Mae llawer o aelwydydd yng Nghymru’n dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol (LPG) i wresogi eu cartrefi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae cynnydd mewn prisiau tanwydd oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi cynyddu’r pwysau ar gyllidebau teuluoedd.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £3.8 miliwn i Lywodraeth Cymru i helpu aelwydydd yng Nghymru sy’n dibynnu ar olew gwresogi neu LPG.
Mae Taliad untro Olew Gwresogi a LPG o £200 bellach ar gael i aelwydydd incwm isel yn Sir Fynwy sy’n gwresogi eu cartrefi gan ddefnyddio olew gwresogi neu LPG. Nod y cymorth targedu hwn yw helpu pobl i dalu’r costau cynyddol hyn.
Mae’r dudalen hon yn esbonio’r cymorth sydd ar gael, pwy all ei gael a sut i wneud cais.
Pwy sy’n gymwys?
Efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn:
- Defnyddio olew gwresogi neu LPG fel prif danwydd gwresogi, a
- Rydych yn byw yn y cartref fel eich prif neu unig gartref, a
- Mae gennych hawl i’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor ar unrhyw adeg rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026
Sut mae gwneud cais?
- Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at aelwydydd a allai fod yn gymwys ar gyfer taliad ac yn eu gwahodd i wneud cais
- Os nad ydych chi wedi derbyn llythyr ond rydych yn credu y gallech fod yn gymwys i dderbyn taliad, gallwch wneud cais o hyd
Os nad ydych chi’n derbyn cymorth ar hyn o bryd trwy’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am cymhwysedd a gwneud cais yma
Yr hyn fydd angen i chi wneud:
- Cwblhau’r ffurflen ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen a roddir
- Cadarnhau eich math o danwydd gwresogi a lanlwytho prawf o’ch pryniant olew neu LGP diwethaf, dyddiedig yn ystod y 12 mis diwethaf
- Darparu tystiolaeth o’r cyfrif banc yr ydych am i’r taliad gael ei wneud iddo. Bydd angen i ni weld datganiad banc o’r 6 mis diwethaf
Mae gennych tan 30 Medi 2026 i wneud eich cais, ac ar ôl hynny bydd y cynllun yn cau i geisiadau newydd.
Cymorth a chefnogaeth bellach
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich biliau neu wresogi eich cartref, gallwch ddefnyddio ein tudalen Cymorth Costau Byw i weld y cymorth arall sydd ar gael i drigolion yn Sir Fynwy.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help drwy’r Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn. I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i wefan LLYW.CYMRU
Sut y byddwn yn defnyddio eich data
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwasanaethau. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn rhoi gwybodaeth i chi am:
- y data rydym yn ei gadw amdanoch chi
- sut rydym yn ei ddefnyddio
- eich hawliau mewn perthynas ag e, a
- y rhagofalon sy’n bodoli er mwyn ei ddiogelu.