
Arolwg Preswylwyr Sir Fynwy 2024 – Eich Barn
Yn ystod Hydref 2024, cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy arolwg preswylwyr ar fywyd bob dydd yn Sir Fynwy.
Wedi’i gynnal gan Data Cymru, roedd yr arolwg yn rhan o’u Harolwg Preswylwyr Cenedlaethol, a gynlluniwyd i gefnogi Cynghorau lleol i gynyddu eu dealltwriaeth o berfformiad a chanfyddiad.
Diogelu Data a Chyfrinachedd |
Rydym yn cydymffurfio gyda’r holl ddeddfwriaeth yn ymwneud â diogelu gwybodaeth bersonol, yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y Deyrnas Unedig. Bydd gwybodaeth bersonol a roddwch i Gyngor Sir Fynwy yn aros yn gwbl gyfrinachol a bydd ond yn cael ei rhannu gyda Data Cymru at ddibenion yr arolwg hwn. I gael mwy o wybodaeth am breifatrwydd ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2024/09/NRS-Hysbysiad-Preifatrwydd-Medi-2024.docx |