Skip to Main Content

Diweddariad 2 Tachwedd 2026

Bydd Hen Bont Gwy yn parhau ar agor i gerddwyr ddydd Sadwrn 7 Tachwedd yn ystod yr arddangosfa tân gwyllt ar Gae Ras Cas-gwent.

Yn dilyn trafodaethau gyda chynghorwyr lleol a thrigolion ar ddwy ochr y bont, bydd y bont yn parhau ar agor i gerddwyr groesi.

Diolch am eich cydweithrediad wrth i ni weithio i ddiogelu’r bont gan gadw’r cyswllt pwysig hwn ar agor i gerddwyr.

Adeiladwyd Hen Bont Gwy o haearn bwrw ac fe’i hagorwyd ym mis Gorffennaf 1816. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi monitro’r bont yn barhaus gyda chymorth peirianwyr arbenigol ers 2018.

Ar hyn o bryd, dim ond i gerddwyr y mae’r bont ar agor, yn dilyn darganfod craciau yn ei strwythur haearn bwrw.

Yn ystod archwiliadau arferol ym mis Hydref 2025, nododd peirianwyr graciau a arweiniodd at gau’r bont i bob traffig cerbydol. Nododd archwiliad dilynol ym mis Mawrth 2026 graciau ychwanegol mewn rhannau strwythurol allweddol, gan gynnwys yr elfennau strwythurol fertigol ym Mhier 2 a Phier 4.

Yn dilyn asesiadau manwl a chyflwyno trefniadau monitro parhaus, cadarnhaodd peirianwyr arbenigol y gallai mynediad i gerddwyr gael ei adfer ym mis Mehefin 2026. Mae gwiriadau strwythurol pellach yn parhau. Mae’r bont yn parhau ar gau i gerbydau tra bod y cyngor a pheirianwyr arbenigol yn ymchwilio i gyflwr y strwythur ac yn ystyried opsiynau ar gyfer ei dyfodol.

Er bod y bont ar agor i gerddwyr, mae peirianwyr arbenigol wedi cynghori y dylid ei chau yn ystod tymereddau eithafol, yn benodol os bydd y tymheredd yn codi uwchlaw 30°C neu’n gostwng islaw -3°C, oherwydd sensitifrwydd y strwythur i newidiadau mewn tymheredd a llwyth. Byddai’r bont hefyd yn cael ei chau yn ystod cyfnodau pan ddisgwylir torfeydd mawr.

Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y bont, gan gynnwys ei chyflwr, trefniadau mynediad, archwiliadau a gwaith yn y dyfodol.


Mae gwaith ar gynllun Hen Bont Gwy yn parhau, gyda’r gweithgareddau ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar asesu, monitro, cymeradwyo a chynllunio ar gyfer gwaith atgyweirio yn y dyfodol.

Mae profion ar waith haearn y bont yn parhau. Mae hyn yn cynnwys tynnu samplau o’r cydrannau haearn hanesyddol a’u hanfon i labordy arbenigol i’w dadansoddi’n fanwl.

Mae offer monitro straen a thymheredd yn parhau i fod yn ei le ac yn gweithredu fel y bwriadwyd, gan barhau i ddarparu data gwerthfawr ar y bont.  Mae’r offer yn helpu i fonitro sut mae’r bont yn ymateb i amrywiadau tymheredd ac yn cefnogi penderfyniadau ynghylch a oes angen unrhyw fesurau gweithredol wrth i dymheredd newid.

Nododd archwiliad tîm plymio diweddar hefyd sgwrio (ardaloedd o erydiad) ym Mhier 2 , ac mae gwaith ar y gweill i asesu’r canfyddiadau a datblygu cynllun rheoli risg priodol fel rhan o fonitro a rheoli parhaus y bont.

Mae gwaith asesu yn mynd rhagddo, ochr yn ochr â pharatoi adroddiadau technegol ac adolygiadau annibynnol. Bydd canfyddiadau’r gwaith hwn yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch y bont a’r camau nesaf mwyaf priodol ar gyfer ei rheoli yn y tymor hir.

Rydym yn disgwyl mân darfu ar y llwybr troed ar y bont rhwng 8yb a 5yh o 21 i 24 Medi tra bod arolygwyr asedau yn cynnal gwaith archwilio hanfodol gan ddefnyddio mynediad rhaff o ochr y bont.

