Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog trigolion i rannu eu barn am yr hyn sy’n gwneud cymuned gref trwy ymgysylltiad newydd ar Sgwrsio Am Sir Fynwy.

Y fenter hon yw’r cam cyntaf mewn rhaglen ehangach o waith a fydd yn sicrhau bod gwybodaeth pobl leol, eu profiadau a’u cryfderau wrth galon y broses o lunio dyfodol eu cymunedau.

Trwy weithio ochr yn ochr â thrigolion a phartneriaid cymunedol, nod y Cyngor yw adeiladu dealltwriaeth gyffredin am yr sy’n helpu cymunedau i ffynnu a sut y gall prosiectau a mentrau’r dyfodol eu cefnogi orau.

Bydd yr ymgysylltiad hwn yn ein helpu i ddeall beth sy’n gwneud cymunedau’n gryf, yn gysylltiedig ac yn gydnerth, ac yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin am gydnerthedd cymunedol a fydd yn dylanwadu ar brosiectau, gwasanaethau a mentrau’r dyfodol ar draws Sir Fynwy.

Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Y bobl sy’n ‘nabod Sir Fynwy orau yw’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn gwirfoddoli yma. Wrth i ni barhau i ddatblygu prosiectau a gwasanaethau yn y dyfodol, mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando, yn dysgu ac yn gweithio ochr yn ochr â’n cymunedau.

“Mae hwn yn gyfle i drigolion helpu i lunio ein dealltwriaeth gyffredin am gydnerthedd cymunedol, gan sicrhau bod prosiectau a mentrau’r dyfodol yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl ar draws Sir Fynwy.”

Anogir trigolion o bob oed i gymryd rhan, ac mae yna gyfleoedd pwrpasol i oedolion a phobl ifanc rannu eu barn.

Bydd yr adborth a gesglir yn helpu i oleuo sgyrsiau, prosiectau a gwaith partneriaeth yn y dyfodol ar draws y sir.

Mae’r arolwg ar agor tan 30 Medi 2026.

Gall trigolion gymryd rhan trwy Sgwrsio Am Sir Fynwy a helpu i ddylanwadu ar ddyfodol cymunedau ar draws Sir Fynwy. I gymryd rhan, ewch i: Sgwrsio Am Gymuned | Sgwrsio Am Sir Fynwy