Skip to Main Content

Mae gwahanol ffyrdd o dalu eich treth gyngor.

Gallwch wneud:

  • un taliad
  • dau daliad cyfartal
  • neu ledaenu’r gost dros 10 neu 12 mis mewn rhandaliadau

Taliad llawn

Oherwydd y cyfraddau llog isel, nid ydym bellach yn rhoi disgownt am dalu treth gyngor yn gynnar ac yn llawn.

Talu mewn rhandaliadau

  • Gallwch dalu mewn dau randaliad hanner blwyddyn ym mis Ebrill a mis Hydref, er y dylech hysbysu’r Cyngor os bwriadwch dalu yn y ffordd yma
  • Mae’r cynllun statudol yn rhoi hawl i chi dalu drwy 10 randaliad rhwng Ebrill ac Ionawr neu 12 randaliad

Os deuwch yn atebol am dreth gyngor yn ddiweddarach yn y flwyddyn gallech fod â hawl i lai o randaliadau.

Peidio talu

Mae’n ofyniad ar y cyngor i gymryd camau i adennill arian ar unrhyw randaliad sydd mewn ôl-ddyled a bydd yn anfon nodyn atgoffa.

Os daw’n angenrheidiol cyflwyno gŵys, byddir yn mynd i gostau a byddwch yn colli’r hawl i barhau i dalu drwy randaliadau yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

Golygir costau pellach os caiff y casgliad ei drosglwyddo i Asiantaeth Orfodaeth.

Dulliau talu

Defnyddiwch un o’r opsiynau islaw i wneud taliad i’r Cyngor:

Anawsterau yn talu eich treth gyngor

Dylai taliadau gael eu derbyn ar neu cyn y dyddiadau dyledus fel y nodir ar eich bil treth gyngor. Gallech golli’r hawl i dalu drwy randaliadau os cyhoeddir hysbysiadau atgoffa am daliadau gorddyledus. Os oes angen cyflwyno gŵys (am achos yn y llys Ynadon), bydd y balans llawn yn daladwy ac ychwanegir costau o £37.50.

Os na chaiff yr wŷs ei thalu’n llawn, yn cynnwys y costau, erbyn dyddiad y gwrandawiad, bydd y cyngor yn symud ymlaen gyda’r achos ac yn gofyn am orchymyn atebolrwydd, gan ychwanegu cost bellach o £30.00.

Mae gorchymyn atebolrwydd yn galluogi’r cyngor i gymryd camau pellach i adennill y ddyled.

Byddwn yn eich hysbysu drwy lythyr pan gawn orchymyn atebolrwydd. Pan dderbyniwch y llythyr hwnnw, dylech gysylltu â ni ar unwaith i drafod eich sefyllfa a gwneud trefniant i dalu’r swm sy’n ddyledus gennych.

Gallwch gysylltu â ni am gyngor ar unrhyw amser os ydych yn hwyr gyda’ch taliadau. Os ydych wedi derbyn gŵys, gallwch wneud trefniant ar gyfer talu ond bydd yn rhaid i chi ddal i dalu costau’r wŷs. Os na chaiff ei dalu’n llawn erbyn dyddiad y gwrandawiad, byddwn yn dal i ofyn am orchymyn atebolrwydd gan y Llys Ynadon.

Cyn i chi gysylltu â ni, gallai fod o help i chi wneud rhestr o’ch incwm a’ch gwariant a gweithio mas faint y gallech fforddio ei ad-dalu bob wythnos neu fis.

Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n cadw at y trefniant?

Os ydych yn hwyr gyda’r trefniant ac nad ydym yn clywed gennych, gallwn gasglu’r arian sy’n ddyledus gennych yn un o’r ffyrdd dilynol:

  1. Gallwn dynnu’r arian o’ch cyflog
  2. Gallwn dynnu’r arian o’ch budd-daliadau
  3. Gallwn ddefnyddio Asiantaeth Orfodaeth

Beth sy’n digwydd os byddwch yn pasio fy nghyfrif i Asiantaeth Orfodaeth?

Unwaith y byddwn wedi trosglwyddo eich cyfrif i’r Asiantaeth Orfodaeth, byddant yn cysylltu â chi. Dylech gysylltu â’r Asiantaeth Orfodaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Mae’r gorchymyn atebolrwydd yn galluogi’r Asiant Gorfodaeth i fynd â nwyddau o’ch eiddo fel y gallwn eu gwerthu a defnyddio’r arian i dalu am y dreth gyngor sy’n ddyledus gennych. Yn ymarferol dim ond mewn achosion difrifol y bydd hyn yn digwydd, gan y byddai’n well gan yr Asiantaeth Orfodaeth ddod i drefniant gyda chi i glirio’r ddyled dros gyfnod.

Mae gan asiantaethau gorfodaeth hawl i godi ffioedd a bydd y rhain yn daladwy i’r Asiant Orfodaeth yn ogystal â’r tâl treth gyngor a chostau gŵys.

Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni’n brydlon os ydych yn cael anawsterau gyda’ch taliadau fel y gallwn roi cyngor a chefnogaeth.

Cyswllt

E-bost: counciltax@monmouthshire.go

Mae gwahanol ffyrdd o dalu eich treth gyngor.

Gallwch wneud:

  • un taliad
  • dau daliad cyfartal
  • neu ledaenu’r gost dros 10 neu 12 mis mewn rhandaliadau

Taliad llawn

Oherwydd y cyfraddau llog isel, nid ydym bellach yn rhoi disgownt am dalu treth gyngor yn gynnar ac yn llawn.

Talu mewn rhandaliadau

  • Gallwch dalu mewn dau randaliad hanner blwyddyn ym mis Ebrill a mis Hydref, er y dylech hysbysu’r Cyngor os bwriadwch dalu yn y ffordd yma
  • Mae’r cynllun statudol yn rhoi hawl i chi dalu drwy 10 randaliad rhwng Ebrill ac Ionawr neu 12 randaliad

Os deuwch yn atebol am dreth gyngor yn ddiweddarach yn y flwyddyn gallech fod â hawl i lai o randaliadau.

Peidio talu

Mae’n ofyniad ar y cyngor i gymryd camau i adennill arian ar unrhyw randaliad sydd mewn ôl-ddyled a bydd yn anfon nodyn atgoffa.

Os daw’n angenrheidiol cyflwyno gŵys, byddir yn mynd i gostau a byddwch yn colli’r hawl i barhau i dalu drwy randaliadau yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

Golygir costau pellach os caiff y casgliad ei drosglwyddo i Asiantaeth Orfodaeth.

Dulliau talu

Defnyddiwch un o’r opsiynau islaw i wneud taliad i’r Cyngor:

Gofynnir i chi nodi i ni ddiweddaru ein system daliadau yn ddiweddar. Cysylltwch â ni ar 01633 644644 os gwelwch yn ddda os cewch unrhyw broblemau wrth wneud taliad ar y system newydd i’n helpu i ddydodi’r broblem. Mae oriau swyddfa dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ar gael ar wefan Sir Fynwy.

Anawsterau yn talu eich treth gyngor

Dylai taliadau gael eu derbyn ar neu cyn y dyddiadau dyledus fel y nodir ar eich bil treth gyngor. Gallech golli’r hawl i dalu drwy randaliadau os cyhoeddir hysbysiadau atgoffa am daliadau gorddyledus. Os oes angen cyflwyno gŵys (am achos yn y llys Ynadon), bydd y balans llawn yn daladwy ac ychwanegir costau o £40.00.

Os na chaiff yr wŷs ei thalu’n llawn, yn cynnwys y costau, erbyn dyddiad y gwrandawiad, bydd y cyngor yn symud ymlaen gyda’r achos ac yn gofyn am orchymyn atebolrwydd, gan ychwanegu cost bellach o £30.00.

Mae gorchymyn atebolrwydd yn galluogi’r cyngor i gymryd camau pellach i adennill y ddyled.

Byddwn yn eich hysbysu drwy lythyr pan gawn orchymyn atebolrwydd. Pan dderbyniwch y llythyr hwnnw, dylech gysylltu â ni ar unwaith i drafod eich sefyllfa a gwneud trefniant i dalu’r swm sy’n ddyledus gennych.

Gallwch gysylltu â ni am gyngor ar unrhyw amser os ydych yn hwyr gyda’ch taliadau. Os ydych wedi derbyn gŵys, gallwch wneud trefniant ar gyfer talu ond bydd yn rhaid i chi ddal i dalu costau’r wŷs. Os na chaiff ei dalu’n llawn erbyn dyddiad y gwrandawiad, byddwn yn dal i ofyn am orchymyn atebolrwydd gan y Llys Ynadon.

Cyn i chi gysylltu â ni, gallai fod o help i chi wneud rhestr o’ch incwm a’ch gwariant a gweithio mas faint y gallech fforddio ei ad-dalu bob wythnos neu fis.

Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n cadw at y trefniant?

Os ydych yn hwyr gyda’r trefniant ac nad ydym yn clywed gennych, gallwn gasglu’r arian sy’n ddyledus gennych yn un o’r ffyrdd dilynol:

  1. Gallwn dynnu’r arian o’ch cyflog
  2. Gallwn dynnu’r arian o’ch budd-daliadau
  3. Gallwn ddefnyddio Asiantaeth Orfodaeth

Beth sy’n digwydd os byddwch yn pasio fy nghyfrif i Asiantaeth Orfodaeth?

Unwaith y byddwn wedi trosglwyddo eich cyfrif i’r Asiantaeth Orfodaeth, byddant yn cysylltu â chi. Dylech gysylltu â’r Asiantaeth Orfodaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Mae’r gorchymyn atebolrwydd yn galluogi’r Asiant Gorfodaeth i fynd â nwyddau o’ch eiddo fel y gallwn eu gwerthu a defnyddio’r arian i dalu am y dreth gyngor sy’n ddyledus gennych. Yn ymarferol dim ond mewn achosion difrifol y bydd hyn yn digwydd, gan y byddai’n well gan yr Asiantaeth Orfodaeth ddod i drefniant gyda chi i glirio’r ddyled dros gyfnod.

Mae gan asiantaethau gorfodaeth hawl i godi ffioedd a bydd y rhain yn daladwy i’r Asiant Orfodaeth yn ogystal â’r tâl treth gyngor a chostau gŵys.

Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni’n brydlon os ydych yn cael anawsterau gyda’ch taliadau fel y gallwn roi cyngor a chefnogaeth.

Cyswllt

E-bost: counciltax@monmouthshire.gov.uk