Skip to Main Content

Mae siopwyr Sir Fynwy yn cael eu hannog i gefnogi eu busnesau lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig.  Fel rhan o ymgyrch Siopa Lleol Nadolig eleni, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi y bydd yn darparu parcio am ddim ar benwythnosau ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r cyngor o ddydd Sadwrn 4ydd Rhagfyr tan, ac yn cynnwys, Gŵyl San Steffan.

Mae’r parcio am ddim sydd ar gael yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy wedi’i gynllunio i annog trigolion Sir Fynwy i brynu eu rhoddion tymhorol a’u cynnyrch yn lleol, gan helpu busnes annibynnol y sir ar ddiwedd blwyddyn heriol iawn. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, yr Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth, “Rydym yn falch o gynnig parcio am ddim ar benwythnosau unwaith eto i’n trigolion dros gyfnod y Nadolig.  Mae’n gyfle gwych i ymweld â manwerthwyr lleol a chefnogi eu busnesau yn y 18 mis anodd iawn.  Mae hefyd yn gyfle gwych i gefnogi eich ffrindiau a’ch cymdogion sy’n rhedeg busnesau ledled y sir, ac rydym yn gobeithio y bydd busnesau lleol yn elwa o hyn yn ogystal â thrigolion cefnogol Sir Fynwy.”

Bydd y cyngor yn lansio ei ymgyrch Siopa Lleol Nadolig yn fuan a fydd hefyd yn gweld ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn ymgyrch poster Siopa Lleol i ddod â lliw’r Nadolig i’r stryd fawr, ac mae disgwyl i’r Ellyll #hunlun a godwyd mewn llawer o’n trefi’r llynedd i ailymddangos. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch Siopa Lleol ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/siopa-yn-lleol-siopa-yn-sir-fynwy/ a dilynwch dudalennau swyddogol y cyngor ar Facebook, Twitter ac Instagram gyda’r hashnod #SiopaLleol