Skip to Main Content

Yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 2026 (21-28 Hydref), bydd Llyfrgelloedd Sir Fynwy yn dathlu rôl bwysig llyfrgelloedd o ran cefnogi cynaliadwyedd, bioamrywiaeth a llesiant cymunedol.

Mae’r thema eleni, Ffeithiau Hinsawdd ar gyfer Dyfodol Gwyrddach, yn annog pobl i archwilio gwybodaeth ddibynadwy am newid yn yr hinsawdd, dysgu ffyrdd ymarferol o fyw’n fwy cynaliadwy a chymryd camau cadarnhaol yn eu cymunedau lleol.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal yn ein llyfrgelloedd yn ystod yr wythnos, gan gynnwys:

  • Llyfrgell Trefynwy: Yr Hydref yn y Llyfrgell gydag ACE Trefynwy, ddydd Sadwrn 24 Hydref (10am-12.30pm), lle bydd cyfle i deuluoedd wneud gweithgareddau crefft yr hydref.
  • Llyfrgell Cas-gwent: Crefft Geriach i Blant ddydd Llun 26 Hydref (10am-12 ganol dydd).
  • Llyfrgell Cil-y-coed: Bore Coffi Buzz & Bloom, ddydd Llun 26 Hydref (10.30am-11.30am).
  • Llyfrgell Gilwern: Caffi Atgyweirio Y Fenni (10am-12pm) a Benthyg Y Fenni ddydd Mawrth 27 Hydref, cynnig cyfleoedd i ddarganfod mwy am y sefydliadau cymunedol hyn.

Mae’r wythnos hefyd yn rhoi cyfle i ddathlu’r mannau gwyrdd sydd wedi ffynnu mewn sawl llyfrgell yn Sir Fynwy diolch i ymroddiad gwirfoddolwyr a chymunedau lleol.

Yr Ardd Ddarllen yn Llyfrgell Cas-gwent

Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae ein llyfrgelloedd yn golygu cymaint mwy na llyfrau yn unig. Er enghraifft yn Llyfrgell Cas-gwent, mae’r Ardd Ddarllen yn cynnig man cymunedol gwerthfawr i gynnal digwyddiadau, myfyrio ac ymlacio.

“Mae Gardd Gymunedol Brynbuga, a ddatblygwyd drwy’r fenter Please Eat the Garden, yn helpu pobl i ddysgu am dyfu bwyd a garddio cynaliadwy, a rhannu’r cynnyrch gyda’r gymuned. Yn y cyfamser, mae Buzz & Bloom yn Llyfrgell Cil-y-coed wedi trawsnewid gwelyau blodau’r llyfrgell er mwyn creu cynefinoedd bywiog i fywyd gwyllt sy’n cefnogi pryfed sy’n peillio yn ogystal â bioamrywiaeth.

“Mae’r prosiectau hyn yn dangos sut mae llyfrgelloedd yn cyfrannu at ddysgu, llesiant ac ymwybyddiaeth amgylcheddol wrth greu mannau croesawgar y gall trigolion eu mwynhau. Wrth i Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd agosáu, hoffem ddiolch i’r gwirfoddolwyr, y partneriaid a’r aelodau o’r gymuned y mae eu cefnogaeth yn parhau i helpu’r mentrau hyn i ffynnu.”

Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio’ch llyfrgell leol yn ystod yr wythnos a darganfod y gweithgareddau a’r prosiectau gwyrdd sy’n digwydd ledled Sir Fynwy.

Dysgwch fwy am eich llyfrgell leol drwy fynd i Hybiau Cymunedol a Gwasanaethau Llyfrgelloedd – Monmouthshire

Gwirfoddolwyr Buzz & Bloom yn Llyfrgell Cil-y-coed