gadw amdanoch chi
  • sut rydym yn ei ddefnyddio
  • eich hawliau mewn perthynas ag e, a
  • y rhagofalon sy’n bodoli er mwyn ei ddiogelu.