Bydd y llwybr troed yn aros ar agor drwy gydol y cyfnod archwilio, ond gall rhywfaint o fân darfu ddigwydd tra bo’r gwaith yn cael eu gwneud. Bydd y tîm arolygu yn gwneud popeth posibl i gadw unrhyw darfu i’r lleiafswm ac yn gwerthfawrogi eich amynedd tra bo’r gwaith hanfodol hwn yn cael ei gyflawni.

Gyda disgwyl i’r tymheredd fod yn uwch na 30°C yr wythnos hon ac, yn dilyn cyngor gan beirianwyr arbenigol, bydd Hen Bont Gwy yng Nghas-gwent ar gau o ganol dydd ddydd Mercher 12 Awst 2026. Disgwylir iddi ailagor ddydd Gwener 14 Awst 2026.

Bydd ailagor y bont yn amodol ar y tywydd ac asesiad peirianyddol pellach.

Ni fydd cerddwyr yn gallu croesi’r bont yn ystod y cyfnod cau hwn.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Mae’r cyfnod cau hwn yn dilyn cyngor gan beirianwyr arbenigol, sydd wedi cynghori y dylid cau’r bont pan fydd y tymheredd yn cyrraedd 30°C neu uwch, oherwydd ei sensitifrwydd i newidiadau mewn tymheredd a llwyth.

Bydd rhagor o ddiweddariadau ynghylch y cyfnod cau yn cael eu rhannu pan fyddant ar gael.

Gyda thymheredd yn disgwyl cyrraedd dros 30°C tua diwedd yr wythnos hon, yn dilyn cyngor gan arbenigwyr, bydd Hen Bont Gwy yn Nhrefynwy yn cael ei chau o 1pm yfory (Dydd Iau 9 Gorffennaf).
Bwriedir ailagor y bont ddydd Llun 13 Gorffennaf.

Ni fydd cerddwyr yn gallu croesi’r bont yn ystod y cyfnod cau hwn.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Mae’r bont yn cael i’w chau yn dilyn canllawiau gan beirianwyr arbenigol, sydd wedi cynghori y dylid cau’r bont pan fydd y tymheredd yn cyrraedd 30°C neu uwch, oherwydd ei sensitifrwydd i newidiadau mewn tymheredd a llwyth.

Yn dilyn cwblhau’r llwybr cerddwyr ar draws y bont, mae Hen Bont Gwy wedi’i hagor i gerddwyr yn gynt na’r disgwyl.

A fyddech cystal â sicrhau bod y llwybr yn cael ei gadw’n glir bob amser wrth groesi’r bont. Gofynnir i feicwyr ddisgyn oddi ar eu beiciau wrth groesi.

Bydd y bont yn parhau o dan adolygiad agos a gall fod angen ei chau eto os canfyddir dirywiad pellach yn y trawstiau haearn bwrw.

Mae peirianwyr arbenigol wedi cynghori y dylid cau’r bont yn ystod tymereddau eithafol, yn benodol os ydynt yn codi dros 30°C neu’n disgyn o dan -3°C, oherwydd sensitifrwydd y strwythur i newidiadau mewn tymheredd a llwyth.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon a’n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer unrhyw cyfnod bydd y bont yn chau

Bydd mynediad i gerddwyr i Bont Hen Gwy yng Nghas-gwent yn cael ei adfer o ddydd Sadwrn, 20 Mehefin 2026.

Daw’r penderfyniad yn dilyn adroddiad diweddar a baratowyd ar gyfer Cyngor Sir Fynwy gan beirianwyr arbenigol, sy’n cadarnhau y gellir ailagor y bont i gerddwyr, gyda monitro digidol parhaus ar waith, tra bod archwiliadau strwythurol Categori III pellach yn cael eu cynnal.

Er mwyn diogelu rhannau o’r bont, bydd y ffordd gerbyd yn cael ei chulhau. Yn y rhannau hon, dim ond y palmant fydd ar agor i gerddwyr.

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Mawrth, 16 Mehefin, i ail-leoli’r ffensys Heras presennol, gan ganiatáu i gerddwyr ddefnyddio’r palmant yn ddiogel a rhan un metr o’r gerbytffordd ar ochr uchaf y bont rhwng Cas-gwent a Thutshill.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth pellach yn fuan.

Mae gwaith yn parhau ar gynllun Hen Bont Gwy, gyda’r gweithgarwch yn canolbwyntio ar asesu, monitro, cymeradwyo a chynllunio ar gyfer atgyweiriadau yn y dyfodol.

