Skip to Main Content

Mae Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, wedi cyhoeddi y bydd y Cynghorydd Laura Wright yn cymryd yr awenau fel Aelod Cabinet dros Addysg, gan olynu’r Cynghorydd Martyn Groucutt.

Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ar 15fed Mai 2025, cyhoeddodd y Cynghorydd Groucutt ei benderfyniad i ymddiswyddo ar ôl tair blynedd yn y swydd. Drwy gydol ei gyfnod, gwnaeth gyfraniadau sylweddol at fentrau addysgol y Cyngor. Rydym yn estyn ein diolch o galon am ei ymroddiad a’i arweinyddiaeth.

Mynegodd y Cynghorydd Brocklesby ei gwerthfawrogiad: “Ar ran y Cyngor a’n trigolion, hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Groucutt am ei ymroddiad fel Aelod Cabinet dros Addysg. Mae ei ymrwymiad wedi arwain at lawer o newidiadau cadarnhaol yn ein Sir, gan gynnwys agor adeilad newydd Ysgol y Brenin Harri 3-19 a lansio Rhaglen Awtistiaeth mewn Ysgolion a Lleoliadau gyntaf Cymru.”

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd y Cynghorydd Groucutt: “Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Aelod Cabinet Addysg am y tair blynedd diwethaf, yn dilyn gyrfa sydd wedi’i hymrywmo i wella addysg i bob dysgwr. Rwyf wedi mwynhau teithio ledled y sir yn fawr, gan gyfarfod â llywodraethwyr ysgolion, staff, ac, yn bwysicaf oll, y disgyblion. Gyda’n gilydd, rydym wedi cyflawni llawer o bethau gwych, ac edrychaf ymlaen at weld y

Cynghorydd Wright yn ymgymryd â’r rôl hon ac yn dod â’i syniadau a’i harweinyddiaeth i’r bwrdd.

“Mae wedi bod yn anrhydedd cynrychioli pobl ifanc Sir Fynwy.”

Gwasanaethodd y Cynghorydd Wright, sy’n cynrychioli ward Grofield yn y Fenni, fel Cadeirydd y Cyngor ar gyfer 2022-23. Wrth iddi ddechrau ei rôl fel Aelod Cabinet Addysg, rydym yn edrych ymlaen at ei harweinyddiaeth wrth barhau i ddarparu addysg gynhwysol i bob person ifanc yn Sir Fynwy.

Ychwanegodd y Cynghorydd Brocklesby, “Rwy’n gyffrous i weithio gyda’r Cynghorydd Wright yn ei rôl newydd o fewn y Cabinet. Mae ei hymroddiad i Grofield wedi cael effaith gadarnhaol ar y Ward, ac rwy’n hyderus y bydd hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ei swydd newydd. Mae darparu’r addysg orau i’n trigolion iau yn agwedd allweddol ar ein gwaith yn y cyngor.”

Mewn ymateb i’w phenodiad, dywedodd y Cynghorydd Wright, “Mae’n fraint fawr ymuno â’r Cabinet fel yr Aelod Cabinet dros Addysg. Edrychaf ymlaen at gydweithio â Swyddogion ac ysgolion i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n dylanwadu’n gadarnhaol ar deithiau addysgol ein pobl ifanc.

“Mae’r Cynghorydd Groucutt wedi gosod sylfaen gref i mi barhau i wneud ein hysgolion mor gynhwysol â phosibl, gan sicrhau bod pob dysgwr yn derbyn y gefnogaeth orau. Edrychaf ymlaen at deithio ar draws y sir, ymweld â’n hysgolion gwych, a dysgu mwy am sut y gallwn wella’r gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd.”

I ddysgu mwy am Gabinet y Cyngor, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/cwrdd-ar-cabinet/

Cyng. Laura Wright