Skip to Main Content

30 Gorffennaf 2026

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Fynwy yn ystyried ystod o fesurau ataliol yng Nghanolfannau Hamdden Cil-y-coed a Chas-gwent, gyda’r nod o leihau’r risg o wersylloedd anawdurdodedig yn y dyfodol.

Yn rhan o’r gwaith hwn, mae’r Cyngor wrthi’n asesu’r opsiynau a’r costau sydd ynghlwm, wrth geisio dod o hyd i gydbwysedd priodol rhwng atal mynediad heb awdurdod, cynnal golwg y safleoedd hyn, a’u cefnogi fel mannau cymunedol deniadol a hygyrch.

Bydd unrhyw fesurau arfaethedig yn cael eu hystyried trwy brosesau priodol y Cyngor o ran gwneud penderfyniadau.

Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu rhannu maes o law.


6 Gorffennaf 2026

Yn dilyn y gwersyll diawdurdod diweddar yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed, mae Cyngor Sir Fynwy wedi bwrw ymlaen â chamau cyfreithiol, yn unol â’n protocolau sefydledig a Chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae ymgysylltu â’r unigolion ar y safle yn parhau, ac rydym yn dal ati i gynnal y gwiriadau angenrheidiol.
Darperir diweddariadau pellach maes o law.


2 Gorffennaf 2026

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymwybodol o wersyll diawdurdod yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-Coed ac mae’n dilyn y protocolau sefydledig a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Byddwn yn ymgysylltu â’r rhai sydd ar y safle ac yn cynnal y gwiriadau angenrheidiol, tra bo camau cyfreithiol priodol yn cael eu hystyried.

Bydd rhagor o ddiweddariadau’n cael eu darparu pan fyddant ar gael.