Mae gwaith monitro ac arolygu yn mynd parhau i helpu i greu darlun clir o gyflwr y bont ac i gefnogi penderfyniadau ynghylch gweithgarwch yn y dyfodol.

Mae offer monitro straen a thymheredd bellach wedi’i osod ym mis Mai 2026.

Mae gwaith asesu ar y gweill, ochr yn ochr â pharatoi adroddiadau a gwiriadau annibynnol. Bydd hyn yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch y bont ac unrhyw gamau nesaf.

Yn dilyn derbyn yr adroddiad sy’n ddyledus ym mis Mehefin 2026, bydd Cyngor Sir Fynwy yn gallu cwblhau asesiad risg i lywio penderfyniad ar ailagor y bont i gerddwyr a beicwyr yn y tymor byr, tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal ar gyfer mynediad cerbydau modur.

Datganiad ar y cyd: Y Diweddaraf am Hen Bont Gwy: Diogelwch Strwythurol a Chau’r Bont

Mae Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Gaerloyw a Chyngor Dosbarth Fforest y Ddena wedi cyhoeddi diweddariad am gyflwr Hen Bont Gwy yn dilyn archwiliadau diweddar gan beirianyddion strwythurol arbenigol.

Darllenwch y datganiad llawn yma

Ar ddydd Mercher, 31 Mawrth 2026, bu cynrychiolwyr Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Gaerloyw a Chyngor Dosbarth Fforest y Ddena yn bresennol mewn cyfarfod lle cyflwynodd peirianwyr WSP ganfyddiadau diweddaraf archwiliad Mawrth 2026.

Mae’r craciau newydd a nodwyd wedi’u lleoli yn darnau strwythurol fertigol ym Mhier 2 a 4. Credir bod y cracio wedi’i achosi gan newidiadau thermol yn ystod y tywydd oer a welwyd dros y misoedd diwethaf.

Ceir y pecyn sleidiau cyflwyno isod.

Mae Hen Bont Gwy yng Nghas-gwent ar gau am resymau diogelwch ac ni ddylid ei defnyddio.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn parchu’r hawl i brotestio’n heddychlon ac yn deall pryder y cyhoedd ynghylch cau’r bont.

Mae peirianwyr arbenigol wedi cadarnhau bod y bont yn peri peryg, yn dilyn darganfod craciau newydd yn y strwythur haearn bwrw. Er mwyn diogelwch pawb, rhaid cadw oddi ar y bont, ac ni ddylid symud y rhwystrau.

Rydym yn gweithio gyda pheirianwyr i ddarganfod datrysiad diogel.

Yn ystod archwiliad monitro rheolaidd o Hen Bont Gwy yng Nghas-gwent ar ddydd Mercher, 1 Hydref2025, derbyniodd y cyngor argymhelliad gan y peirianwyr pont ymgynghorol i gau’r bont yn syth i draffig oherwydd arwyddion o ddifrod strwythurol.

Wrth archwilio, darganfuwyd crac yn y trawst strwythurol ar Biler 2. Isod, gallwch weld delweddau o’r ardal yr effeithiwyd arni ynghyd â chynllun agos o’r crac a nodwyd.

Lleoliad y difrod strwythurol yn y cylch coch

Rydym yn trafod y camau nesaf gyda’r peirianwyr ar hyn o bryd, ond bydd y bont ar gau i draffig


Cynhaliwyd archwiliadau ar y bont ers y 1970au. Mae’r bont wedi’i chategoreiddio fel Strwythur Priffyrdd Is-safonol ac mae’n cael ei rheoli yn unol â CS470 a CS454. Mae’r drefn fonitro bresennol bob chwe mis.

Darganfuwyd y cracio yn gyntaf yn 2018. Ar y pryd, gwnaeth peirianwyr gyfrifiadau a phenderfynu, er bod y bont yn is-safonol, y gallai aros ar agor gyda therfyn o 3 tunnell ar gerbydau a gydag archwiliadau ychwanegol. Fodd bynnag, cytunwyd hefyd y byddai angen cau’r bont ar unwaith petai crac newydd yn cael ei ddarganfod gan y byddai hyn yn effeithio ar y capasiti o ran dal y llwyth.

Ym mis Hydref 2025, yn ystod gwaith archwilio arferol, darganfuwyd difrod strwythurol i’r bont. Caewyd y bont ar unwaith i’rr holl draffig ond roedd yn dal i fod ar agor i gerddwyr.

