Skip to Main Content

Casgliadau Gwastraff

Faint o’r gloch y dylai fy sbwriel ac ailgylchu fod mas?
Gofynnir i chi sicrhau fod eich holl ailgylchu a sbwriel mas ar y palmant erbyn 7.00am ar fore’r casglu. Peidiwch rhoi sbwriel nac ailgylchu allan cyn y noswaith cyn y diwrnod mae’ch casgliad i fod. Gall hyn arwain at sbwriel diangen os caiff eich bagiau eu rhwygo’n agored.

A allaf drefnu cymorth cludo?
Cysylltwch â ni os ydych yn oedrannus, anabl neu’n ei chael yn anodd mynd â’ch gwastraff at y palmant a gwnawn ein gorau i drefnu cymorth casglu. Mae’n rhaid i ni roi ystyriaeth i stepiau, lonydd cul neu hir a llwybrau mynediad.

Pam fod gen i fwy nag un diwrnod casglu?
Rydym yn gostwng nifer y cerbydau casglu sy’n mynd heibio’ch tŷ ond mae casglu mewn adrannau ar wahân yn cyfyngu ar ein gallu i gasglu popeth ar yr un diwrnod.

Pam fod cyfyngiad o 2 fag ar gyfer sbwriel?

  • Gellid ailgylchu o leiaf 75% o sbwriel cartrefi.
  • Rydym yn casglu’r deunyddiau hyn bob wythnos mewn bagiau coch a phorffor.
  • Mae’n well i’r amgylchedd.
  • Mae’n rhatach ailgylchu sbwriel cartrefi nag yw hi i ni ei anfon i safle ‘ynni o wastraff’
  • Mae’n gwneud mwy o synnwyr i wario cyllidebau is y cyngor ar addysg a gofal cymdeithasol na thrin sbwriel heb ei ddidoli o gartrefi.

Mae gen i deulu mawr – a allaf roi fwy na 2 fag mas?
Mae’r rhan fwyaf o gartrefi yn gallu ymdopi gyda dim mwy na dau fag ond os ydych yn deulu mawr, gallwch ofyn i Swyddog Ailgylchu ymweld â chi ac efallai y gallant gynnig lwfans ychwanegol.

Beth am ludw?
Gellir rhoi lludw mewn bin sbwriel ychwanegol bach a byddwn yn ei casglu. Dylech wneud yn siŵr fod y lludw yn oer ac nad yw’n rhy drwm i’n criwiau ei godi.

A allaf gael bin olwyn?
Na, mae Sir Fynwy yn awdurdod casglu bagiau.