Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Pwy sy’n gymwys am Gludiant Rhad ac am Ddim Rhwng y Cartref a’r Ysgol?

Mae disgyblion yn gymwys os ydynt rhwng 5 ac 16 oed – o’r dosbarth derbyn hyd at, a chan gynnwys, Blwyddyn 11. I fod yn gymwys i gael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol mae’n rhaid i blentyn fynd i’w ysgol dalgylch neu ysgol dalgylch addas agosaf (gan gynnwys Cyfrwng Cymraeg/ Enwadol) a rhaid i’r ysgol honno fod y tu hwnt i feini prawf pellter Cyngor Sir Fynwy). Ni ddarperir cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol oni bai bod dysgwr yn bodloni’r ddau faen prawf. Y meini prawf pellter yw 1.5 milltir neu fwy ar gyfer plant oed Ysgol Gynradd a 2 filltir neu fwy ar gyfer plant oed Ysgol Uwchradd. Mae cludiant ar gyfer plant 4 oed yn ddewisol a bydd yn cael ei ddarparu dim ond os yw dysgwr yn mynychu ysgol gynradd a bod y rhiant yn cadarnhau’n ysgrifenedig bod gyrrwr a/neu gynorthwyydd teithwyr wedi’i awdurdodi i gynorthwyo eu plentyn i ddefnyddio gwregysau diogelwch.

Sut y caiff y pellter ei gyfrif?

Caiff y pellter ei fesur yn electronig, sy’n defnyddio’r llwybr byrraf rhwng ffiniau eich cyfeiriad cartref (h.y. gwaelod eich llwybr neu dramwyfa) a phrif fynediad i’r ysgol.

Os yw fy mhlentyn yn gymwys am gludiant rhad ac am ddim rhwng y cartref a’r ysgol – o ble bydd yn cael ei gasglu?

Mae’n bosibl na fydd yn pob dysgwr gael ei gasglu o’u cyfeiriad cartref ac felly, bydd angen i rieni fynd â’u plant a’u casglu o fannau codi a gollwng dynodedig. Gwneir pob ymdrech i gadw’r pellter hwn mor fyr â phosibl ac ni ddylai fod yn fwy na milltir o dan amgylchiadau arferol.

Beth yw llwybr cerdded nad yw ar gael?

Asesir pob llwybr cerdded nad yw ar gael yn seiliedig ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a Chanllawiau Diogelwch Ffyrdd Prydain Fawr. Bydd asesiadau llwybrau cerdded yn cael eu cynnal gan Swyddog Diogelwch Ffyrdd y Cyngor neu berson arall â chymwysterau addas a fydd yn ystyried y ffactorau risg traffig a chymdeithasol. Wrth gynnal yr asesiadau, tybir y bydd oedolyn gyda phob plentyn oed cynradd.

Os oes gan fy mhlentyn fwy nag un cartref, a fydd cymorth teithio yn cael ei roi i’r ddau?

Os oes gan ddysgwyr fwy nag un preswylfa, mae’n medru gwneud cais am gludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer hyd at ddau gartref sydd agosaf at eu hysgol. Bydd angen i’r dysgwr fodloni’r meini prawf cymhwysedd o hyd o ran pellter, oedran a gallu fel yr amlinellir uchod. Bydd angen tystiolaeth o’r preswyliad deuol gan y ddau riant.

Os byddaf yn symud cartref i gyfeiriad y tu allan i’r ysgol ddalgylch, a fydd cludiant rhad ac am ddim yn cael ei ddarparu?

Na fydd. Os byddwch yn symud cartref i gyfeiriad y tu allan i’r ysgol ddalgylch, ni fydd eich plentyn yn cael cludiant rhad ac am ddim, oni bai bod eich plentyn yn astudio ym mlwyddyn 10 neu 11 a bod gwasanaethau contract presennol ar gaeL.

A fydd costau teithio rhwng yr ysgol a’r cartref yn cael eu had-dalu?

Na fyddant. Nid yw costau teithio rhwng yr ysgol a’r cartref yn cael euhad-dalu.

A oes uchafswm o ran hyd y daith?

Mae’r Awdurdod yn ymdrechu i gadw amseroedd teithio mor isel â phosibl. Yn anffodus, o ystyried yr amgylchedd gwledig yn Sir Fynwy, gall rhai teithiau fod yn fwy nag awr, ac yn enwedig os ydych yn mynychu ysgol enwadol y tu allan i’r ardal.

Pa fath o gymorth cludiant sydd ar gael?

Mae’r Awdurdod yn penderfynu’r trefniadau cludiant mwyaf addas, gan gofio pob ffactor perthnasol, gan gynnwys cost. Gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol, mae cludiant yn cael ei drefnu fel arfer drwy fws contract, bws gwasanaeth neu dacsi, er bod yn rhaid gwneud trefniadau unigol eraill weithiau. Gall yr awdurdod gynnig Cyllideb Cludiant Personol mewn rhai amgylchiadau. Mae cludiant yn cael ei ddarparu ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol, ond ni chaiff ei ddarparu ar gyfer gweithgareddau y tu allan i oriau na gweithgareddau allgyrsiol gan gynnwys brecwast a chlybiau ar ôl ysgol.

All plant nad ydynt yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim brynu seddi gwag ar fysiau ysgol?

