Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Er mwyn gweld yr amserlenni y bydd y Tîm Derbyniadau yn eu dilyn wrth ddyrannu lleoedd cyfeiriwch at yr amserlen
Meini Prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael
Pan fo nifer yr ymgeiswyr a dderbynnir ar gyfer dewis ysgol yn llai neu’n gyfartal â’r nifer o leoedd ar gael, caiff pob plentyn ei dderbyn a thybio y gall yr ysgol dan sylw ddiwallu anghenion yr holl ymgeiswyr.
Fodd bynnag, pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd mewn ysgol, caiff y nifer derbyn ei dorri a gweithredir y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael i ddewis pa blant gaiff gynnig lleoedd yn yr ysgolion dan sylw. Ar gyfer plant gyda Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig, mae’n rhaid i’r Awdurdod dderbyn y plentyn dan sylw i’r ysgol a nodir ar eu datganiad.
Wrth weithredu’r meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael i benderfynu i bwy y dylid cynnig lleoedd, caiff holl ddewisiadau rhieni eu hystyried yn gyfartal a’u dyrannu yn unol â’r meini prawf islaw.
Cynigir yr ysgol dewis uchaf, fel y caiff ei rhestru ar y ffurflen gais, os gellir cynnig un neu fwy o ddewisiadau.
Wrth ystyried gweddill y lleoedd sydd ar gael, defnyddir y meini prawf dilynol i benderfynu i ba blant y cynigir lleoedd:
Meini prawf ar gyfer pan fo mwy o alw nag o leoedd ar gael – Ysgolion Cynradd Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir
Plant sydd â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (gofyniad statudol ar gyfer derbyn)
1. Bydd plant sy’n derbyn gofal neu oedd yn flaenorol yn derbyn gofal h.y. plant sydd yng ngofal neu a oedd yn flaenorol yng ngofal awdurdod lleol yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 2-7 islaw.
2. Bydd plant gydag amgylchiadau meddygol eithriadol yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 3-7 islaw.
3. Bydd plant sy’n byw o fewn dalgylch yr ysgol a ffafrir sydd â siblingiaid perthnasol yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 4-7 islaw.
4. Bydd plant sy’n byw tu allan i ddalgylch yr ysgol a ffafrir ond gyda siblingiaid perthnasol fydd yn parhau i fynychu’r ysgol a ffafrir oherwydd iddynt fod yn aflwyddiannus yn eu cais am le yn eu hysgol dalgylch yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 5-7 islaw.
5. Bydd plant sy’n preswylio tu fewn i ddalgylch yr ysgol a ffafrir yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 6 – 7 islaw.
6. Plant sy’n byw tu allan i’r dalgylch ar gyfer yr ysgol a ffafrir, gyda sibling perthnasol (a fydd yn mynychu’r ysgol a ffafrir adeg derbyn) nad ydynt yn cyflawni pwynt 4 uchod.
7. Ar ôl gweithredu’r categorïau uchod neu os yw’r ysgol yn parhau i fod mewn sefyllfa o fwy o geisiadau nag o leoedd ar gael yn unrhyw un o’r categorïau uchod, bydd blaenoriaeth yn seiliedig ar agosatrwydd at y dewis ysgol, a fesurir yn defnyddio’r llwybr cerdded diogel byrraf.
I egluro, os oes mwy o alw nag o leoedd ar gael, caiff penderfyniad terfynol ar ddyrannu lle ei wneud ar bellter. Felly, er enghraifft, os oes mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ar ôl gweithredu pwynt 6 uchod, caiff lleoedd eu dyrannu i’r plant hynny y penderfynir fod eu cyfeiriad cartref yn agosach at yr ysgol a ffafrir.
Nodiadau Esboniadol
Safle Blaenoriaeth 4 – Dim ond os bu rhiant yn aflwyddiannus yn cael lle ar gyfer eu plentyn yn eu hysgol dalgylch ac wedyn yn mynychu ysgol arall gyda sibling iau yn gymwys i fynychu y byddai’r maen prawf hwn yn weithredol.
Meini prawf os oes mwy o alw nag o leoedd ar gael – Ysgolion Uwchradd Cymunedol
Plant sydd â Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig/Cynllun
Datblygu Unigol (gofyniad statudol ar gyfer derbyn)
1. Bydd plant sy’n derbyn gofal neu oedd yn flaenorol yn derbyn gofal h.y. plant sydd yng ngofal neu a fu’n flaenorol yng ngofal awdurdod lleoli yn cael blaenoriaeth dros y rhai yn cyflawni pwyntiau 2-8 islaw.
2. Bydd plant gydag amgylchiadau meddygol eithriadol yn cael blaenoriaeth dros y rhai’n cyflawni pwyntiau 3-8 islaw.
3. Bydd plant sy’n byw o fewn y dalgylch ar gyfer yr ysgol a ffafrir sydd â siblingiaid perthnasol yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 4-8 islaw.
4. Bydd plant sy’n byw tu allan i ddalgylch yr ysgol a ffafrir ond gyda siblingiaid perthnasol fydd yn parhau i fynychu’r ysgol a ffafrir oherwydd iddynt fod yn aflwyddiannus yn eu cais am le yn eu hysgol dalgylch yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 5-8 islaw.
5. Bydd plant sy’n byw tu mewn i’r dalgylch ar gyfer yr ysgol a ffafrir yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 6-8 islaw.
6. Bydd plant sy’n byw tu allan i ddalgylch yr ysgol a ffafrir, gyda sibling perthnasol (fydd yn mynychu’r ysgol a ffafrir adeg derbyn) nad yw’n cyflawni pwyntiau meini prawf 4 a 5 uchod yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 7-8.
