Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Gaerloyw a Chyngor Dosbarth Fforest y Ddena wedi cyhoeddi diweddariad am gyflwr Hen Bont Gwy yn dilyn archwiliadau diweddar gan beirianyddion strwythurol arbenigol.

Mae’r bont o haearn bwrw, sy’n 210 mlwydd oed, wedi bod yn cael ei monitro’n fanwl ers cryn amser. Yn ystod arolygiadau arferol ym mis Hydref 2025, nododd peirianyddion graciau a arweiniodd at gau’r bont i unrhyw gerbydau. Mewn arolygiad dilynol ym mis Mawrth 2026 gwelwyd craciau newydd ychwanegol mewn mannau strwythurol allweddol, gan gynnwys y darnau strwythurol fertigol ym Mhier 2 a Phier 4.

Yn dilyn y dirywiad pellach hwn, ac ar gyngor peirianyddol arbenigol, penderfynodd Cyngor Sir Fynwy gau’r bont yn llwyr i bob defnyddiwr, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr, ar 27 Mawrth 2026, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Mae peirianyddion wedi cadarnhau, er nad oes tystiolaeth fod y bont ar fin dymchwel, mae yna ormod o straen ar y strwythur, ac mae risg gredadwy o fethiant yn y rhan o’r dec a gefnogir gan Bier 2. Mae angen asesiadau manwl pellach ar y bont er mwyn deall hyd a lled y mater yn llawn, law yn llaw â gosod offer monitro amser real.

Mae’r arwyddion cychwynnol yn awgrymu bod y dirywiad diweddar yn gysylltiedig ag effeithiau thermol yn ystod tywydd oer, a bod llwyth traffig hanesyddol wedi blino’r strwythur hefyd.

Mae pob un o’r cynghorau nawr yn gweithio’n agos gyda pheirianyddion arbenigol ar raglen o asesiadau manwl. Mae hyn yn cynnwys cyfrifiadau strwythurol ychwanegol, archwiliadau ar  ddec y bont, a gosod systemau monitro amser real.

Mae’r cynghorau wedi ymrwymo o hyd i ailagor Hen Bont Gwy, ond yn pwysleisio mai dim ond wedi cadarnhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny y bydd hyn yn digwydd, ar sail tystiolaeth dechnegol glir a chyngor proffesiynol.

Ochr yn ochr â’r gwaith diogelwch uniongyrchol hwn, mae opsiynau atgyweirio yn cael eu datblygu er mwyn deall beth fyddai ei angen i ailagor y bont i gerddwyr, beicwyr, ac, yn y pen draw, i gerbydau modur.

Mae’r cynghorau yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae cau’r bont yn ei chael ar gymunedau lleol ac yn gweithio i adnabod defnyddwyr y mae’r sefyllfa’n effeithio arnynt, ymgysylltu’n uniongyrchol â nhw, ac archwilio opsiynau cymorth trafnidiaeth a symudedd dros dro tra bod cynlluniau hirdymor yn cael eu paratoi.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Diogelwch y cyhoedd yw blaenoriaeth bennaf pob cyngor. Rydym yn cydnabod bod cau’r bont yn creu heriau amrywiol i drigolion, a byddwn yn cydweithio â Chyngor Tref Cas-gwent a Chyngor Plwyf Tidenham i archwilio’r holl atebion posibl er mwyn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar bobl.

“Rydym wedi ymrwymo i gydweithio’n agos â pheirianyddion arbenigol er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth, yn dryloyw ac yn canolbwyntio ar ddyfodol hirdymor y man croesi pwysig hwn.”

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Gaerloyw: “Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Hen Bont Gwy i fywydau bob dydd pobl, ac rydym yn deall pa mor rhwystredig ac aflonyddgar yw’r cau hwn. Mae’r bont wedi’i chau i gadw pobl yn ddiogel, ac rydym yn cefnogi’r penderfyniad hwnnw.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cynghorau partner ac yn gwrando ar gymunedau lleol er mwyn gallu cadw pobl yn wybodus ac edrych ar ba gymorth a allai helpu pobl tra bo’r arolygiadau a’r gwaith cynllunio yn parhau.”

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Dosbarth Fforest y Ddena: “Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf, ac rydym yn gobeithio y bydd y ddau dîm priffyrdd yn gallu datrys y problemau cyn gynted â phosib er budd ein cymunedau.”

Mae gwefan bwrpasol gyda diweddariadau a Chwestiynau Cyffredin ar gael yma: Hen Bont Gwy Cas-gwent