Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Bydd yr Awdurdod yn derbyn plentyn i ysgol gynradd a gynhelir ar ddechrau’r flwyddyn academaidd pan fydd ef/hi yn 5 oed. Mae’r gofynion cyfreithiol yn cadarnhau fod rhieni yn gallu gohirio derbyn eu plentyn hyd y tymor yn dilyn ei bumed pen-blwydd; fodd bynnag, yn ôl Polisi Cyngor Sir Fynwy bydd y plentyn yn parhau i ddilyn ei grŵp blwyddyn cronolegol ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol.

Nid yw presenoldeb mewn meithrinfa ‘fwydo’ yn hepgor yr angen i wneud cais am le yn Nosbarth Derbyn yr Ysgol. Sylwer na roddir blaenoriaeth i’r plant hynny sy’n mynd i feithrinfa ‘fwydo’. Ar ôl darllen yr holl wybodaeth sydd ar gael o’r llyfryn hwn ac o ysgolion unigol gall rhieni nodi pa ysgol(ion) yr hoffent weld eu plentyn yn mynd iddi/iddynt. Cyn penderfynu gwneud cais am le mewn ysgol arbennig,bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut y bydd eich plentyn yn teithio i’r ysgol, gan na fyddwch o angenrheidrwydd yn gymwys i dderbyn cymorth cludiant.

Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol.

Noder pan fyddwch yn gwneud cais am leoliad ysgol y byddwch yn cael eich asesu’n awtomatig ar gyfer cludiantysgol ar yr un pryd. Nid oes rhaid i chi gwblhau ceisiadau ychwanegol.

Bydd derbyniadau yn seiliedig ar y meini prawf hyn. Os na fydd yr Awdurdod yn gallu dyrannu yn unol â hoff ddewis ysgol(ion) y rhieni byddwn yn cynnig lle yn yr ysgol agosaf nesaf â lleoedd ar gael.

Mae gan rieni hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod lle yn eu hoff ddewis ysgol(ion).

Gweler yr amserlen ar wrth wneud cais am le Ysgol.