Mae Safonau Masnach Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal cyrch aml-asiantaeth i gipio swm sylweddol o dybaco anghyfreithlon a chynhyrchion anweddu o safle manwerthu yn y Fenni.
Digwyddodd y camau gorfodi ddydd Llun, 29 Medi 2025, ac roedd yn cynnwys swyddogion Safonau Masnach Sir Fynwy, gyda chefnogaeth ci canfod tybaco arbenigol.
Yn ystod y chwiliad, daeth swyddogion o hyd i fecanwaith cuddio soffistigedig yn wal y siop, a weithredwyd gan system hydrolig.
Er gwaethaf diffyg cydweithrediad gan staff ar y safle, agorwyd y guddfan yn orfodol, gan ddatgelu storfa sylweddol o sigaréts a fêps anghyfreithlon tybiedig.
Mae’r cyrch hwn yn rhan o Ymgyrch CeCe, cynllun cenedlaethol sy’n cael ei rhedeg ar y cyd gan Gyllid a Thollau EM a Safonau Masnach Cenedlaethol, gyda’r nod o amharu ar y fasnach dybaco anghyfreithlon ledled y DU.
Cefnogwyd yr ymgyrch dan arweiniad Sir Fynwy ymhellach gan Dîm Ymchwilio Rhanbarthol Ymgyrch CeCe Cymru, Gorfodaeth Mewnfudo’r Swyddfa Gartref, a Heddlu Gwent.
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Fynwy bellach yn adolygu’r dystiolaeth a bydd yn ystyried camau gorfodi priodol yn erbyn y busnes.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r ymgyrch hon yn anfon neges glir nad oes lle i dybaco anghyfreithlon a chynhyrchion anweddu yn ein cymunedau. Mae’r eitemau hyn nid yn unig yn tanseilio busnesau cyfreithlon ond hefyd yn peri risgiau iechyd difrifol i ddefnyddwyr.
“Rwy’n canmol proffesiynoldeb a dyfalbarhad ein swyddogion a’n partneriaid wrth ddod o hyd i’r guddfan soffistigedig hon a diogelu diogelwch y cyhoedd.”
I wybod mwy am Safonau Masnach CSF, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/safonau-masnach/