Cymorth ariannol i fusnesau yn Sir Fynwy
Os yw eiddo eich busnes wedi’i effeithio gan lifogydd Storm Claudia ac nad ydych wedi gallu gweithredu na masnachu, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar gyfraddau busnes am hyd at 3 mis.
Os hoffech wneud cais am y gostyngiad hwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Refeniw a Rennir drwy e-bostio counciltax@monmouthshire.gov.uk neu drwy ffonio: 01633 644630.