Skip to Main Content

Mae gwasanaeth allgymorth a chefnogi cynhwysiant OASIS (‘Outreach And Support Inclusion Service’) yn dîm cydlynol o staff arbenigol o’r Tîm Cymorth Addysg (EST) a Chanolfannau Adnoddau Arbenigol Sir Fynwy. Nod OASIS yw cefnogi cynhwysiant disgyblion mewn ysgolion prif ffrwd drwy gynnig cymorth arbenigol ar y cyd i ysgolion prif ffrwd er mwyn datblygu a gwella ymarfer cynhwysol da.

Daw allgymorth o ddwy ffynhonnell wahanol yn dibynnu ar yr anghenion a ddynodwyd gan yr ysgol. Panel OASIS fydd yn penderfynu ar natur y cymorth. Daw hyn gan athrawon y Canolfannau Adnoddau Arbenigol neu EST. Mae cymorth gan athrawon y Canolfannau yn cynnwys ymweliad cyntaf i’r ysgol ac ymweliad dilynol i adolygu cynnydd. Fel arfer mae’r ymweliadau hyn yn cynnwys arsylwi a chyfarfodydd gyda staff ysgol. Caiff cofnodion ysgrifenedig eu rhannu.

Weithiau caiff cymorth ei gyflwyno ar y cyd gan athrawon y Canolfannau ac EST. Mae gwybodaeth am gymorth EST ar gael isod.

Mae’r Tîm Cymorth Addysg (EST) yn wasanaeth sy’n cynnwys athrawes arweiniol arbenigol a thair ymarferydd sy’n cydweithio gydag ysgolion, plant a – lle briodol, rieni ar draws Sir Fynwy. Maent yn gweithio wrth ochr yr Arweinydd Dysgwyr Bregus.

Mae EST yn gangen o’r Gwasanaeth Allgymorth a Chefnogi Cynhwysiant (OASIS). Diben allweddol EST yw gweithio gydag ysgolion i gynyddu cynhwysiant plant mewn ysgolion cynradd, gyda ffocws arbennig ar y plant hynny sy’n derbyn gofal a phlant sydd mewn risg o gael gwaharddiad.

Ysgolion, fel arfer drwy’r Cydlynydd ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol), sy’n gyfrifol am gael EST i gymryd rhan.

Cydsyniad Gwybodus

Gofynnir am ganiatâd a chydsyniad wedi ei lofnodi gan rieni/gofalwyr bob amser cyn i EST gymryd rhan.

Rachael Roach-Rooke

Athrawes Arweiniol

Jane Sainsbury

Ymarferydd

Amy Lee

Ymarferydd

Dylai rhieni/gofalwyr gysylltu â Chydlynydd ADY lleoliad eu plentyn yn gyntaf i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt am eu plentyn ac a fyddai cyfeirio at y TCA yn fuddiol ar yr adeg hon

Manylion cyswllt Gweinyddydd Anghenion Dysgu Ychwanegol:
ALN@monmouthshire.gov.uk
 
Manylion cyswllt Arweinydd Dysgwyr Bregus:
rachaelroach-rooke@monmouthshire.gov.uk
 
Manylion cyswllt Athrawes Arweiniol y Tîm Cymorth Addysg (EST):
Amylee@monmouthshire.gov.uk y

Adnoddau OASIS 

Taflen OASIS ar gyfer rhieni a gofalwyr.pdf

Taflen 2025 – 2026 EST i rieni a gofalwyr.pdf

Taflen EST 2025-2026 Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc.pdf

Gwasanaeth Allgymorth a Chefnogi Cynhwysiant Sir Fynwy (OASIS)

Taflen Athrawon Canolfannau Adnoddau Arbenigol OASIS ar gyfer plant a phobl ifanc.pdf

Canllawiau OASIS ar gyfer ysgolion 2025-26.docx

Adnoddau TCA

OASIS parentcarer leaflet.pdf

EST ParentCarer Leaflet.pdf

EST Information for Children and Young People Leaflet.pdf

OASIS Guidance for schools 2024-5.pdf

MCC Digital Support – Inclusion Support – All Documents (sharepoint.com)

Rydym yn gweithio o fewn Gwerthoedd ac Ymddygiad Allweddol Cyngor Sir Fynwy:

Caiff ein diben ei seilio ar ymdeimlad clir o pwy ydym fel sefydliad. Disgwyliwn i’r bobl sy’n gweithio gyda ni i rannu set o werthoedd cryf a disgwyliwn i’r rhain fod yn amlwg yn y ffyrdd yr ydym yn gweithio ac yn cysylltu gyda’n cymunedau.

Gwaith Tîm

Byddwn yn gweithio gyda chi a’n partneriaid i gefnogi ac ysbrydoli pawb i gymryd rhan. Gwnawn y defnydd gorau oll o’r syniadau a’r adnoddau sydd ar gael i sicrhau ein bod yn gwneud y pethau sy’n cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ein pobl a’n lleoedd.

Agored

Rydym yn onest ac yn agored. Mae pobl yn cael cyfle i gymryd rhan a dweud wrthym beth sy’n bwysig.

Hyblygrwydd

Rydym yn hyblyg, gan alluogi cyflenwi’r gwasanaethau mwyaf effeithlon ac effeithiol. Mae hyn yn golygu ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda phawb i gofleidio ffyrdd newydd o weithio.

Tegwch

Rydym yn rhoi cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu. Byddwn bob amser yn ceisio trin pawb yn deg ac yn gyson.

Caredig

Byddwn yn dangos caredigrwydd at bawb y gweithiwn gyda nhw, gan roi pwysigrwydd ein perthynas a’n cysylltiad gyda’n gilydd wrth galon pob rhyngweithio.