7. Bydd plant sydd ar hyn o bryd ar gofrestr ysgol gynradd a ddynodir yn ysgol fwydo ar gyfer yr ysgol uwchradd a ffafrir yn cael blaenoriaeth dros y rhai’n cyflawni pwynt 8 islaw.
8. Ar ôl gweithredu’r categorïau uchod, neu os yw’r ysgol yn parhau i fod mewn sefyllfa o fwy o alw nag o leoedd ar gael yn unrhyw un o’r categorïau uchod, caiff blaenoriaeth ei seilio ar agosatrwydd at yr ysgol a ffafrir, a fesurir yn defnyddio’r llwybr cerdded diogel byrraf.
I egluro, os bydd mwy o alw nag o leoedd ar gael ar ôl defnyddio’rmeini prawf uchod, caiff y penderfyniad terfynol ar ddyrannu lle ei wneud ar sail pellter. Felly er enghraifft, os oes mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ar ôl gweithredu pwynt 6 uchod, caiff lleoedd eu dyrannu i’r plant hynny y penderfynir fod eu cyfeiriad cartref yn nes at yr ysgol a ffafrir.
Nodiadau Esboniadol
Safle Blaenoriaeth 4 – Dim ond os bu rhiant yn aflwyddiannus yn cael lle ar gyfer eu plentyn yn eu hysgol dalgylch ac wedyn yn mynychu ysgol arall gyda sibling iau yn gymwys i fynychu y byddai’r maen prawf hwn yn weithredol.
Safle Blaenoriaeth 7 – Byddai’r maen prawf hwn yn berthnasol o fewn meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael mewn ysgolion uwchradd ar gyfer plant sy’n mynychu ysgol gynradd sy’n bwydo’r ysgol uwchradd o ddewis.
Caiff ysgolion bwydo eu penderfynu fel bod yr ysgolion hynny sydd â threfniadau pontio ffurfiol gydag ysgol uwchradd.
Nodiadau pwysig ar gyfer ceisiadau Cynradd ac Uwchradd:
1. Bydd yr Awdurdod Lleol angen tystiolaeth addas i wirio fod eich plentyn yn flaenorol yn blentyn oedd yn derbyn gofal (e.e. copi o’r cadarnhad mabwysiadu er mwyn i’r maen prawf hwn gael ei weithredu).
2. Mae’n rhaid i geisiadau sy’n dymuno i’w cais gael blaenoriaeth oherwydd anghenion meddygol plentyn gael eu cefnogi gan adroddiad ymgynghorydd meddygol (a geir gan y rhieni adeg gwneud y cais) yn amlinellu pam mai’r dewis ysgol yw’r unig opsiwn hyfyw o gymharu gydag ysgolion eraill y gallai’r Awdurdod eu cynnig.
3. Caiff brodyr a chwiorydd, p’un ai’n hanner, llawn, llys neu faeth eu hystyried yn berthnasol pan fyddant yn byw ar yr un aelwyd a lle byddant yn dal i fod ar y gofrestr yn yr ysgol pan mae’r ymgeisydd yn gymwys i fynychu.
4. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried mai cyfeiriad cartref yr ysgol fydd y man lle mae’r plentyn yn byw am fwyafrif yr wythnos ysgol. Os yw preswyliaeth y plentyn wedi ei rannu rhwng dau riant, caiff y cyfeiriad lle mae’r plentyn dan sylw yn byw am fwyafrif yr wythnos ysgol ei ddefnyddio ar gyfer dibenion dyrannu. Dyma’r cyfeiriad y dylid ei ddatgan ar y cais. Fodd bynnag, os yw’r breswyliaeth gyda’r ddau riant yn ystod yr wythnos ysgol yn gyfartal, defnyddir y cyfeiriad lle telir y budd-dal plant ar gyfer dibenion dyrannu.
Er bod byw o fewn y dalgylch ar gyfer ysgol yn ffurfio elfen o’r meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, nid yw’n gwarantu lleoliad ar y sail yma. Bydd yr Awdurdod Lleol yn gwrthod derbyn mwy na nifer derbyn yr Ysgol os nad yw’r cais yn cydymffurfio gyda’r eithriadau a ganiateir a restrir
5. Bydd yr Awdurdod Lleol yn defnyddio Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) i gyfrif pellter o’r cartref i’r ysgol. Y meddalwedd GIS a ddefnyddir gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer y dibenion hyn fydd Routefinder a Mapinfo.
Caiff y llwybr cerdded diogel byrraf ei gyfrif yn defnyddio llwybrau swyddogol sy’n hysbys i’r Awdurdod Lleol a’r asiantaethau priffyrdd. Caiff man dechrau y llwybr a benderfynwyd fel bod y pwynt rhwydwaith agosaf i brif fynedfa yr eiddo.
Caiff prif fynedfa’r cyfeiriad cartref ei benderfynu gan yr Awdurdod Lleol i fod lle mae’r eiddo’n derbyn post. Caiff pwynt gorffen y llwybr ei benderfynu fel bod y glwyd agored swyddogol agosaf a ddefnyddir gan yr ysgol a ffafrir. Caiff manylion cyfeiriad ymgeisydd eu penderfynu yn defnyddio’r Local Land and Property Gazetteer (LLPG) a chronfa ddata cyfeiriadau’r Arolwg Ordnans.
Lle na fedrir penderfynu ar lwybr cerdded diogel ar gyfer ymgeisydd, caiff y llwybr gyrru byrraf ei ddefnyddio ar gyfer dibenion dyrannu.