Mae’r Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, yn rhoi diweddariad ar y gwersyll diawdurdod yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed
Roeddwn i am roi’r diweddaraf am y gwersyll heb awdurdod wrth Ganolfan Hamdden Cil-y-coed a sicrhau trigolion fod y cyngor wedi bod yn cymryd camau gwydn a chydgysylltiedig o’r cychwyn.
Rwy’n deall yn llwyr rhwystredigaeth trigolion lleol defnyddwyr y ganolfan hamdden a’r gymuned ehangach. Mae nifer o bobl, yn gwbl ddealladwy, yn gofyn pam na all y cyngor symud y gwersyll ymlaen yn syth. Y gwir yw bod yna gyfres o gamau y mae angen eu cymryd er mwyn sicrhau fod y prosesau cyfreithiol a diogelu cywir yn cael eu dilyn.
Pan fo gwersyll heb awdurdod yn cael ei sefydlu, rydym yn dilyn proses gyfreithiol a gefnogir gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n golygu gwneud gwiriadau lles, casglu tystiolaeth, asesu’r effaith ar y safle a’r gymuned leol ac yna cymryd y camau cyfreithiol priodol sydd ar gael i ni. Ni allwn osgoi’r camau hynny, waeth pa mor gryf yw’r pryderon yn lleol.
Trwy gydol y digwyddiad hwn, mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos â chynghorwyr lleol, Ysgol Gyfun Cil-y-coed, busnesau a chlybiau chwaraeon, yn ogystal â Heddlu Gwent i symud y broses honno ymlaen mor gyflym ac mewn ffordd mor gyfrifol â phosibl.
Rydym yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chynghorwyr lleol a byddwn yn parhau i roi gwybod i drigolion beth sy’n digwydd. Ein ffocws yw datrys y sefyllfa o fewn y gyfraith, gan ddysgu’r un pryd unrhyw wersi a all gryfhau ein hymateb yn y dyfodol.
Rydym yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau fod ein mannau cyhoeddus ac asedau cymunedol yn cael eu diogelu er mwyn i drigolion ac ymwelwyr gael eu defnyddio mewn ffordd gadarnhaol.
Felly, diolch. Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i ni weithio trwy’r broses hon.
Diweddairadau pellach: www.monmouthshire.gov.uk/cy/2026/07/datganiad-gwersyll-diawdurdod-cil-y-coed/