Rydym yn angerddol am bobl. Mae ein gweithle wrth wraidd cymunedau. Credwn fod Pob Plentyn yn Bwysig, Pob Oedolyn yn Bwysig, Pob Cymuned yn Bwysig. Ein nod yw sicrhau Sir lle mae effeithiau anghydraddoldeb a thlodi wedi’u lleihau.
Ein blaenoriaethau allweddol yw atal pobl rhag mynd i dlodi, darparu cefnogaeth sydd wedi ei dargedu i bobl sydd eisoes mewn tlodi ac atal effaith ac effeithiau anghydraddoldeb.


Adam Howells
Arweinydd Datblygu Cymunedol – Trechu Tlodi ac Anghydraddoldeb
Mynd i’r Afael â Thlodi ac Anghydraddoldeb yn Sir Fynwy

Cymorth Costau Byw
Darganfyddwch adnoddau lleol, o Oergelloedd Cymunedol i Hybiau Cymunedol, sy’n darparu cefnogaeth a chyngor.

Chwedlau Bwyd | Food Stories
Mae prosiect ysgol Cyngor Sir Fynwy, sy’n gweithio i gynyddu’r nifer sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, yn profi ei hun i fod yn rysáit ar gyfer llwyddiant.

Pecynnau prydau cyri ‘Sunshine’
Mae Sir Fynwy yn mynd i’r afael â’r felan ym mis Ionawr drwy ddosbarthu 120 o becynnau bwyd ‘Sunshine Curry’ i bum lleoliad sy’n cefnogi darpariaethau bwyd ar draws y Sir.

Digwyddiadau’r Cyngor ar gostau byw
Cyfres o ddigwyddiadau ledled y Sir i helpu trigolion – ymunwch â ni am gefnogaeth, cyngor a syniadau i helpu gyda chost byw.
Darllenwch fwy > Digwyddiadau – Costau Byw
Mae’r prosiectau hyn [wedi’u hariannu/ariannu’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.