Skip to Main Content

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ddyletswydd cyfreithiol o dan Adran 26 y Ddeddf Gofal Plant i gynhyrchu Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob pum mlynedd. Mae’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn mesur y math a faint o alw sydd am ofal plant o fewn yr awdurdod lleol, yn ogystal â mesur y ddarpariaeth o ran gofal plant.  

Mae Adran 22 y Ddeddf Gofal Plant 2006 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddiogelu, cyhyd â sy’n ymarferol bosibl, darpariaeth gofal plant sy’n ddigonol o ran diwallu gofynion rhieni yn eu hardal er mwyn eu galluogi i weithio neu dderbyn addysg neu hyfforddiant sy’n arwain at waith.

Gallwch lawrlwytho copi o Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Sir Fynwy isod: