Skip to Main Content

Mae rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu yn ymrwymiad Cymru’n Un ac yn gynllun unigryw ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau. Mae’n rhaglen buddsoddiad cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol gyda’r nod o greu cenhedlaeth o Ysgolion Cynaliadwy yng Nghymru.

Ein Gweledigaeth

Pob plentyn a pherson ifanc yn Sir Fynwy yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Ein Gwerthoedd

Rydym yn ymroddedig i:

  • Gefnogi datblygiad dysgwyr hapus a chydnerth, gyda ffocws ar lwyddiant academaidd a hefyd les personol.
  • Cyfle cyfartal a hyrwyddo llwyddiant a chyfleoedd bywyd pob plentyn drwy gau’r bwlch mewn deilliannau addysg.
  • Ymroddiad i weithio ar draws proffesiynau ac asiantaethau dan arweiniad data a thystiolaeth o ymarfer da sy’n dod i’r amlwg.
  • Codi uchelgais pob plentyn a phobl ifanc a’n disgwyliadau o’r hyn y gallant eu gyflawni, beth bynnag eu cefndir neu angen.
  • Dathlu llwyddiant disgyblion, ymarferwyr ac ysgolion ar bob cyfle.
  • Gweithio gyda plant, eu teuluoedd a’r gymuned, gan gydnabod fod gan bawb gryfderau yn ogystal ag anghenion.
  • Sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn barod ar gyfer diwydiant ac yn medru cyfrannu’n lleol ac yn fyd-eang i ateb gofynion amgylchedd byd sy’n newid yn gyflym.

Prosiectau blaenorol yn Sir Fynwy

Ysgol Gyfun Trefynwy

Cafodd disgyblion yn Nhrefynwy eu croesawu i’w hysgol newydd 21ain Ganrif ddydd Llun 17 Medi 2018. Dechreuodd myfyrwyr a staff y flwyddyn academaidd yn eu hadeilad ysgol newydd o’r math diweddaraf.

Ysgol Gyfun Cil-y-coed

Mae’r amgylchedd dysgu £36.5m yn cynnwys cyfuniad o ardaloedd ar arddull theatr, neuadd fawr a gofodau stiwdio i astudio’n anffurfiol, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth gyda golau naturiol ac ardaloedd tawelach i bobl ifanc eu mwynhau.

Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Eglwys yng Nghymru Rhaglan

Yn dechrau yn 2014, yn nod yn hystod ailddatblygiad Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Rhaglan oedd darparu addysgu ar ddyluniad Plaza addas i’r diben ac ystafelloedd ac adnoddau ategol ar y safle.

Dilynwch ni ar Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.