Mae partneriaeth o sefydliadau ar draws Sir Fynwy wedi sicrhau cyllid drwy Grant Gwirfoddoli Strategol CGGC i helpu i gryfhau gwirfoddoli a gwerthuso a arweinir gan y gymuned ledled y sir.
Dan arweiniad Cyngor Sir Fynwy, mae’r prosiect yn dod â Chanolfan Gymunedol Bridges, GAVO, Cymdeithas Tai Sir Fynwy a Grow Social Capital CIC at ei gilydd i sefydlu Cymuned Arfer Gwerthuso Sir Fynwy newydd.
Bydd y prosiect yn helpu gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector i ddysgu sut i fesur effaith gwirfoddoli. Eu helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda, beth sy’n helpu gwirfoddoli i dyfu, a beth allai atal pobl rhag cymryd rhan.
Bydd saith prosiect cymunedol o bob rhan o Sir Fynwy yn cael eu cefnogi i gynnal gwerthusiadau llawn o’u gwaith. Bydd cymuned ehangach o ymarfer hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd, cymorth gan gymheiriaid a chydweithio, gyda chanfyddiadau’n cael eu rhannu ledled Cymru drwy rwydweithiau Gwirfoddoli Cymru.
Dywedodd y Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Rwy’n falch iawn bod y bartneriaeth hon wedi sicrhau cyllid i gefnogi gwirfoddoli a gwerthuso a arweinir gan y gymuned ledled Sir Fynwy.
“Mae gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn gwneud cyfraniad mor bwysig i fywyd yn ein sir, ac mae’n hanfodol ein bod yn deall a dathlu’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud. Bydd y prosiect hwn yn helpu i fagu hyder, rhannu dysgu a chryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael i gymunedau, gan sicrhau bod pobl wrth wraidd llunio newid cadarnhaol.”
Dysgwch fwy yma: monmouthshire.gov.uk/cy/lleisiau-gwirfoddoli-sir-fynwy/
Mae’r prosiect yn ymateb i’r galw cynyddol gan sefydliadau cymunedol a chyllidwyr am dystiolaeth glir o effaith, tra’n cydnabod y gall llawer o sefydliadau llai wynebu heriau wrth gynnal gwerthusiad ystyrlon.
Trwy fuddsoddi mewn pobl leol a phartneriaethau presennol, nod y fenter yw lleihau dibyniaeth ar gymorth allanol ac ymgorffori sgiliau gwerthuso cynaliadwy o fewn cymunedau.
Mae’r fenter hefyd yn adeiladu ar argymhellion gan sefydliad annibynnol Be Community Evaluation, a amlygodd werth dulliau cyfranogol ac a oedd yn argymell datblygu cymuned arfer i gefnogi dysgu parhaus, cydweithredu a meithrin gallu.