Mae’r dysgwyr hynny nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim yn gallu gwneud cais am deithio rhatach. Bydd seddau rhatach yn cael eu dyfarnu os oes sedd wag yn bodoli; nid oes goblygiadau ariannol i’r Cyngor; nid yw hyn yn tarfu ar y llwybr cludiant a bod y dysgwr yn cael ei gludo i fan codi a gollwng penodedig fel y pennir gan y darparwr trafnidiaeth. Nid yw seddau rhatach yn sicr o gael eu dyfarnu o ddechrau’r flwyddyn academaidd; fodd bynnag, bydd pob dysgwr yn cael gwybod os oes sedd ar gael o fewn 10 diwrnod gwaith i ddechrau’r flwyddyn academaidd. Os gwneir cais yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod os oes sedd ar gael o fewn 10 diwrnod gwaith. Cyfrifoldeb y rhiant yw sicrhau bod y plentyn/plant yn cael eu cludo i ac o’r ysgol tra bod eu cais yn cael ei ystyried. Gall y man codi a gollwng fod fwy na milltir o gartref y dysgwr ond heb fod ymhellach nag 1.5 milltir ar gyfer dysgwyr oed cynradd a 2 filltir ar gyfer uwchradd.

Ni fydd dysgwyr yn cael eu hawdurdodi i ddefnyddio lleoliad rhatach nes bod y Tîm Comisiynu wedi’i gadarnhau’n swyddogol yn ysgrifenedig. Bydd ceisiadau ar gyfer dysgwyr Ôl-16 yn cael blaenoriaeth ar gyfer seddi rhatach. Os bydd seddi gwag yn parhau, bydd seddi consesiynol yn cael eu dyfarnu ar sail pryd y derbyniwyd ffurflen gais. Ar gyfer un neu fwy o geisiadau a dderbynnir ar yr un dyddiad, y dysgwr y mae ei gyfeiriad cartref yn mesur y pellter cerdded pellaf i’r sefydliad addysgol fydd yn cael blaenoriaeth. O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen tynnu sedd gonsesiwn yn ôl, os caiff y sedd ei thynnu’n ôl byddwn yn rhoi 10 diwrnod gwaith o rybudd a bydd yn ofynnol i rieni wneud trefniadau eraill. Bydd disgyblion y dyrennir seddau rhatach iddynt hanner ffordd drwy’r tymor yn gorfod talu fesul wythnos am nifer yr wythnosau sy’n weddill yn y tymor hwnnw.

Gellir talu mewn rhandaliadau misol trwy archeb sefydlog drwy gysylltu â’r Tîm Mân Ddyledwyr ar ôl derbyn anfoneb. Ni fydd ceisiadau am gludiant rhatach yn cael eu hystyried ar gyfer dysgwyr sydd ag ôl-ddyledion am gludiant rhatach blaenorol. Pan fydd yr ôl-ddyledion yn cael eu talu, bydd y dysgwr wedyn yn dod yn gymwys i deithio’n rhatach os oes sedd ar gael. Bydd addaliadau yn daladwy o’r dyddiad y bydd y Tîm Comisiynu yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y rhiant eu bod yn dymuno canslo sedd eu plentyn. Ni fydd ad-daliadau ôl-weithredol yn cael eu gwneud.

A yw cludiant yn cael ei ddarparu yn ôl ac ymlaen o ysgolion annibynnol?

Nac ydyw. Nid yw cludiant rhad ac am ddim yn cael ei ddarparu i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion annibynnol.

Beth sy’n digwydd os yw plentyn yn tarfu ar y cludiant a ddarperir?

Mae diogelwch pob dysgwr sy’n teithio ar gludiant o’r cartref i’r ysgol yn hollbwysig. Os bydd dysgwr yn camymddwyn, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i dynnu’r ddarpariaeth cludiant yn ôl. Pryd bynnag y bydd y Tîm Comisiynu yn cael gwybod am ddigwyddiad ar gludiant o’r cartref i’r ysgol byddant yn cysylltu ag ysgolion a’r Gyfarwyddiaeth Addysg i ymchwilio i’r digwyddiad. Lle bo angen, bydd llythyrau rhybudd a/neu ohebiaeth e-bost yn cael eu hanfon at rieni dysgwyr sy’n camymddwyn, yn achosi difrod i gerbyd, yn bygwth neu’n achosi anaf i deithwyr neu yrwyr / cynorthwywyr teithwyr neu’n ymddwyn mewn modd a allai beryglu diogelwch. Gall cludiant o’r cartref i’r ysgol gael ei dynnu oddi ar y dysgwr dros dro neu’n barhaol yn unol â Chanllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr. Mae’r

Cyngor hefyd yn cadw’r hawl i naill ai atal neu ganslo cludiant i ddysgwyr lle mae’r gyrwyr neu gynorthwywyr teithwyr wedi cael eu cam-drin yn eiriol neu wedi dioddef ymosodiad corfforol gan rieni neu warcheidwaid. Mewn achosion o’r fath bydd y dioddefwyr yn cael eu hannog i roi gwybod i’r heddlu ac unrhyw awdurdodau angenrheidiol eraill am unrhyw gamau o’r fath. Pan fydd cludiant yn cael ei dynnu’n ôl, rhieni sy’n gyfrifol am sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd yr ysgol.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf bryder neu gŵyn am y cludiant ysgol?

Dim ond cwynion a dderbynnir yn ysgrifenedig gan rieni neu ddysgwyr fydd yn cael eu hymchwilio gan y Cyngor. Dylid danfon cwynion at: passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk Bydd yr Uned Gomisiynu yn cydnabod y gŵyn o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Efallai y bydd adegau pan fydd angen i ni gymryd mwy na 10 diwrnod gwaith a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd hyn yn digwydd ac yn rhoi amserlen o ran pryd y byddwch yn derbyn ymateb. Os bydd cwyn yn cael ei chadarnhau, bydd camau priodol yn cael eu cymryd i unioni’r mater cyn gynted ag sy’n ymarferol.

Rydym yn cynghori mai dyma’r polisïau cyfredol a chânt eu hadolygu’n flynyddol, a bydd unrhyw newidiadau i’r polisi yn cael eu rhannu a’u hysbysebu.