Rydym eisiau adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf sy’n cefnogi llesiant y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r weledigaeth hon yn ganolog i bopeth a wnawn i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy.
Anelwn ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pobl a busnesau lleol , i’n helpu i gyflawni hyn gosodwn amcanion a thargedau, gan roi ystyriaeth i’r pethau sy’n bwysig i bobl. Rydym hefyd yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Fynwy lle gweithiwn gyda phartneriaid sector cyhoeddus i wella llesiant yn y sir.
Y cyhoeddiad mwyaf diweddar:
Edrych Ymlaen, Cyflawni Nawr: Ein Strategaeth hyd Haf 2022
Pan ddechreuodd y pandemig Coronafeirws, roedd angen gweithredu ar frys er mwyn mynd i’r afael gyda’r heriau sylweddol a digynsail a oedd yn wynebu ein ffordd o fyw a’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau. Rydym wedi parhau i ddelio gyda’r heriau yma drwy sefydlu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau i gefnogi ein trigolion a busnesau, cynorthwyo gweithgareddau yn y gymuned a gofalu am lesiant staff. Yn darparu eglurder ac yn sicrhau atebolrwydd drwy gydol bob dim, mae yna nod a set o amcanion strategol diwygiedig wedi eu sefydlu. Hyd yma, rydym wedi datblygu pum fersiwn wahanol o amcanion strategol sydd wedi eu datblygu yn unol â’r sefyllfa sy’n newid a’r blaenoriaethau newydd sydd yn dod i’r amlwg. Mae’r fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael yma, Disgwyl Tuag At Y Dyfodol, Cyflawni Nawr: Ein Strategaeth hyd at Haf 2022
Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2020/21
Mae ein Cynllun Corfforaethol yn gosod rhaglen uchelgeisiol bum-mlynedd gyda diben clir o adeiladu cymunedau cynaliadwy a chadarn, ac mae’r adroddiad hwn yn dynodi ein cynnydd o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021. Mae’r byd wedi wynebu newidiadau sylweddol yn ystod y cyfnod hwn a chafodd rhai o’r pethau yr aethom ati i’w cyflawni i ddechrau eu hoedi dros dro tra’n bod yn canolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel, atal lledaeniad Coronafeirws ac ymestyn allan i’r rhai oedd fwyaf o angen help. Ond mae ein nodau wedi parhau’n bwysig drwy gydol y cyfnod, a rydym wedi parhau gweithgaredd i gyflawni’r rhan fwyaf ohonynt. I’n llywio drwy’r pandemig ac i sicrhau ein bod wedi parhau yn hatebol, esblygodd ein diben i adlewyrchu’r heriau newydd; fe wnaethom sefydlu nodau strategol a rhoi’r dasg i’r sefydliad eu cyflawni. Mae gwybodaeth ar ein camau gweithredu ar y nodau strategol hefyd ar gael yn yr adroddiad.
Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Cynllun Corfforaetho

Ffeithlun Cefnogi Sir Fynwy drwy’r Pandemig Coronafeirws
Cynllun Corfforaethol 2017-2022 yn cynnwys Amcanion a Datganiad Llesiant
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi diweddaru ei Gynllun Corfforaethol, ‘Sir Fynwy sy’n gweithio i bawb’. Cyhoeddwyd y Cynllun Corfforaethol yn 2018 i osod cyfeiriad clir ar gyfer y Cyngor hyd at 2022. Mae’r cynllun diwygiedig yn ailddatgan diben y cyngor o ‘adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf’ ac yn cadarnhau’r pum nod blaenoriaeth a’r rhaglenni gwaith, 22 i gyd, y mae’r Cyngor yn ymroddedig iddynt rhwng nawr a 2022. Mae’r adfywio canol tymor yn sicrhau fod yr uchelgeisiau a’r gweithgaredd a osodwyd yn parhau’n berthasol, y gellir eu cyflawni o fewn yr adnoddau sydd ar gael, ac yn adlewyrchu’r pethau sy’n bwysig i’n cymunedau.
Mae’r cynllun yn gosod pum nod blaenoriaeth ac yn cynnwys nifer o raglenni gwaith, cyfanswm o 22, y mae’r Cyngor yn ymroddedig iddynt rhwng nawr a 2022. Y pump nod yw:
- y dechrau gorau posibl mewn bywyd;
- cymunedau llewyrchus a chysylltiedig;
- yr amgylchedd naturiol ac adeiledig;
- llesiant gydol oes;
- cyngor gyda ffocws ar y dyfodol
Mae’r cynllun diwygiedig hefyd yn cyflawni ein cyfrifoldebau i gynhyrchu Datganiad ac Amcanion Llesiant a gosod Amcanion Gwella, dan ddeddfwriaeth Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a hefyd Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Byddwn yn paratoi adroddiad blynyddol yn gwethuso’r cynnydd a wnaethom ar y Cynllun Corfforaethol erbyn mis Hydref bob blwyddyn.
Cynllun Diweddaraf
Cyhoeddwyd Cynllun Corfforaethol 2017-22
Cynllun Corfforaethol Mesurau Perfformiad
Adolygu Perfformiad
Rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adolygu ein perfformiad yn y flwyddyn ariannol flaenorol, sy’n cynnwys gwerthusiad o ba mor dda y gwnaethom gyflawni’r amcanion a osododd y Cyngor yn y flwyddyn flaenorol.
Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Cynllun Corfforaetho
Crynodeb Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Cynllun Corfforaethol
Adolygiadau blaenorol o Berfformiad:
Adroddiad Blynyddol 2019/20 y Cynllun Corfforaethol
Amcanion a Datganiad Llesiant – Adroddiad Blynyddol 2017/18
Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2018/19
Sut wnaethon ni berfformio 2016/17
Mesurau Perfformiad:
Mae’r cyngor yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau. Rydym yn monitro pa mor dda y perfformiwn drwy gydol y flwyddyn wrth i ni anelu i osod safonau a, lle mae adnoddau’n caniatáu hynny, sicrhau gwelliant. Mae ein pwyllgorau dethol yn craffu ar berfformiad amrywiaeth o wasanaethau ar hyd y flwyddyn ac mae’n cynlluniau’n cynnwys nifer fawr o fesurau a ddefnyddiwn i fonitro perfformiad.
Adolygiadau Perfformiad
Rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adolygu ein perfformiad yn y flwyddyn ariannol flaenorol, sy’n cynnwys gwerthusiad o ba mor dda y gwnaethom wrth gyflawni’r amcanion a osodwyd.
Cysylltu gyda ni
Mae gennym ddiddordeb bob amser ym marn pobl am sut ydym yn gwneud. Os dymunwch rannu eich barn am ein perfformiad, gallwch anfon e-bost atom yn defnyddio improvement@monmouthshire.gov.uk