Pryd fedraf i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd yn 2026?
Agorodd cofrestru ar-lein ar gyfer y cyhoedd ar 19 Ionawr 2026.
Gallwch hefyd gofrestru drwy alw ein canolfan gyswllt neu yn yr Hybiau Cymunedol
Mae cyfnod y gwasanaeth casglu yn dechrau ar 2 Mawrth 2026.
Mae’r cyfnod cofrestru yn dod i ben ar 31 Awst 2026.
Pryd y caiff fy min ei ddosbarthu?
Disgwylir i gwsmeriaid presennol sy’n archebu’r un nifer o finiau â’r llynedd i defnyddio’r biniau sydd ganddynt eisoes.
Bydd cwsmeriaid newydd neu rai sy’n archebu fwy o finiau na’r llynedd yn derbyn eu bin/iau o fewn 14 diwrnod o archebu.
Mae fy min wedi torri, a allaf gael un arall?
Os ydych wedi cofrestru â ni ar gyfer gwasanaeth gwastraff gardd 2026 a fod eich bin wedi torri, cysylltwch â ni a chewch fin arall. Cysylltwch â ni ar 01633 644644.
Sut mae defnyddio’r bin olwyn?
Dylech gadw eich bin gwastraff gardd ar eich eiddo. Llenwch ef gyda gwastraff gardd gan sicrhau fod y caead ei gau. Mae gan eich bin ddwy olwyn yr un ochr â’r handlen. Codwch y bin fel ei fod ar ddwy alwyn a dylech fedru ei symud. Rhowch eich bin ar ochr y ffordd cyn 7am ddiwrnod eich casgliad. Ewch â’r bin yn ôl i’ch eiddo ar ôl y casgliad.
Beth yw maint y bin olwyn?
Y meintiau yw: 58.2cm lled (ymyl uchaf) x 72.4cm dyfnder x 106.6m uchder (caead ar gau).
Mae biniau olwyn yn dal 240 litr.
Mae bin olwyn yn dal cymaint â 3 o’r hen fagiau brown (80 litr yr un).
Pryd y caiff fy ngwastraff gardd ei gasglu?
Caiff pob bin ei gasglu unwaith bob bythefnos o 2 Mawrth 2026 i 4 Rhagfyr 2026.
Gall eich diwrnod casglu fod wedi newid o’r llynedd. Galwch edrych ar eich dyddiad casglu ar-lein yn – https://maps.monmouthshire.gov.uk/
A fyddaf yn cael trwydded gyda bin olwyn?
Byddwch, ar ôl cofrestru, cewch lythyr a sticer hawlen drwy’r post o fewn 14 diwrnod. Mae’n rhaid i chi roi’r sticer hawlen ar eich bin gwastraff gardd i ddangos eich bod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth eleni.
Mae’n rhaid i chi roi’r sticer dan handlen y bin olwyn. Ni fydd y cyngor yn casglu gwastraff gardd o finiau nad ydynt yn dangos sticer tanysgrifio gwastraff gardd.
Beth os nad oes gennyf le i gadw bin?
Yn gyffredinol, nid yw bin olwyn yn cymryd dim mwy o le na bagiau. Os na fedrir cadw bin olwyn oherwydd nad oes lle rhwng tu blaen yr eiddo a’r briffordd gyhoeddus, byddwn yn gweithio gyda’n preswylwyr i sicrhau fod y gwasanaeth yn dal i fod ar gael iddynt. Gallwch gysylltu â’r cyngor drwy ffonio: 01633 644644.
Beth os nad wyf yn medru symud bin?
Mae gan y biniau olwynion fel eu bod yn rhwydd i breswylwyr eu symud ac nid yw’n rhaid eu cario neu eu codi fel bag. Os na all unrhyw aelod o’r aelwyd yn gorfforol symud bin olwyn, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau fod y gwasanaeth yn dal i fod ar gael i chi. Cysylltwch â’r cyngor drwy ffonio: 01633 644644.
Sut y gallaf reoli fy ngwastraff gardd gartref?
Bydd codi uchder torri llafnau a thorri gwair yn fwy aml heb gasglu toriadau glaswellt yn eich helpu i wrteithio’r tir a gostwng faint o wastraff sydd angen gwaredu ag ef.
Mae compostio gartref yn ffordd rwydd i ddelio gyda thoriadau glaswellt, dail a thociadau gwrychoedd.
Nid oes angen i chi gael bin compost, bydd neilltuo ardal fach ar gyfer tomen compost syml yn gwneud y tro. Bydd toriadau gwair yn pydru’n gyflym os yw mewn man heulog felly gall hyn fod yn ddatrysiad ymarferol pan nad oes casgliadau gardd.
Gall tomen compost gardd hefyd fod yn fanteisiol i bryfed a bywyd gwyllt ar adeg pan fo natur hefyd angen cartref. Gall darnau gwyllt o laswellt, gwrychoedd a chanopi coed hefyd fod â rhan enfawr yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
A allaf losgi fy ngwastraff gardd?
Gofynnir i chi beidio llosgi gwastraff gardd neu unrhyw wastraff arall. Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd wedi gweld cynnydd mawr mewn cwynion ac wedi gofyn i breswylwyr y sir fod yn gymdogion da yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae angen gwarchod pobl gyda phroblemau anadlu rhag ansawdd aer gwael, yn cynnwys mẁg o goelcerthi.