Skip to Main Content

Faint o fagiau cewynnau neu wastraff hylendid y gallaf eu rhoi mas i’w casglu?
Gallwch roi cynifer o fagiau ag ydych angen, nid oes cyfyngiad.

Dim ond ychydig y gewynnau sydd gen i
Gellir rhoi nifer fach o gewynnau neu wastraff hylendid yn eich bag du os oes gennych le.

Beth allaf ei roi yn fy magiau melyn?
Gwastraff cewynnau a gwastraff hylendid a chynnyrch cysylltiedig tebyg i weips ac yn y blaen. Ond ni fyddir yn casglu bagiau melyn sy’n cynnwys unrhyw sbwriel cartref.

Pam nad ydych chi’n ailgylchu gwastraff cewynnau?
Ychydig iawn o gwmnïau sydd â chyfleusterau ailgylchu ar gyfer y math yma o wastraff ac nid yw’n gost-effeithlon i Sir Fynwy ar hyn o bryd.

Ydych chi’n hyrwyddo cewynnau y gellir eu golchi?
Ydym, mae Sir Fynwy yn cefnogi rhieni sy’n dewis defnyddio cewynnau y gellir eu golchi gan eu bod yn well i’r amgylchedd a gallant arbed cannoedd o bunnau i rieni o gymharu â chost cewynnau taflu ymaith.

 A allaf gael sampl i roi cynnig arno?
Gallwch. Rydym yn darparu sampl o gewyn y gellir ei olchi i rieni. I ofyn am sampl anfonwch e-bost atom yn wasteandstreetservices@monmouthshire.gov.uk.