Skip to Main Content

Beth all Dechrau’n Deg ei ddarparu i mi a’m plentyn ifanc?

Bydd byw mewn ardal Dechrau’n Deg yn rhoi mynediad i chi at ystod eang o wasanaethau gyda’r nod o roi dechrau da mewn bywyd i’ch plentyn gan gynnwys:

• Cymorth Ymwelwyr Iechyd gwell Dechrau’n Deg

• Cefnogaeth i rieni yn y cartref

• Cefnogaeth gydag iaith gynnar

• Gofal plant rhan-amser, rhad ac am ddim, o ansawdd uchel i blant 2 i 3 oed gan ddarparwr sydd wedi’i gofrestru ar gyfer darpariaeth Dechrau’n Deg.

E-bsotiwch flyingstart@monmouthshire.gov.uk i ddarganfod a ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg,

Sut a phryd y gallaf gofrestru ar gyfer Dechrau’n Deg?

Bydd eich Ymwelydd Iechyd yn ymweld â chi pan fydd eich babi newydd yn cyrraedd a bydd yn llenwi ffurflen gofrestru gyda chi. Os byddwch yn symud i ardal Dechrau’n Deg gyda’ch plentyn, bydd eich Meddyg Teulu yn dyrannu Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg i chi os ydych yn gymwys a fydd wedyn yn eich cofrestru ar y rhaglen. Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys neu os nad ydych wedi cael Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg eto, cysylltwch â ni.

Bydd eich Ymwelydd Iechyd hefyd yn cofrestru eich plentyn ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg pan fydd yn ymweld â chi. Bydd gofyn i chi lenwi a llofnodi ffurflen gofrestru gofal plant cyn i’ch plentyn droi’n ddwy oed.

Ehangu Dechrau’n Deg / Cynnig Gofal Plant ar gyfer Plant Dwyflwydd

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi rhaglen flaenllaw Dechrau’n Deg ac, yn unol â’r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru, mae yna ymrwymiad i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn raddol i gynnwys pob plentyn dwy oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae’r cynnig gofal plant dwyflwydd oed Dechrau’n Deg yn canolbwyntio ar gyflwyno’n raddol yr elfen gofal plant rhan amser o ansawdd uchel o Dechrau’n Deg i blant 2-3 oed. Mae ardaloedd ar gyfer eu cyflwyno wedi’u nodi gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD), data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Chyllid a Thollau EM ac maent wedi’u dadansoddi yn ôl Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs).

Wrth i’r rhaglen ehangu ar draws Sir Fynwy yn 2024 a 2025, byddwn yn cysylltu â theuluoedd i roi gwybod iddynt pan fydd eu cod post wedi’i gynnwys fel ardal darged.

Gallwch ddarganfod a yw eich cod post wedi’i gynnwys ar hyn o bryd yma –  https://maps.monmouthshire.gov.uk/

Lawrlwythwch ein llyfryn Cymorth Ariannol i ganfod os ydych yn gymwys am unrhyw fath arall o gymorth: