Skip to Main Content

Mae dwy lefel o Rybudd Tâl Cosb – lefel uwch a lefel is – yn ddibynnol ar y tramgwyddau parcio.

Mae’r costau RHTC canlynol mewn grym ar draws Sir Fynwy

· Lefel Uwch RhTC – £70.00

· Lefel Is RhTC – £50.00

Caiff Gorfodi Sifil ar Barcio (GSB) ei orfodi Gan ein tîm o swyddogion gorfodi sifil mewn lifrai, sy’n gweithio saith niwrnod yr wythnos ledled y sir.

Yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n penderfynu pa dramgwyddau sydd ar ba lefelau ac yn gosod costau RhTC. Gallwch ddarganfod pa lefel yw tramgwydd trwy ddarllen deddfwriaeth y llywodraeth.

Mae gennych 28 niwrnod i wneud taliad neu i ddarparu her / apêl anffurfiol o’r dyddiad y cafodd ei gyhoeddi. Os hoffech herio’ch RhTC cliciwch ar y ddolen ganlynol Herio RhTC)

Mae gostyngiad o 50% os telir y Rhybudd Talu Cosb o fewn y 14 diwrnod ar ôl ei gyhoeddi. Os yw’r RhTC heb ei dalu ar ôl y cyfnod disgownt hwn, bydd yn cynyddu i’w swm llawn. Os na wneir taliad na her o fewn y 28 niwrnod o’r dyddiad cyhoeddi, bydd Grŵp Parcio De Cymru (GPDC) yn cyflwyno Rhybudd i’r Perchennog (RhiP) i berchennog cofrestredig y cerbyd. Mae hyn yn atgoffa person yn derfynol cyn ychwanegu gordal ychwanegol at swm y gosb.

Er mwyn talu’ch rhybudd tâl cosb, a fyddech gystal ag ymweld â Sut i dalu

Os bydd y modurwr yn dal heb wneud taliad, bydd hwn yn cael ei gofrestru fel dyled yn y pen draw. Bydd dyledion heb eu talu yn cael eu hadennill gan asiantau gorfodi (Casglwyr Dyled) Marston Holdings a bydd yn rhaid talu taliadau ychwanegol.

Os ydych wedi derbyn gohebiaeth neu ymweliad gan ein Hasiantau Gorfodi (Casglwyr Dyled) Marston Holdings, mae’n rhaid i chi ohebu â nhw’n uniongyrchol o’r pwynt hwnnw ymlaen.

Gallwch wneud taliad gan ddefnyddio’r dulliau canlynol:

Ffôn: 0333 320 1100

Gwefan: https://payments.marstonholdings.co.uk

Er mwyn siarad ag un o’r tîm ym Marston Holdings i wneud taliad neu drafod opsiynau debyd uniongyrchol, ffoniwch 0333 320 1781 o ddydd Llun i ddydd Gwener 8 y bore i 8 y prynhawn a dydd Sadwrn 8 y bore i 4 y prynhawn.

Bydd yr holl ddulliau talu eraill yn cael eu hegluro o fewn unrhyw ohebiaeth a gewch.

A fyddech gystal â dyfynnu’ch cyfeirnod ar bob galwad a gohebiaeth.

Sylwer, pan fydd Marstons yn delio â’ch achos, mae angen cysylltu’n uniongyrchol â nhw. Ni all Cyngor Sir Fynwy ateb cwestiynau ynghylch unrhyw ymholiadau neu heriau talu ar hyn o bryd.