Mae Cabinet Cyngor Sir Fynwy yn cynnwys wyth Cynghorydd Sirol – Arweinydd, Dirprwy Arweinydd, ac Aelodau’r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau a blaenoriaethau penodol ar draws y sir. Caiff pob Cabinet ei ddewis, yn dilyn etholiadau lleol, am dymor o bum mlynedd. Gyda llawer o wynebau newydd yn y Cabinet presennol, rydym wedi llunio’r fideos ‘Cwrdd â’r Cabinet’ hyn lle maent yn dweud ychydig wrthym amdanynt eu hunain, gan gynnwys yr hyn a’u hysgogodd i fod yn Gynghorydd, beth yw eu diddordebau, yr hyn y maent yn gobeithio cyflawni dros y pum mlynedd nesaf, a beth yw eu gwerthoedd a’u nodau.
Cliciwch ar y fideos isod i Gwrdd â’r Cabinet yng Nghyngor Sir Fynwy.
Y Cynghorydd Sirol Catherine Fookes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu
Y Cynghorydd Sirol Martyn Groucutt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg