Skip to Main Content

Bydd busnesau yn Sir Fynwy sydd wedi profi effeithiau’r llifogydd yn sgil Storm Claudia yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Gyngor Sir Fynwy, diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd grantiau o hyd at £3,000 ar gael i fusnesau Sir Fynwy.

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn gweithio trwy’r manylion a bydd rhagor o wybodaeth am gymhwystra ar ein tudalen bwrpasol ar gyfer Storm Claudia www.monmouthshire.gov.uk/cy/storm-claudia/ ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn y man.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, “Rydyn ni’n cydnabod y difrod a wnaed i fusnesau yn y sir gan y llifogydd eithafol yn sgil Storm Claudia. Rydyn ni’n gwybod pa mor galed y mae ein busnesau yn gweithio i weithredu a masnachu unwaith eto, ac rydyn ni’n cymeradwyo ymdrechion rhagorol perchnogion busnesau a’u staff. Mae pob dinesydd yn Sir Fynwy yn elwa ar gael busnesau sy’n gallu ffynnu ar ein stryd fawr.

“Bydd y cymorth ariannol y gallwn ei gynnig i fusnesau yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Diolchaf i Ysgrifenyddion Cabinet a gweision sifil Llywodraeth Cymru am eu hymdrechion i weithio gyda ni i gytuno ar y cynllun cymorth ariannol”

Daw’r gefnogaeth i fusnesau yn sgil cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf y byddai cymorth ariannol ar gael i drigolion. Gall trigolion hawlio £500 ar gyfer aelwydydd sydd ag yswiriant neu £1,000 ar gyfer aelwydydd heb yswiriant. Mae rhagor o wybodaeth ar ar ein gwefan: www.monmouthshire.gov.uk/cy/storm-claudia/ neu yn y Ganolfan Ddyngarol yn Neuadd Sirol, Trefynwy.