Skip to Main Content

Gall unrhyw un dros ddwy oed sydd ag anabledd parhaol a sylweddol sy’n effeithio ar eu gallu i symud wneud cais am fathodyn glas. Gall pobl wneud cais dan y meini prawf awtomatig neu’r meini prawf ar ddisgresiwn.

 

 

Os credwch y gallech fod yn gymwys am fathodyn glas, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch wneud cais ar-lein yn www.gov.uk neu ofyn i Gyngor Sir Fynwy am ffurflen gais.

Os gwnewch gais ar-lein, gallwch olrhain eich cais a diweddaru eich manylion. Fel arall, gallwch ofyn am ffurflen gais gan unrhyw un o’r dilynol:

Ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01633 644644

Drwy e-bost: contact@monmouthshire.gov.uk

Drwy ymweld ag un o’n Hybiau Cymunedol

Byddwch angen y dilynol i wneud cais am Fathodyn Glas

  • Llun lliw digidol diweddar neu lun maint pasbort wedi ei lofnodi. Dylai’r ffotograff ddangos wyneb ac ysgwyddau llawn yr ymgeisydd fel ei bod yn rhwydd adnabod y deiliad bathodyn.
  • Rhif Yswiriant Gwladol.
  • Tystiolaeth o adnabyddiaeth (e.e. pasbort/ tystysgrif geni/mabwysiadu, trwydded yrru ddilys, tystysgrif partneriaeth/diddymu neu dystysgrif priodas/ysgaru)
  • Tystiolaeth o gyfeiriad (e.e. Bil Treth Gyngor neu gallwch roi caniatâd i’r awdurdod lleol i wirio’r gronfa ddata Treth Gyngor neu Gofrestr Etholiadol )
  • Os ydych yn llenwi cais ar ran rhywun dan 16 oed, gallwch roi caniatâd i’r awdurdod lleol wirio cofnodion ysgol i gadarnhau eu cyfeiriad.
  • Prawf o gymhwyster os ydych yn gwneud cais dan y meini prawf awtomatig.

Os yw’ch cais yn llwyddiannus, anfonir eich bathodyn newydd yn uniongyrchol i’ch cyfeiriad cartref.

Nid yw’r rhesymau dilynol ar ben eu hunain yn gwneud unigolyn yn gymwys am Fathodyn Glas:

  • Beichiogrwydd
  • Cyfradd is Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gweini
  • Anabledd mewn un fraich
  • Problemau gyda’r bledren neu’r coluddyn tebyg i glefyd Crohn neu Colitis
  • Cyflyrau dros dro megis torri braich neu goes neu sbraeniau sy’n golygu bod angen bod mewn blaster am nifer o wythnosau neu fisoedd
  • Trin salwch neu anaf nad yw’n effeithio’n ddifrifol ar y gallu i symud.