Ym mis Mawrth 2026, darganfuwyd craciau newydd yn strwythur haearn bwrw’r bont. Er mwyn caniatáu i asesiadau gael eu cynnal i sicrhau diogelwch, caewyd y bont i gerddwyr ynghyd â thraffig cerbydol.

Yn dilyn asesiadau pellach, bydd y bont yn cael ei hailagor i gerddwyr o ddydd Sadwrn 20 Mehefin 2026. O’r dyddiad hwn, bydd y palmant a rhan o’r ffordd gerbydau ar ochr uchaf y bont yn cael eu hagor i gerddwyr groesi’r bont.

Yn dilyn asesiadau pellach gan beirianwyr arbenigol, maent wedi cadarnhau y gall y cyngor ailagor rhai rhannau ar gyfer cerddwyr ar ochr uchaf y bont.

Bydd y palmant a rhan un metr o’r ffordd gerbyd yn cael eu hagor. Bydd rhai rhannau o’r bont yn cael eu culhau i ddiogelu’r strwythur.

Bydd y bont yn parhau dan adolygiad agos ac efallai y bydd angen ei chau eto os canfyddir dirywiad pellach yn y trawstiau haearn bwrw.

Mae peirianwyr arbenigol wedi cynghori y dylid cau’r bont yn ystod tymereddau eithafol, yn benodol os ydynt yn codi dros 30°C neu’n disgyn o dan -3°C, oherwydd sensitifrwydd y strwythur i newidiadau mewn tymheredd a llwyth.

Bydd y cyngor yn rhannu unrhyw wybodaeth am gau’r bont ar ei gyfryngau cymdeithasol.

Yn ystod yrarchwiliad yn Hydref 2025, nodwyd crac newydd gan godi pryderon ynghylch cydnerthedd strwythurol y rhan hon o’r bont, wnaeth hyn achosi’r bont i chau ar gyfer traffig cerbydol. Roedd archwiliadau blaenorol wedi tynnu sylw at y ffaith fod lludded thermol a llwyth cerbydau wedi effeithio ar y trawstiau strwythurol. Mae’n debygol fod y crac diweddar yn gysylltiedig ag ehangu a chyfangiad yr haearn wrth i’r tymheredd newid. 

Gofynnir i bob seiclwr ddatgysylltu a cherdded ar draws y bont ar hyn o bryd.

Fe ddaethon ni o hyd i graciau mewn ardaloedd tebyg yn 2018. Penderfynodd ein peirianwyr ar y pryd y gallai’r bont aros ar agor, ond gyda gwiriadau ychwanegol. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai cylchoedd tymheredd yn achosi mwy o graciau yn y pen draw.

Rydyn ni’n ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer atgyweirio. Mae’r strwythur yn Strwythur Rhestredig Gradd 1, a rhaid gwneud yr holl waith atgyweirio mewn ffordd sy’n cynnal cywirdeb y Rhestru. Dydy weldio’r haearn bwrw ar strwythur fel hwn ddim yn ymarferol. Mae’r crac trwy’r trawst yn llwyr, a, fel y mae nawr, bydd y straen yn symud i ran arall.

Rydyn ni’n gobeithio bod modd ei thrwsio, ond bydd trwsio’r bont yn ddiogel yn broses gymhleth. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda pheirianwyr arbenigol i nodi’r ffordd orau ymlaen i atgyweirio’r bont. Er mwyn sicrhau bod y cynigion gorau posibl yn cael eu cyflwyno, mae’r peirianwyr ar hyn o bryd yn cynnal asesiadau o strwythur y bont.

Byddwn yn parhau i gydweithio â phob partner, gan gynnwys Cadw, i sicrhau bod yr opsiynau gorau yn cael eu harchwilio.

Dydyn ni ddim yn gallu cadarnhau amserlen ar hyn o bryd. Gan fod hwn yn strwythur Rhestredig Gradd 1, bydd angen cymeradwyaeth CADW ar unrhyw waith hefyd. Mae trwsio strwythur o’r math hwn yn waith manwl a gallai gymryd tipyn o amser. 

Does gennym ni ddim unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y cyfyngiadau ar bwysau wedi creu unrhyw draffig ychwanegol ar ffyrdd lleol. 

Rydyn ni’n gweithio gyda pheirianyddion arbenigol er mwyn deall yr opsiynau tymor canolig a hirdymor ar gyfer y bont. Byddwn yn rhoi diweddariadau pellach cyn gynted â phosibl.