Skip to Main Content

Ym mis Medi, aeth bron i 250 o bobl i ddwy ffair swyddi lwyddiannus a gynhaliwyd gan dîm Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy, mewn partneriaeth â’r Adran Waith a Phensiynau.

Cynhaliwyd y digwyddiadau yn Neuadd Priordy’r Santes Fair, Y Fenni, a Neuadd y Côr, Cil-y-coed, gan groesawu pobl o bob cwr o’r sir sy’n chwilio am gyflogaeth, hyfforddiant neu gyfleoedd i newid gyrfa.

Yn y ddau ddigwyddiad, roedd tua 120 o swyddi gwag byw gan 40 o fusnesau a sefydliadau lleol, sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o sectorau.

Roedd y ffeiriau yn llwyfan gwerthfawr i drigolion 16 oed a hŷn gael cysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr, archwilio llwybrau gyrfa newydd, a dysgu am y cymorth sydd ar gael drwy dîm Economi, Cyflogaeth a Sgiliau’r  Cyngor.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Mae tîm Economi, Cyflogaeth a Sgiliau Sir Fynwy wedi gwneud gwaith gwych wrth greu’r digwyddiadau pwysig hyn i drigolion. Yn y ddwy ffair swyddi, cafodd pobl gyfle i ddysgu am swyddi gwag sydd ar gael a chael cymorth gwerthfawr wrth chwilio am waith.”

“Mae’r amrywiaeth o fusnesau lleol hefyd wedi dangos pa mor amrywiol yw’r economi sydd gennym yma yn Sir Fynwy, gan ddarparu cyfleoedd i bawb ddod o hyd i waith mewn diwydiant sy’n addas iddyn nhw.

Mae tîm Economi, Cyflogaeth a Sgiliau Sir Fynwy yn parhau i gefnogi trigolion sydd am uwchsgilio, ailhyfforddi neu ailymuno â’r gweithlu. Yn ogystal â’r digwyddiadau, mae’r tîm yn rhoi cefnogaeth barhaus, gan gynnwys hyfforddiant, arweiniad, a chymorth ymarferol, i roi hwb i hyder ac agor drysau i gyfleoedd newydd.

Am ragor o wybodaeth am gefnogaeth tuag at waith, ewch i www.cyflogsgiliaumynwy.co.uk/ neu e-bostiwch employmentskills@monmouthshire.gov.uk.

Tags: , , ,